鶹Լ

Crynodeb

  • Cyhoeddi amserlen 'goleuadau traffig' er mwyn i Gymru adael y cyfnod cloi

  • Dim dyddiad i ailagor ysgolion Cymru, medd y Gweinidog Addysg

  • 1,173 wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru - naw yn rhagor wedi'u cofnodi heddiw

  • Coronafeirws yn fygythiad difrifol i brifysgolion Cymru

  • Pryder am ailagor llysoedd barn yng Nghymru

  1. Lledu pafin yn sgil y feirwswedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae newidiadau yn cael eu cyflwyno ar un o brif strydoedd canol Caerdydd fel bod cerddwyr a beicwyr yn medru cadw pellter rhwng ei gilydd.

    Ddydd Sul bydd y gwaith i ledu'r pafin yn digwydd ar Stryd y Castell.

    Mae yna ystyriaeth i wneud rhywbeth tebyg ar Wood Street.

    Ffordd y CastellFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma sut allai Stryd y Castell edrych wedi'r newidiadau

  2. Dim dyddiad ysgolion yn ailagorwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae dogfen wedi ei chyhoeddi ynglŷn â’r camau nesaf i ysgolion. Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams na fydd yna ddyddiad penodol ar gyfer pryd fydd ysgolion yn ailagor.

    “Byddai pennu dyddiad cyn bod gennym ni fwy o dystiolaeth, mwy o hyder a mwy o reolaeth dros y feirws yn beth anghywir i’w wneud.

    “Nid un penderfyniad fydd hwn, ond cyfres o benderfyniadau dros amser yn cynyddu, neu os bydd angen, yn cyfyngu ar weithrediad. Bydd y newidiadau hyn yn gymhleth, gyda llawer o ystyriaethau gwahanol,” meddai.

    Dywedodd y bydd amser yn cael ei rhoi cyn cyflwyno unrhyw newidiadau fel bod staff yn gallu paratoi.

    Plant ysgolFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Does dim dyddiad eto pryd fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol

  3. 9 yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 9 yn rhagor o farwolaethu gyda coronafeirws yng Nghymru.

    Bellach mae 1,173 o bobl wedi marw gyda'r haint yma.

    Hefyd daeth cadarnhad fod 126 o bobl wedi profi'n bositif am Covid-19 gan fynd â chyfanswm yr achosion yng Nghymru i 11,960.

  4. Rhag ofn bod amheuaeth....wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Map ffordd i cul-de-sac' medd ASwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dyw Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ddim yn hapus gyda'r cynllun y mae'r Prif Weinidog wedi ei gyhoeddi.

    Dywedodd bod y cynllun yn un "a dim gobaith sydd yn methu ac amlinellu amserlen betrus er mwyn codi'r rhwystrau sylweddol sydd wedi eu gosod ar bobl Cymru.

    "Yn hytrach na'r map ffordd tuag at adferiad y gofynnais amdano [ddechrau'r wythnos], yr hyn yw hwn mewn gwirionedd yw map ffordd i cul-de-sac.

    "Mae angen i ni ddechrau datgloi cymdeithas ond mae'n ymddangos fod Mark Drakeford wedi colli ei allweddau."

  6. 'Normalrwydd' ddim ar y gorwelwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Gwyn Loader - Gohebydd Newyddion 鶹Լ Cymru

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Siom nad yw llywodraeth y DU wedi trafodwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Datgelodd Mr Drakeford nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu cysylltu gyda llywodraeth y DU ers y cyfarfod COBRA diwethaf.

    Dywedodd: "Ro'n i'n teimlo bod ymrwymiad ganddyn nhw i gael cyswllt mwy cyson... rwy'n siomedig iawn nad yw hynny wedi digwydd.

    "Wrth i ni ystyried llacio cyfyngiadau mae cydweithio'n bwysicach nag erioed ac rwy'n wir obeithio y bydd trafodaethau'n digwydd yr wythnos nesaf."

  8. Mwy o fanylion ynglyn ag ysgolion heddiwwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog yn y gynhadledd ddyddiol hefyd mai'r prif nod yw sicrhau diogelwch disgyblion a staff ysgolion cyn eu hailagor.

    Ychwanegodd: "Bydden ni yn hoffi gallu dod a rhai plant yn ôl i'r ysgol cyn y gwyliau haf."

    Bydd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg yn rhoi mwy o fanylion prynhawn yma meddai.

  9. Dim teithio i ail gartrefi medd Drakefordwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd Mr Drakeford hefyd na ddylai pobl ystyried teithio i'w hail gartrefi.

    Roedd yn deall, meddai, pam fod pobl yn pryderu am fod y rheolau wedi newid yn Lloegr. "Dwi'n deall eu pryderon. Mae ein rheolau ni yng Nghymru yn glir. Dylai teithio ond fod yn lleol ac ond digwydd os yw'n angenrheidiol."

  10. Cyfyngiadau'n debyg o amrywiowedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cyfaddefodd Mr Drakefod y gallai rhai gweithgareddau symud i'r cyfnod 'oren' cyn rhai eraill.

    Dywedodd fod y cyfan yn dibynnu ar wyddoniaeth, gan fynnu fod rhaid cadw'r gallu i ddychwelyd i'r cyfnod 'coch' os byddai'r gwyddoniaeth yn dangos fod problem.

    md
  11. 'Dewch i Gymru - ond nid nawr!'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Holwyd Mr Drakeford beth oedd ei neges i bobl yn Lloegr oedd yn ystyried dod i Gymru dros y dyddiau nesaf. Atebodd:

    "Dewch i Gymru yn ddiweddarach! Nid nawr yw'r amser iawn.

    "Bydd pobl sy'n teithio i Gymru yn torri'r gyfraith yma.

    "Mae'n biti na fyddai'n neges yna yn gliriach o'r dechrau fod y rheolau'n wahanol yma."

  12. Ymlaen 'gyda gofal'wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe holwyd Mr Drakeford a oedd y broses o ddiweddu'r cyfyngiadau eisoes yn digwydd yn naturiol gan fod nifer o bobl yn dychwelyd i'r gwaith a bod mwy o draffig ar y ffyrdd?

    Atebodd: "Mae'r daith wedi cychwyn efallai, ond y daith i'r cyfnod 'coch' yw honno. Pan mae pobl yn medru dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel mae'n iawn i wneud hynny.

    "Ond i bob un ohono ni, rhaid i ni fynd ymlaen yn ofalus."

  13. Y camau nesafwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Er nad oedd Mr Drakeford am rhoi amseroedd i'r newidiadau dywedodd fod Cymru'n symud yn ofalus i'r cyfnod 'coch' o dan y drefn.

    "Byddwn yn monitro effaith y camau i'r coch yn ofalus, ac os fydd y feirws yn aros o dan reolaeth gallwn symud i'r cyfnod 'oren'.

    "Yn y cyfnod 'oren' bydd mwy o arwyddion bod pethau'n dechrau dychwelyd i normal.

    "Ac os bydd ein monitro'n dangos ein bod ar ben y feirws o hyd gallwn symud i'r cyfnod 'gwyrdd'. Yno bydd bywyd yn dechrau edrych fel oedd e cyn i'r coronafeirws ddechrau, ond nid yn union yr un fath oherwydd tan y bydd brechlyn neu driniaeth effeithiol ar gael bydd coronafeirws gyda ni am amser hir i ddod."

  14. Penderfyniadau 'er budd Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Dwi wastad wedi dweud y byddai'n well gennym symud fel un gyda gweddill y DU - dyna'r ffordd orau ymlaen i ni gyd, ond fe fyddwn ni'n gwneud penderfyniadau er budd Cymru gyda - gobeithio - ymrwymiad llawn llywodraeth y DU ynghyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon.

    "Mae ein map yn seiliedig ar system goleuadau traffig ac yn gosod cyfres o newidiadau allai ddigwydd mewn sawl maes, gan gynnwys gweld ffrindiau a theulu, dychwelyd i'r gwaith, siopa ac ailagor gwasanaethau cyhoeddus.

    "Ry'n ni'n sylweddoli cymaint mae pawb ishe gweld ffrindiau a theulu ac mae hynny wedi bod yn ystyriaeth allweddol i ni. Dyw hwn ddim yn gynllun jyst i gael pobl yn ôl i'r gwaith."

  15. Ymdrech anhygoelwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y Prif Weinidog Mark Drakeford sy'n arwain y gynhadledd newyddion ddyddiol heddiw. Dywedodd:

    "Dros yr wyth wythnos diwethaf mae ymateb pobl Cymru wedi bod yn anhygoel - rydych chi wedi helpu o arafu ymlediad y feirws a helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i baratoi ac i ymateb.

    "Heddiw rwy'n cyhoeddi ein syniadau diweddaraf am sut i ddatgloi ein cymdeithas a'n heconomi.

    "Bydd ein penderfyniadau i gyd yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn gweithredu yn ofalus, mewn partneriaeth gyda phobl ac mewn modd sy'n iawn i Gymru. Ac fe fyddwn yn rhoi iechyd pobl yn gyntaf."

    md
  16. Y Prif Weinidog yn fyw nawr...wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Myfyrwyr Prifysgol: Sut mae’r pandemig wedi effeithio arna iwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Pedwar o fyfyrwyr yn trafod effaith y pandemig ar eu bywydau

    Read More
  18. Patrolau'n parhauwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Heddlu'r Gogledd ar Ynys Môn sy'n trydar hwn, ond mae lluniau ohonyn nhw ar waith ar draws y gogledd i gyd ar gyfrifon eraill.

    Maen nhw'n dweud bod y mwyafrif yn cadw at y rheolau, a diolch byth am hynny.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Ail agor canolfannau ailgylchu ond rheolau yn eu llewedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Daily Post

    Mae disgwyl i ganolfannau ailgylchu ail agor y mis yma. Ond fe ddywed y Daily Post fod rhai

    Maen nhw'n rhybuddio y dylai pobl ond fynd yno os yw'n "angenrheidiol".

    Bydd cyngor Fflint a Dinbych yn ail agor rhai cyfleusterau'r mis yma, ac mae Conwy a Gwynedd wedi dweud y bydd system apwyntiadau yn eu lle.

    Dywed Cyngor Wrecsam y byddant yn cau'r canolfannau os na fydd pobl yn gallu cadw at y rheolau o safbwynt ymbellhau cymdeithasol.

  20. Yr heriau amrywiol sy'n wynebu busnesau Cross Handswedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Fel nifer o lefydd eraill, mae'r pandemig wedi effeithio ar nifer o fusnesau ar un stad ddiwydiannol.

    Read More