Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Y tymheredd yn cyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg - y record flaenorol yng Nghymru oedd 35.2C, a osodwyd yn 1990

  • System awyru newydd ar waith yn y Sioe yn Llanelwedd

  • Pobl yn heidio i lan môr wrth i'r haul dywynnu

  • Rhybudd ambr am dywydd poeth eithriadol mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Llun a ddydd Mawrth

  • Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng cenedlaethol yn sgil y tywydd llethol

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    A dyna ni am heddiw - ar ddiwrnod hanesyddol yng Nghymru.

    Fe wnaeth y tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint - gan fynd heibio y record flaenorol am yr eildro mewn diwrnod.

    Cafodd y record ei thorri'n gynt ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 35.3C yn ardal Gogerddan, Ceredigion.

    Mae tymheredd heddiw yn uwch na darogan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Cymru.

    Ydi mae'n gynnes ac yn ôl y rhagolygon fe fydd hi'n gynnes eto fory.

    Cymerwch ofal - diolch am ddarllen.

    Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro.

    Penarlag
    Disgrifiad o’r llun,

    Penarlâg yn creu hanes ddydd Llun wrth gofnodi y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru

  2. 'Erioed wedi gweld cymaint o bobl yn Llanberis'wedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Nia Cerys
    Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Rhybudd bod angen gofal wrth fynd i'r parc yn y tywydd poethwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Tymheredd o 37.1 wedi'i gofnodi ym Mhenarlâg y prynhawn 'mawedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Wedi i bobl Ceredigion gredu mai yng Ngogerddan oedd hi boethaf ddydd Llun - cafwyd diweddariad yn hwyrach gan y Swyddfa Dywydd.

    Roedd hi'n boeth iawn yng Ngogerddan ond yn boethach ym Mhenarlâg yn hwyrach wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C.

    Dyma ddiwrnod hanesyddol wrth i gofnodion tymheredd Cymru dorri dwy record mewn diwrnod - rhyfeddol!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Y system oeri defaid yn y Sioe yn oeri pobl hefyd!wedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe yn Llanelwedd roedd y system awyru newydd i oeri'r defaid yn hynod ddefnyddiol wrth i Gymru gofnodi y diwrnod cynhesaf erioed.

    Roedd y system hefyd yn oeri pobl - ac yn bwysicach na dim roedd y bridwyr wedi'u plesio.

    Disgrifiad,

    'Oer neis' yn y sied ddefaid diolch i system awyru newydd

  6. Yr Wyddfa a'i chriw ar ddiwrnod hanesyddolwedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Lwcus nad heddiw oedd Ras yr Wyddfa – dyma'r olygfa o fynydd uchaf Cymru o lan Llyn Padarn.

    Llyn Padarn
  7. Y tymheredd y tu hwnt i Gymruwedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Am 15:00 roedd y tymheredd uchaf yn Lloegr yn Cavendish sef 37.5C.

    Dyma'r diwrnod poethaf eleni yn Yr Alban - 30.2C yn Aboyne

    ac yng Ngogledd Iwerddon roedd y tymheredd ar ei uchaf yn 28.8C yn Aldergrove.

    tir cynnes
  8. Graeanu'r ffordd yn yr haf?!wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    "Mae heddiw yn mynd i fod yn ddiwrnod prysur i ni," medd llefarydd ar ran cymdeithas foduro yr RAC.

    "Mae'r olew yn poethi a'r teiars yn cael eu difrodi yn y gwres ac efallai bydd yn rhaid graeanu'r ffordd i atal cerbydau rhag llithro.

    "Os oes dŵr i'w weld o dan gerbydau - peidiwch â chael ofn - mae e fwy na thebyg wedi dod o'r uned awyru," ychwanegodd.

    Mae rhai rheilffyrdd wedi cael eu paentio yn wyn er mwyn delio â'r gwres llethol.

    rheilfforddFfynhonnell y llun, Network Rail
  9. Heddlu'r De yn rhybuddio y gall y tymheredd godi yn gyflym iawn y tu mewn i gerbydwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Heddlu De Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Pwy sydd â'r het haul orau?wedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Teulu yn Aberporth

    Mae'r teulu yma'n mwynhau yn eu hetiau haul lliwgar ar draeth Aberporth.

    Traeth Aberporth
    Disgrifiad o’r llun,

    Traeth Aberporth yn orlawn ar brynhawn poeth

  11. Ffansi trip i Ynys Seiriol?wedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Wel, mae 'na ddigon o le! Yn ôl trefnwr y teithiau, dyw hi ddim mor brysur â'r disgwyl.

    Dywedodd Jason Zalot bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar sut y mae pobl yn gwario'u harian.

    Mae'n gobeithio y bydd pethau'n dechrau prysuro ar ôl i'r gwres mawr ostwng ac wrth i'r gwyliau haf ddenu mwy o ymwelwyr.

    Jason Zalot
    Disgrifiad o’r llun,

    Jason Zalot yn aros am gwsmeriaid

  12. Pwysig defnyddio eli haul cymharol newyddwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae arbenigwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd defnyddio eli haul sydd wed ei brynu yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae yna gyngor i bobl fod yn ofalus os ydyn nhw'n mynd i'r dŵr.

    Dywedodd Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Abertawe eu bod yn barod wedi gweld cynnydd yn y nifer o blant sy'n gorfod cael eu trin am losgiadau difrifol.

    "Mae llosgi dy groen yn cynyddu'r posibilrwydd o ddatblygu canser y croen," medd y nyrs Louise Scannell.

    "Os wyt ti wedi llosgi'n ddifrifol cyn i ti fod yn 18 oed, does dim modd dad-wneud y niwed yna... felly mae'n bwysig iawn i wisgo eli haul."

    eli haulFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Y môr yn ddihangfa o'r gwres i bobl ym Mhorth Einonwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Porth Einion

    Porth Einion
  14. Lapio gwlân ar ddiwrnod cynhesaf y flwyddynwedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    gwlan

    Fyddai rhywun, efallai, ddim yn dewis gweithio gyda gwlân ar ddiwrnod cynhesaf y flwyddyn ond dyma Fflur Jones o Fachynlleth yn cymryd rhan yn un o’r cystadlaethau lapio gwlân.

    gwlan
  15. Doedd yna ddim trafferthion croesi i Ynys Enlli heddiw!wedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    EnlliFfynhonnell y llun, Gareth Williams
    EnlliFfynhonnell y llun, Gareth Williams
  16. Y tywydd yn effeithio ar gasglu gwastraff yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Cyngor Wrecsam

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dim angen y got 'na ar y Prif Weinidog yn y Sioe!wedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae disgwyl y bydd dros 50,000 yn heidio i'r Sioe yn Llanelwedd bob dydd.

    Ymhlith y dorf heddiw roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Mark Drakeford
  18. Nifer o wasanaethau trên wedi'u canslowedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae cwmnïau trên wedi rhybuddio bod cyfyngiadau cyflymdra ar y rheilffyrdd drwy'r DU, sydd yn golygu y bydd teithiau'n cymryd mwy o amser.

    Mae Trafnidiaeth Cymru wedi canslo trenau sydd yn teithio drwy ardaloedd rhybudd coch y Swyddfa Dywydd.

    Mae'r gwasanaethau canlynol wedi cael eu canslo: Amwythig-Birmingham, Caer-Lerpwl, Caer-Manceinion, Caer-Crewe a Crewe-Manceinion, yn ogystal â Llinell Dyffryn Conwy.

    Dywedodd Network Rail fod cledrau dur yn amsugno gwres yn hawdd, a phan maen nhw'n cyrraedd tymheredd uchel mae'n bosib y gallan nhw dorri.

    Ychydig o bobl oedd ar wasanaeth tanddaearol Llundain yn ystod y dydd.

    tube
  19. 'Dan ni ddim wedi cael tywydd fel hyn erioed o'r blaen'wedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Mae Wendy (canol), Dave (dde), Diane (chwith) a Gary wedi dod o Sir Amwythig i draeth Porth Trecastell ym Môn i fwynhau'r tywydd.

    "Ry'n ni'n ymwybodol o'r rhybuddion ond ry'n ni wedi rhoi digon o eli haul ac mae gen i het," medd Dave.

    "Ry'n am fwynhau ychydig o'r haul."

    "Mae e i gyd i 'neud â synnwyr cyffredin," medd Wendy.

    "Dydi o ddim fel 'dan ni erioed wedi cael tywydd fel hyn erioed o'r blaen."

    porth castell
  20. Gogerddan yn creu hanes!wedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 18 Gorffennaf 2022

    Cyn heddiw roedd cofnodion yn nodi mai ym Mhenarlâg oedd y tymheredd uchaf yng Nghymru a hynny yn 35.2 ar 2 Awst 1990 ond bellach yng Ngheredigion mae'r record.

    Brynhawn Llun cofnodwyd tymheredd o 35.3C.

    Ydi mae enw Gogerddan yn llenwi'r cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd!