Plaid Cymru yw'r 'unig blaid sy'n rhoi Cymru'n gyntaf'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Plaid Cymru'n lansio eu hymgyrch etholiad cyffredinol ym Mangor ddydd Iau

Mae hi'n amser "cicio'r Ceidwadwyr allan o rym" yn 么l Rhun ap Iorwerth, gan ychwanegu fod pobl Cymru wedi cael llond bol o'r blaid Lafur yn "cymryd Cymru'n ganiataol".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, wrth lansio eu hymgyrch etholiad cyffredinol ym Mangor ddydd Iau, mai ei blaid o oedd yr unig un "sy'n rhoi Cymru yn gyntaf".

Dywedodd arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, eu bod yn dyfeisio "syniadau newydd" fel datganoli Ystad y Goron, a chreu Cronfa Cyfoeth Cymru, i gryfhau economi Cymru.

Mae Ystad y Goron yn gwmni annibynnol sy'n eiddo i'r Brenin neu'r Frenhines yn ystod eu teyrnasiad, ond mae elw portffolio eiddo'r cwmni - sydd yn werth 拢16bn - yn mynd yn syth i Drysorlys Llywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru/PA

Disgrifiad o'r llun, Daeth Rhun ap Iorwerth yn arweinydd Plaid Cymru yn 2023 gan olynu Adam Price

Tra bod Llywodraeth Cymru'n rheoli meysydd fel iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, ac amaeth, mae datganoli Ystad y Goron i Gymru yn rhywbeth mae Plaid Cymru wedi galw amdano ers amser.

Mae'r blaid eisiau i elw Ystad y Goron gael ei ddefnyddio mewn Cronfa Cyfoeth Cymru a fydd yn buddsoddi mewn cymunedau.

Dywedodd Liz Saville Roberts nad oedd Plaid Cymru ofn siarad am "yr eliffant yn yr ystafell" sef Brexit.

Ychwanegodd bod ganddyn nhw'r atebion i'r problemau sy'n effeithio pobl leol - sef "ailymuno 芒'r farchnad sengl a'r undeb dollau".

鈥淢ae鈥檔 amlwg bod pobl ledled Cymru wedi cael llond bol ar y llywodraeth Geidwadol drychinebus a dinistriol hon," ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.

鈥淢ewn cyferbyniad llwyr, mae ymgyrch Llafur eisoes wedi diystyru cyllid tecach i Gymru.

鈥淢aen nhw鈥檔 fodlon ein gweld ni ynghlwm 芒 senedd San Steffan sy鈥檔 dal Cymru yn 么l.

鈥淣id yw鈥檙 etholiad hwn yn ymwneud yn unig 芒 phwy sydd 芒鈥檙 allweddi i 10 Downing Street.

鈥淢ae hefyd yn ymwneud 芒 phwy sy鈥檔 cynrychioli eich stryd, eich cymuned, a buddiannau eich gwlad o ddydd i ddydd.鈥

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies

Mae ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau cyffredinol yn draddodiadol yn anodd i bleidiau fel Plaid Cymru, sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd cystadlu gyda鈥檙 sylw ar y ddwy brif blaid sy鈥檔 cystadlu i ffurfio llywodraeth.

Mae鈥檙 newidiadau i鈥檙 ffiniau etholaethol yn yr etholiad hwn yn gwneud pethau鈥檔 fwy anodd i鈥檙 blaid hefyd, gydag un o鈥檙 etholaethau y mae鈥檔 ei chynrychioli ar hyn o bryd 鈥 Arfon 鈥 yn diflannu鈥檔 llwyr.

Mae Rhun ap Iorwerth yn cydnabod nad ydy鈥檙 newidiadau wedi bod yn 鈥済aredig鈥 i鈥檞 blaid.

Serch hynny mae Plaid Cymru鈥檔 hyderus o ddal ei gafael ar Geredigion Preseli a Dwyfor Meirionnydd 鈥 dwy etholaeth sydd wedi eu seilio ar ardaloedd y mae鈥檙 blaid yn eu cynrychioli鈥檔 barod.

Mae ganddi ei golygon ar Gaerfyrddin hefyd. Ond heb os, prif sedd darged Plaid Cymru yw Ynys M么n, ble bydd hi鈥檔 cystadlu gyda鈥檙 Ceidwadwyr a Llafur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019 fe enillodd Plaid bedair sedd o鈥檙 40 etholaeth yng Nghymru.

Yn dilyn ad-drefnu ffiniau sydd wedi lleihau鈥檙 nifer hwnnw i 32, fe allai fod yn anodd iddyn nhw wneud yr un peth y tro hwn.

Mae'r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn cynrychioli Ynys M么n yn Senedd Cymru, a dyna un o brif seddau targed y blaid ar gyfer yr etholiad ar 4 Gorffennaf.