Â鶹ԼÅÄ

Gary Lineker wedi gwthio'r ffiniau i'r eithaf, meddai cyn-gadeirydd y Â鶹ԼÅÄ

Y Fonesig Elan Closs Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Y Fonesig Elan Closs Stephens yn gadeirydd y Â鶹ԼÅÄ rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae Elan Closs Stephens, a gadeiriodd y Â鶹ԼÅÄ yn ystod y cyfnod cafodd Gary Lineker ei atal o’i waith dros dro, wedi dweud fod y cyflwynydd wedi gwthio ffiniau'r gorfforaeth i'r eithaf.

Bu'r Fonesig Elan yn siarad am ei phrofiad o gyfnod cythryblus i'r gorfforaeth, gan gynnwys yr helynt pan oedd stori Huw Edwards yn y penawdau.

Roedd y Gymraes yn aelod o Fwrdd y Â鶹ԼÅÄ ers 2017 - a'i ragflaenydd, Ymddiriedolaeth y Â鶹ԼÅÄ, am saith mlynedd cyn hynny - cyn cael ei hapwyntio'n gadeirydd dros dro rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2024.

Yn ystod cyfnod y Fonesig Elan ar y bwrdd, roedd Lineker - cyflwynydd Match of the Day - wedi dod o dan y lach yn gyson am ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

'Mae o'n bryfoclyd'

Y llynedd roedd Lineker, cyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr, yn cael ei gyhuddo o dorri rheolau diduedd y Â鶹ԼÅÄ.

Wedi iddo feirniadu ieithwedd y llywodraeth Geidwadol wrth drafod ffoaduriaid, fe gafodd ei ddiswyddo am gyfnod ym mis Mawrth 2023.

Fe wnaeth hyn amharu ar arlwy chwaraeon y Â鶹ԼÅÄ wedi i'w gyd-weithwyr ei gefnogi a gwrthod gweithio.

Cafodd Lineker ddychwelyd i'w swydd yn y pen draw ac fe gyhoeddodd y Â鶹ԼÅÄ arolygiad o'u canllawiau mewnol ynglÅ·n â'r cyfryngau cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Gary Lineker sy'n parhau i dderbyn y cyflog mwyaf o holl aelodau staff y Â鶹ԼÅÄ

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol dywedodd y Fonesig Elan: "Bob tro ro'n i'n mynd i weld yr Ysgrifennydd Gwladol [Lucy Frazer] mi roedd mater Gary Lineker ar flaen ei bysedd hi.

"Ac mae'n rhaid dweud mae o [Lineker] yn bryfoclyd hefyd - mae o'n popian fyny bob hyn a hyn - a tydi o ddim yn 'neud bywyd rhywun yn hawdd.

"Ac mae o'n gwthio'r ffinia'. Hynny ydy, roedd genno' ni arweinlyfr ar be' oeddech chi'n gallu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol, a dewrder a ffolineb Lineker ydy bod o'n gwthio'r ffiniau yna i'r eithaf.

"Os oedd 'na drydar dy'dwch am gwch oedd wedi suddo neu rywbeth, bydda fo'n ail drydar o - fydda fo ddim yn dweud dim byd ac felly doedd o ddim wedi dweud bod o'n cytuno nag anghytuno - roedd o jest wedi ail drydar.

"Ond wrth gwrs roedd hynny'n dân ar groen llawer iawn o bobl oedd eisiau gweld o'n cael ei ddiswyddo."

Pan gysylltodd Cymru Fyw gyda chynrychiolydd Lineker am ymateb i sylwadau'r Fonesig Elan, dywedodd na fyddai am wneud hynny.

'Stori drist' Huw Edwards

O fewn wythnosau i'r Fonesig Elan ymgymryd â'r gwaith fel cadeirydd, fe ymddangosodd straeon yn y wasg ynglŷn â'r darlledwr Huw Edwards wnaeth arwain iddo ddod oddi ar yr awyr yn haf 2023.

Yn ddiweddarach fe wnaeth y Â鶹ԼÅÄ ymddiheuro am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio â'r gŵyn amdano.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y Fonesig Elan Closs Stephens, fel Cadeirydd Bwrdd y Â鶹ԼÅÄ, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfathrebu TÅ·'r Arglwyddi fis Gorffennaf 2023, gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol y Â鶹ԼÅÄ Tim Davie a Chyfarwyddwr Polisi'r Â鶹ԼÅÄ Clare Sumner

Dywedodd y Fonesig Elan: "Roedd hi yn stori drist."

"Ac wrth gwrs roedd marwolaeth y Frenhines, angladd y Frenhines a'r Coroni - roedd y cyfan wedi digwydd o fewn ychydig fisoedd.

"Y peth cyntaf wrth gwrs oedd gwneud yn saff bod Huw yn iawn a bod y teulu yn cael gofal a diogelwch… ond yn fwy na hynny alla'i ddim sôn."

Yn ystod ei chyfweliad mae'r Fonesig Elan, sydd hefyd yn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn gyn-gadeirydd S4C, yn sôn am y tensiynau rhwng Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd a'r Â鶹ԼÅÄ.

Wedi iddi gael ei phenodi'n gadeirydd dros dro Bwrdd y Â鶹ԼÅÄ, roedd hi'n aml yn cael cyfarfodydd heriol gyda'r ysgrifennydd gwladol, Lucy Frazer, meddai.

Mae'r Fonesig Elan hefyd yn trafod ei barn ar ddatganoli darlledu a sefyllfa S4C.