鶹Լ

Crynodeb

  • Swyddi'r Urdd dan fygythiad

  • Gwersi a phrofion gyrru i ailddechrau

  • Ceredigion: 'Angen edrych ar ffigyrau marwolaethau'

  • Cynllun £9m i 'helpu trefi Cymru'

  1. Hwyl Fawrwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Dyna'r cyfan gan dîm y llif byw am heddiw.

    Bydd dal modd gweld y newyddion diweddaraf ar y brif hafan.

    Fe fydd y llif byw yn ôl bore fory gyda'r diweddara am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Diolch am ddarllen a hwyl am y tro.

  2. Cyfle o'r diwedd am wersi gyrruwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae Elin Cheung o Lanfairpwll yn "falch" i glywed y bydd gwersi gyrru a phrofion yn ailgychwyn mis nesaf.

    Roedd Elin, sy'n 20 oed, wedi bod yn cael gwersi gyrru wrth astudio yn y brifysgol yng Nghaeredin.

    Ond yna digwyddodd y cyfnod clo ac fe ddaeth hi yn ôl adref i fyw. Yn y mis diwethaf mae wedi dechrau ymarfer yn y car gyda'i thad.

    Mae'n dweud bod y cyfnod ar y dechrau pan nad oedd modd gwneud dim yn rhwystredig.

    "'Oedd o yn anodd ar y cychwyn achos o'n i ofn fyswn i yn anghofio bob dim.

    "O'n i wedi investio amser a phres yn y gwersi ar y cychwyn ac wedyn o'n i yn cael mynd allan mwy yn y car.

    "Ond oedd o bach yn anodd efo dad fi achos o'n i wedi arfer efo instructor ac wedyn o'n i yn gorfod trystio beth oedd o yn deud. Ond...dwi wedi cael digon o bractis rŵan.

    elinFfynhonnell y llun, ELIN CHEUNG

    Roedd Elin wedi bwcio i wneud ei phrawf theori ddechrau'r mis yma ym Mangor ond cafodd hwnnw ei ganslo.

    Mae felly wedi penderfynu gwneud ei phrawf yng Nghaer am na fyddai yn gallu ei wneud ym Mangor tan fis Awst.

  3. Ymateb cymysg i gronfa newyddwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae cronfa newydd gwerth £9m i helpu canol trefi i wella ar ôl pandemig Covid-19 wedi derbyn ymateb cymysg gan fasnachwyr.

    Wrth ymweld â Rhyl yn Sir Ddinbych, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn y byddai'r cyllid yn cefnogi masnachwyr ac yn gwella diogelwch y cyhoedd.

    Ond dywedodd un perchennog busnes yno ei fod yn "gam bach iawn", ac fe ddywedodd un arall y gallai addasiadau yn ein trefi wella hyder siopwyr.

    rhyl
  4. Gŵyl Jazz rhithiolwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Fe fydd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn ddigwyddiad rhithiol eleni.

    Dywed y trefnwyr y bydd perfformiadau i'w gweld ar-lein rhwng 7 Awst a 30 Awst.

    Yn ôl y trefnwyr dyw'r posibilrwydd o gynnal rhyw fath o ŵyl yn yr awyr agored cyn diwedd y flwyddyn ddim yn amhosib chwaith.

    Mae'r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 37 oed eleni.

    jazzFfynhonnell y llun, Tim Dickeson
  5. Deddfau'r Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Adroddiad yn tanlinellu anghenion gofalwyr ifanc yn ystod cyfnod y Covidwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Marwolaethau Covid-19 yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae cyfanswm o 1,545 o bobl wedi marw o'r haint yng Nghymru.

    MAPFfynhonnell y llun, IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
  8. Galw am estyniad i’r cyfnod pontio Brexitwedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am estyniad i’r cyfnod pontio Brexit y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn er mwyn canolbwyntio ar yr ymateb i Covid-19.

    Y dyddiad cau ar gyfer i'r DU ofyn am estyniad oedd 31 Mehefin, ond mae Mark Drakeford wedi galw am wneud cais am hyn beth bynnag.

    "Yn sicr nid yw Brexit wedi diflannu ac mae Brexit yn mynd i ddigwydd," meddai yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd.

    "Y cyfan rydyn ni'n canolbwyntio arno yw ceisio ei helpu i ddigwydd mewn ffordd nad yw'n ychwanegu haen arall o drallod economaidd ar gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd."

  9. Gweld y teulu: 'Dim modd dal y dagrau nôl'wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Sut brofiad yw'r cwtsh cyntaf ar ôl pedwar mis ar wahân?

    Read More
  10. Angen i brofion fod yn barod am yr ail donwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Dau berson arall wedi marwwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Mae dau berson arall wedi marw o coronafirws yng Nghymru.

    Yn ôl adroddiad heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, adroddwyd am ddau farwolaeth arall a 18 achos newydd, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau i 1,545.

    Mae 16,854 o achosion o'r coronafirws bellach wedi ei gofnodi yng Nghymru.

    graff
  12. Covid yn hawlio sylw mewn cyfres newyddwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Gweinidog yn amddiffyn polisiau ar lacio mesurauwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Senedd Cymru

    Fe gafodd Gweinidog yr Economi ei holi yn y Senedd am "ddull araf" Llywodraeth Cymru o godi cyfyngiadau clo a’r effaith ar fusnesau.

    Dywedodd Ken Skates AS wrth y Ceidwadwr Russell George, fod “ein dull gofalus wedi’i gynllunio i atal pigau peryglus a niweidiol” a bod “dyfodol hir dymor busnes yn cael ei ystyried yn ein "proses o benderfynu”.

    gweithiwrFfynhonnell y llun, Getty Images

    Wrth gael ei holi am gymorth i'r sector lletygarwch dywedodd Mr Skates fod gwaith ymchwil yn awgrymu bod 30,000 o bobl hunangyflogedig nad ydynt wedi cofrestru am gymorth ariannol ac fe'u hanogodd i wneud hynny.

    Ychwanegodd Mr Skates fod 34% o fusnesau yng Nghymru wedi ceisio cymorth gan Lywodraethau Cymru neu'r DU o'i gymharu â dim ond 14% o fusnesau yn Lloegr.

  14. Problemau gyda chanlyniadau profionwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe gafodd y gweinidog iechyd ei holi ynglŷn â chyflymder prosesu rhai profion yng Nghymru yn ystod cynhadledd dyddiol y wasg Llywodraeth Cymru.

    Roedd ffigyrau yn dangos fod llai o brofion wedi eu cynnal ond mai 66.3% o'r canlyniadau oedd wedi dod 'nôl o fewn 48 awr - y perfformiad gwaethaf yn ystod y pandemig.

    Dywedodd Vaughan Gething fod yna "broblem benodol" wedi bod gyda labordy ym Manceinion a bod hyn wedi achosi oedi.

    Ychwanegodd ei fod yn benderfynol o sicrhau canlyniadau cyflym i brofion a bod Llywodraeth Cymru wedi "cymryd camau" i wella hyn.

  15. Gwersi a phrofion gyrru i ailddechrau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Bydd yn bosib cael gwers o 27 Gorffennaf a bydd profion theori'n ailddechrau ar 3 Awst.

    Read More
  16. Parhau i brofi staff cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ystod cynhadledd y wasg dyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd y gweinidog iechyd fod staff cartrefi gofal wedi cael eu profi yn wythnosol ar gyfer coronafeirws.

    Roedd y profion, meddai Vaughan Gething, wedi dangos fod lefelau'r haint mewn cartrefi gofal yn isel.

    Ond dywedodd oherwydd bod y boblogaeth oedrannus yn fwy bregus y byddai'r llywodraeth yn parhau i brofi staff y cartrefi yn wythnosol am bedair wythnos arall.

    Ar ôl y cyfnod yma, os nad oes cynnydd y tu hwnt i'r lefelau presennol mewn cartrefi, yna bydd y cylch profi yn symud i bob pythefnos.

    vaughan gething
  17. Blaenoriaethau'r strategaethwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Gethng mai blaenoriaethau'r strategaeth profi dros y misoedd nesaf fyddai "amddiffyn y gwasanaeth iechyd gan gadw ein staff a chleifion yn ddiogel ac olrhain yr haint er mwyn ei atal rhag ymledu a dod i ddeall sut mae'n mynd o un person i'r llall.

    Ychwanegodd fod nifer y profion positif erbyn hyn wedi gostwng i tua 1% . "Newyddion da," meddai Mr Gething, ond gan ddweud fod hyn yn golygu nad oedd " cynnal profion ar sectorau cyfan o bosib yn briodol bellach."

    "Amddiffyn grwpiau bregus, y rhai sydd yn wynebu'r risg mwyaf - a defnyddio technegau newydd i wella ein dealltwriaeth o'r feirws," meddai'r gweinidog iechyd.

    "Mae llawer wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf a byddwn am ddiolch i bawb am eu cyfraniad. Ond mae angen nawr i baratoi ar gyfer y cam nesaf - a be allai fod yn aeaf caled."

  18. Cyhoeddi strategaeth profi newyddwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidog iechyd Cymru wedi cyhoeddi strategaeth profi newydd ar gyfer coronafeirws.

    Dywed Vaughan Gething y bydd y strategaeth yn gwneud paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ail don o’r coronafeirws yn yr hydref.

    Yn ystod cynhadledd y wasg dyddiol Llywodraeth Cymru dywedodd Mr Gething y byddai'r rhaglen brofi wythnosol ar gyfer cartrefi gofal yn parhau am 4 wythnos arall, gyda'r "data ar gyfraddau mynychder yn cael eu monitro'n fanwl."

    "Mae’r strategaeth hon yn gosod y ffordd ymlaen ar gyfer profion wrth i'r cyfyngiadau lacio a nifer yr achosion o COVID-19 ostwng o'r brig a welsom ychydig wythnosau yn unig yn ôl.

    "Mae hefyd yn gwneud paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o ail don o’r coronafeirws yn yr hydref."

    Vaughan gething
  19. Cynhadledd y wasg dyddiol Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gynhadledd newydd ddechrau

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cynhadledd y wasg Llywodraeth Cymru cyn hir...wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 15 Gorffennaf 2020

    Twitter