Â鶹ԼÅÄ

Y Fonesig Elan Closs Stephens yn gadeirydd dros dro y Â鶹ԼÅÄ

  • Cyhoeddwyd
Dame Elan Closs Stephens

Mae'r Fonesig Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi'n gadeirydd dros dro ar y Â鶹ԼÅÄ, yn dilyn ymddiswyddiad Richard Sharp.

Dywedodd y Fonesig Elan fod yr apwyntiad yn "anrhydedd anferthol".

Gadawodd Mr Sharp ei rôl fel cadeirydd ym mis Ebrill.

Roedd adroddiad yn awgrymu bod gwrthdaro buddiannau yn y ffordd yr oedd Mr Sharp wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda Llywodraeth y DU ar gyfer dyn busnes oedd yn cynnig benthyciad ariannol i'r cyn-brif weinidog Boris Johnson.

Cefndir Y Fonesig Elan

Bu'r Fonesig Elan yn gadeirydd S4C am ddau dymor o 1998 tan 2006.

Bydd yn arwain bwrdd y Â鶹ԼÅÄ o 27 Mehefin am 12 mis, neu cyn hynny os bydd cadeirydd parhaol newydd wedi'i benodi.

Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen.

Mae'n Athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, a hefyd yn Ddirprwy Ganghellor y brifysgol.

Hi yw Comisiynydd Etholiadol Cymru, mae'n gyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, ac mae hefyd wedi gwasanaethu ar sawl corff neu bwyllgor cyhoeddus arall dros y blynyddoedd.

Pynciau cysylltiedig