Â鶹ԼÅÄ

AS Llafur 'methu bod yn ymgeisydd oherwydd ymchwiliad'

Geraint DaviesFfynhonnell y llun, Senedd y DU/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Davies wedi cynrychioli etholaeth Gorllewin Abertawe yn San Steffan am 14 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, yn dweud na allai sefyll fel ymgeisydd Llafur yn yr etholiad cyffredinol gan fod ymchwiliad yn parhau i honiadau am ei ymddygiad.

Mae'r AS, a gafodd ei wahardd o'r Blaid Lafur y llynedd, yn honni nad yw wedi cael cyfle i glirio'i enw.

Dywedodd y blaid fis Mehefin y llynedd bod Mr Davies wedi cael ei wahardd yn dilyn honiadau "difrifol eithriadol" am "ymddygiad cwbl annerbyniol".

Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais am sylw.

Mewn llythyr yn datgan na fydd yn sefyll fel ymgeisydd am sedd Gorllewin Abertawe y tro hwn, dywedodd Mr Davies nad yw wedi cael gwrandawiad eto er iddo gael ei wahardd flwyddyn yn ôl.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi siarad yn y gorffennol gyda tri AS benywaidd sy'n dweud eu bod wedi cael eu rhybuddio ynghylch Mr Davies yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn San Steffan.

Fe gafodd yr AS, sydd wedi cynrychioli'r etholaeth ers 2010, ei wahardd gan y Blaid Lafur wedi i'r wefan Politico gyhoeddi honiadau y mae Mr Davies yn mynnu nad yw yn eu hadnabod.

Mewn llythyr ar ei gyfrif X ddydd Mawrth, dywedodd Mr Davies: "Ar ôl cael fy ngwahardd flwyddyn yn ôl yn dilyn honiadau anhysbys yn y cyfryngau, rwy'n siomedig nad wyf eto wedi cael gwrandawiad gan y Blaid Lafur a'r cyfle i glirio fy enw.

"O ganlyniad, nid wyf yn gallu sefyll fel ymgeisydd Llafur yn yr etholiad cyffredinol a byddaf yn parhau i fynnu gwrandawiad teg [wedi'r etholiad]."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gofyn i'r Blaid Lafur am ymateb.

Pynciau cysylltiedig