Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Y tymheredd yn cyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg - y record flaenorol yng Nghymru oedd 35.2C, a osodwyd yn 1990

  • System awyru newydd ar waith yn y Sioe yn Llanelwedd

  • Pobl yn heidio i lan môr wrth i'r haul dywynnu

  • Rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a ddydd Mawrth

  • Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng cenedlaethol yn sgil y tywydd llethol

  1. 'Mae'n bwysig i bobl gymryd y tywydd poeth o ddifri''wedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Wrth i arbenigwyr ragweld tywydd eithriadol o dwym yng Nghymru dros y ddeuddydd nesaf, dywed y Gweinidog Iechyd ei bod hi'n hynod o bwysig i bobl gymryd y tywydd o ddifri'.

    Mae'r Gwasanaeth Iechyd eisoes o dan bwysau, medd Eluned Morgan, ac felly mae'n hynod bwysig fod pobl yn yfed digon o ddŵr ac yn aros yn y cysgod, pan yn bosib.

  2. Ydi - mae hi'r diwrnod poethaf erioed ar gofnod yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cyngor i gael cawod oer os yn poethiwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    cawod

    Un o'r cynghorion yw cael cawod oer os yn poethi - ac mae'r gwartheg ar faes y Sioe wedi cael sawl cawod ddydd Llun.

  4. Tybed sut fydd heddiw yn cymharu?wedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    map o Gymru
  5. Manteisio ar y tywydd braf yn Rhosneigr hefydwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    rhosneigr
  6. Dim prinder pobl yn Llanberis ar ddiwrnod cyntaf y gwyliau i niferwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Llanberis

    Llanberis
  7. 33.5C yng Ngheredigion a 28.7C yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    • Gogerddan, Ceredigion 33.5C
    • Bodelwyddan, Sir Ddinbych 30.7C
    • Pen-bre, Sir Gaerfyrddin 30.2C
    • Penarlâg, Sir y Fflint 29.1C
    • Brynbuga, Sir Fynwy 29.4C
    • Caerdydd 28.7C
    Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  8. Llai o bobl yn Llandudno na'r arfer ond awel ysgafn o'r môr "yn hyfryd"wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    llandudno1

    Braidd yn wacach nag arfer yw traeth Llandudno ar hyn o bryd ac y mae'r rhai sydd wedi dod i fwynhau'r heulwen wedi dod â chysgod pwrpasol - pabell neu ymbarel.

    Mae un teulu o Uttoxeter yn Sir Stafford wedi teithio yma am y diwrnod gan bod disgwyl i Gymru fod ychydig yn oerach na rhannau o Loegr, medd Chris.

    "Mae'n hyfryd yma gydag awel ysgafn o'r môr."

    Llandudno
  9. Hulk y faharen: 'Mae'r got yma yn andros o dwym'wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Os ydych chi’n teimlo'n gynnes, meddyliwch am Hulk y faharen Valais Blacknose 14 mis oed – yma’n cael ei dywys gan Steve Dace sy’n ffermio’r brid ger Caer.

    maharen
  10. Y tymheredd ar ei uchaf yng Ngogerddan, Ceredigion hyd ymawedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Tywydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Y coed yn darparu cysgod i gael cinio yn y Sioe Fawrwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    cysgod sioe
  12. Pobl yn heidio i Lyn Tegid wrth i'r tywydd boethiwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae yna rybudd i ymwelwyr sy'n ymweld â Llyn Tegid i fod yn hynod o ofalus wedi i algae gwyrddlas gael ei ganfod yn y dŵr.

    Fore Llun roedd y llyn yn atyniad poblogaidd wrth i'r tywydd boethi ar draws Cymru.

    Llyn Tegid
  13. Trên Consti ar stop heddiwwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae yna neges gan staff Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud na fydd y trên yn weithredol heddiw oherwydd y tywydd poeth.

    "Fe allai'r traciau orboethi," medd y neges ond mae'r caffi ar agor ac mae 'na rybudd i gerddwyr yfed digon o ddŵr.

    Tren Consti
  14. O ydi mae'n dwym yn y Sioe - ond mae 'na atebion!wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    sioe

    Mae Harm, 8, o’r Iseldiroedd sy’n ymweld efo’i deulu yn gwneud y mwya' o’r cyfle i osgoi’r gwres

    Mae Hedd, 2, o Grymych yn cael seibiant yng nghysgod y sied ddefaid

    sioe
  15. Sut mae cadw'n ddiogel yn y gwres?wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    poeth
  16. Hetiau rif y gwlith yn y Sioe Fawrwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    het

    Un o'r cynghorion yw gwisgo het os yn mynd allan ac yn amlwg mae'r ymwelwyr â'r Sioe Fawr wedi gwrando.

    hetFfynhonnell y llun, bbc
    sioe het
  17. 'Mi hoffwn fyw ar Ynys Llanddwyn'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Llanddwyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa ar Ynys Llanddwyn fore Llun

  18. Y cyngor yw peidio teithio os nad oes rhaidwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae gofyn i bobl beidio â theithio os nad yw'n hanfodol ac mae rhai ysgolion, sy'n parhau ar agor, yn cynghori disgyblion i wisgo dillad ysgafn a llac.

    Mae rhai gwasanaethau trên wedi cael eu canslo, wrth i Network Rail rybuddio y gallai'r gwres achosi difrod i'r cledrau mewn achosion difrifol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Ac ydi mae'n gynnes yn y sioe!wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    awyru

    Wrth siarad â Cymru Fyw wythnos diwethaf roedd prif filfeddyg y sioe yn dweud bod Llanelwedd yn llygad y gwres - ac mae hynny'n hollol wir ond mae pawb â'u ffordd o ymdopi.

    Ar ddiwrnod cyntaf y sioe mae system awyru newydd i ddefaid yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ac mae drefniadau ar gyfer anifeiliaid eraill hefyd.

    "Ry' ni wedi buddsoddi £50,000 mewn ffaniau mawr yn y sied ddefaid i 'neud siŵr fod popeth yn ddiogel," meddai Mared Jones, pennaeth gweithrediadau'r Sioe Fawr.

    ymbarel
    ffan
  20. Garry Owen: Y cyngor ar faes y Sioewedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022