Â鶹ԼÅÄ

Gwersi a phrofion gyrru i ailddechrau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dysgwr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gwersi gyrru yn cael ailddechrau yng Nghymru o ddydd Llun 27 Gorffennaf.

Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 3 Awst, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor.

Bythefnos wedi hynny, ar 17 Awst, bydd profion gyrru yn ailddechrau, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ei fod yn falch bod modd codi'r cyfyngiadau "wrth i Gymru adfer o COVID-19... mewn modd sy'n diogelu rhag y coronafeirws".

Ychwanegodd fod gwersi a phrofion gyrru "yn hanfodol wrth helpu pobl i gyrraedd y gwaith ac ymweld ag anwyliaid - yn ogystal â darparu'r sgiliau ar gyfer oes o yrru'n ddiogel."

Ffynhonnell y llun, Bleddyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae oedi hir am brofion gyrru wedi achosi rhwystredigaeth yn y misoedd diwethaf

Mae Elin Cheung o Lanfairpwll yn "falch" i glywed y bydd gwersi gyrru a phrofion yn ailgychwyn mis nesaf.

Roedd Elin, sy'n 20 oed, wedi bod yn cael gwersi gyrru wrth astudio yn y brifysgol yng Nghaeredin. Ond yna digwyddodd y cyfnod clo ac fe ddaeth hi yn ôl adref i fyw.

Yn y mis diwethaf mae wedi dechrau ymarfer yn y car gyda'i thad.

Mae'n dweud bod y cyfnod ar y dechrau pan nad oedd modd gwneud dim yn rhwystredig.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin ei char fel anrheg penblwydd mis diwethaf

"'Oedd o yn anodd ar y cychwyn achos o'n i ofn fyswn i yn anghofio bob dim. O'n i wedi investio amser a phres yn y gwersi ar y cychwyn ac wedyn o'n i yn cael mynd allan mwy yn y car.

"Ond oedd o bach yn anodd efo dad fi achos o'n i wedi arfer efo instructor ac wedyn o'n i yn gorfod trystio beth oedd o yn deud. Ond...dwi wedi cael digon o bractis rŵan. Dwi yn lwcus bod fi wedi gallu practisio efo dad fi a chael insurance ar y car."

Roedd Elin wedi bwcio i wneud ei phrawf theori ddechrau'r mis yma ym Mangor ond cafodd hwnnw ei ganslo. Mae felly wedi penderfynu gwneud ei phrawf yng Nghaer am na fyddai yn gallu ei wneud ym Mangor tan fis Awst.

Ei gobaith yw gallu gwneud y prawf gyrru hefyd cyn dychwelyd i'r brifysgol ganol Medi ond dyw hi ddim yn siŵr os fydd yna nifer yn yr un sefyllfa a hi ac felly y bydd yn rhaid iddi aros yn hirach.

Dysgu yn Seland Newydd

Un o'r rhesymau roedd hi wedi penderfynu dysgu oedd ei bod hi fod mynd i Seland Newydd gyda'i chwrs am flwyddyn.

"Nes i ddechrau dysgu mis Ionawr achos o'n i fod mynd dramor i Seland Newydd ac o'n i isio dysgu sut mae gyrru cyn mynd so bod fi efo'r opsiwn i allu gyrru tra bod fi yna," meddai.

Yn sgil y feirws dyw mynd i fyw yn Seland Newydd ddim yn debygol am ychydig.

Byddai yn well ganddi wneud ei phrawf gyrru adref yn hytrach nag yng Nghaeredin.

"Y peth ydy dwi wedi bod yn practisio gymaint yn fama dwi'n nabod y lonydd yn well.

"Dwi ddim yn siŵr os fysa fo yn bach o risg i wneud o fyny fana. Ond ella fyswn i yn cysidro achos mae gen i instructer fyny fana hefyd. Ond ella fysa rhaid i fi jest dod 'nôl ar gyfer y prawf."

'Adeg anodd'

Cytunodd prif weithredwr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) Gareth Llewellyn fod hi'n "hanfodol nad oedd gwersi a phrofion yn ailddechrau nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny", gan gydnabod fod "hwn wedi bod yn adeg anodd iawn ar gyfer y wlad gyfan, gan gynnwys dysgwyr a hyfforddwyr gyrru".

Ychwanegodd: "Mae profion ar gyfer gweithwyr hanfodol wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau symud, a hoffwn i ddiolch i'r holl hyfforddwyr ac arholwyr sydd wedi parhau i weithio i helpu i ddarparu profion ar gyfer y rheini sydd wedi gwneud cymaint i'n helpu ni yn ystod y pandemig ofnadwy hwn."

Bydd y DVSA yn diweddaru'r canllawiau'n fuan.