Main content

Y Fonesig Elan Closs Stephens

Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro y ΒιΆΉΤΌΕΔ, yw gwestai Beti George. Beti George chats to Dame Elan Closs Stephens DBE, former acting chair of the ΒιΆΉΤΌΕΔ.

Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r ΒιΆΉΤΌΕΔ, yw gwestai Beti a’i Phobol.
Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, β€œ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cΕ΅n defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud Γ’ 18 o gyrff gwahanol.

Mae hi’n sΓ΄n am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gΕ΅r yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nΓ΄l a sut mae hi’n byw bywyd wedi hynny.

Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym.

Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.

Ar gael nawr

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 25 Gorff 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Louis Armstrong

    What A Wonderful World

    • This Is My Song - Love Songs Of The 6.
    • Old Gold.
  • Hen Ogledd

    Gwae Reged o Heddiw

    • Mogic.
    • Weird World.
    • 5.
  • Claudio Monteverdi

    Pur ti miro

    Lyricist: Claudio Monteverdi. Conductor: Harry Christophers.
    • Eternal Light.
    • Decca (UMO).
    • 16.
  • Bob Dylan

    Blowin' In The Wind

    • The Best Of Bob Dylan.
    • Columbia.

Darllediadau

  • Sul 21 Gorff 2024 18:00
  • Iau 25 Gorff 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad