鶹Լ

Crynodeb

  • Cyhoeddi amserlen 'goleuadau traffig' er mwyn i Gymru adael y cyfnod cloi

  • Dim dyddiad i ailagor ysgolion Cymru, medd y Gweinidog Addysg

  • 1,173 wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru - naw yn rhagor wedi'u cofnodi heddiw

  • Coronafeirws yn fygythiad difrifol i brifysgolion Cymru

  • Pryder am ailagor llysoedd barn yng Nghymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Dyna ni am ddiwrnod arall. Diolch i chi am ymuno efo ni heddiw a drwy gydol yr wythnos.

    Ni fydd y llif byw yn dychwelyd dros y penwythnos, ond cofiwch ddarllen y wefan am y newyddion diweddaraf o Gymru.

    Byddwch yn saff.

  2. Ymosod cynllun ysgolion Johnsonwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Sky News

    Mae yn adrodd bod undeb athrawon wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn dilyn cyfarfod i drafod ailagor ysgolion ar 1 Mehefin.

    Dywedodd NASUWT fod y sgyrsiau "wedi codi mwy o gwestiynau nag atebion" - ac roedd yn honni nad oedd llywodraeth Boris Johnson wedi darparu unrhyw wybodaeth "i newid y farn gyffredinol bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer agor ysgolion o 1 Mehefin yn wan".

    Dyw Llywodraeth Cymru heb roi dyddiad ar pryd fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yma ond mae Mr Johnson wedi cyhoeddi y bydd rhai disgyblion yn Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol ar y dyddiad hwnnw.

    Ychwanegodd yr ysgrifennydd cyffredinol Dr Patrick Roach: "Mae'r NASUWT yn parhau i fod yn glir na ddylai unrhyw ysgol ailagor nes y gall ddangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny."

  3. Criced i ddychwelyd?wedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Dywed cyfarwyddwr criced Morgannwg, Mark Wallace, fod y sir wedi dechrau trafodaethau â Llywodraeth Cymru ynglŷn â dychwelyd i ymarfer.

    Nid yw rheolau Cymru ar gyfer chwaraeon broffesiynol wedi cael eu llacio yn unol â Lloegr.

    "Maen nhw'n ymwybodol o'n sefyllfa ni ac rydyn ni'n cael sgyrsiau gyda nhw a gyda'r ECB [corff criced Cymru a Lloegr]," meddai Wallace.

    Mark WallaceFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Mark Wallace yn gyn-gapten ar Forgannwg

  4. 'Pobl difreintiedig yn poeni fwy am eu hiechyd'wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o hunan-ynysu yn ystod y cyfyngiadau ac yn fwy tebygol o deimlo yn bryderus am eu hiechyd meddwl.

    Bob wythnos mae'r corff wedi bod yn cynnal cyfweliadau gyda channoedd o bobl yng Nghymru er mwyn deall sut mae'r pandemig yn effeithio ar lesiant pobl.

    Dywed yr adroddiad diweddaraf bod y rhai sydd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn poeni fwy am fynd yn sâl a cholli anwyliaid.

  5. 'Dim rhwystr' i gemau Abertawe a Chaerdyddwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mark Drakeford yn dweud nad yw'n bwriadu rhwystro Abertawe a Chaerdydd rhag ail ddechrau'r tymor.

    Read More
  6. Pôl piniwn: Ymateb gwleidyddolwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mae'r Athro Roger Awan-Scully wedi bod yn dadansoddi pôl gwleidyddol diweddar gafodd ei gynnal ym mis Ebrill.

    Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd oedd sut roedd ein gwleidyddion mwyaf blaenllaw yn delio gyda'r argyfwng.

    Dyw , meddai'r Athro Scully.

  7. Llond trol o weithgareddau AmGenwedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cerdd newydd gan Guto Dafydd, darlith am hanesion rhai o hen Eisteddfodau Caerdydd, tips ar sut i edrych ar ôl eich gwallt, cwis gan Maes B a cherddoriaeth gan Sorela - rhai o bigion yr wythnos AmGen gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae rhaglen wythnos gyntaf y prosiect newydd wedi ei chyhoeddi gydag un gweithgaredd y dydd yn digwydd ar draws sawl platfform.

    Daw hyn wedi’r cyhoeddiad na fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yn ei ffurf arferol eleni yn Nhregaron yn sgil y coronafeirws.

    Logo Eisteddfod

    Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i gynnig rhywbeth i bawb yn y rhaglen gyntaf.

    "Ein gobaith yw bod y rhaglen wythnosol yn cynnwys yr un cymysgedd eclectig ag ymweliad â’r Maes. Fe fydd y rhaglen yn amrywio o wythnos i wythnos, ac fe fyddwn yn cyhoeddi rhaglen yr wythnos ganlynol bob dydd Gwener.”

  8. Beirniadaeth gan y pleidiau i'r strategaethwedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae'r pleidiau gwleidyddol eraill wedi bod yn ymateb i strategaeth Llywodraeth Cymru ar lacio'r cyfyngiadau'n raddol.

    Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, nad oes yna lawer o fanylion yn y cynllun ac y dylai Cymru fabwysiadu model Seland Newydd er mwyn "cael gwared ag achosion newydd yn hytrach na'u trin".

    Dywedodd Plaid Brexit bod Llafur Cymru yn "chwarae gemau gwleidyddol" a'i bod hi'n amser "mabwysiadu system ar draws y DU i daclo'r feirws".

  9. Heddlu'n ymwybodol o brotestiadau posibwedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Heddlu De Cymru

    Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod yn "ymwybodol" o gynlluniau i gynnal protestiadau yn erbyn cyfyngiadau'r llywodraeth dros y penwythnos.

    "Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda threfnwyr protest i hwyluso arddangosiadau heddychlon a diogel sy'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd," meddai datganiad.

    "Fodd bynnag, rydym yn dal i wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf mewn cenedlaethau ac mae'r cyhoedd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i atal y pandemig rhag lledaenu."

    Dywedodd y llu bod ganddyn nhw "ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol" wrth ymateb i unrhyw brotestiadau.

    Ar hyn o bryd mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog pobl i aros yn eu cartrefi ac i adael am resymau angenrheidiol yn unig.

  10. Ymateb plant i newyddion am Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Pryder am y ffigyrau yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn adrodd bod pryderon yn y gogledd bod y feirws ar fin taro yn waeth yno.

    Ardaloedd yn y de oedd wedi eu heffeithio fwyaf gyda'r pandemig ar y dechrau ond mae yn ddiweddar.

    48 o achosion newydd oedd wedi'u cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddoe.

    Mae rhai yn ofni bod y gwaethaf i ddod.

  12. Mwy na 14,000 o ddirwyonwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    鶹Լ Wales News

    Mae swyddogion heddlu yn Lloegr a Chymru wedi rhoi mwy na 14,000 o ddirwyon i bobl am eu bod wedi torri rheolau'r cyfyngiadau.

    Heddlu'r Met yn Llundain wnaeth rhoi'r mwyaf o ddirwyon, 906 rhwng 27 Mawrth a 11 Mai.

    Ond yng Ngwent roedd y ffigwr llawer yn is - 71 o ddirwyon. Mae'r data yn sôn am y cyfnod cyn i'r ddirwy yn Lloegr godi o £60 i £100.

    Pobl yn eistedd yn y parcFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Undeb yn blês gyda'r ddogfen addysgwedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae Undeb NAHT Cymru wedi croesawu'r ddogfen sydd wedi ei chyhoeddi gan Kirsty Williams heddiw.

    Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr yr undeb bod hi'n "galonogol i glywed" nad yw'r gweinidog wedi gosod dyddiad y bydd ysgolion yn ail agor.

    "Mae'r fframwaith hwn yn cynnwys y ffactorau hanfodol sydd angen eu trafod cyn y gall plant ddychwelyd i'r ysgol, yn cynnwys y dystiolaeth feddygol a gwyddonol sydd yn sail i benderfyniadau a hefyd y goblygiadau ymarferol fel sut bydd modd cynnal ymbellhau cymdeithasol, disgwyliadau ar ysgolion a sut fydd ysgolion yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses," meddai.

  14. Gohirio taith haf tîm rygbi Cymruwedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Taith tîm rygbi Cymru i Japan a Seland Newydd yn yr haf wedi cael ei gohirio.

    Read More
  15. Dim dyddiad penodol i blant ddychwelyd i'r ysgolwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Dywed gweinidog addysg Cymru y byddai pennu dyddiad ar hyn o bryd yn "beth anghywir i'w wneud".

    Read More
  16. Llywodraeth y DU yn flin?wedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae Golygydd Gwleidyddol ITV yn dweud bod Llywodraeth y DU yn anhapus gyda sylwadau Prif Weinidog Cymru.

    Dywedodd Mr Drakeford yn y gynhadledd ddyddiol ei fod yn siomedig nad yw llywodraeth y DU wedi bod mewn cysylltiad gyda'i lywodraeth ef ers y cyfarfod COBRa diwethaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. System goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau Cymruwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi'r camau nesaf o ran llacio'r cyfyngiadau ond does dim amserlen penodol.

    Read More
  18. 'Angen troi adeiladau mawr yn llysoedd dros dro'wedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Bargyfreithiwr yn pryderu am nifer yr achosion llys sydd wedi eu gohirio oherwydd y pandemig.

    Read More
  19. Byddwch yn rhan o hanes Cymruwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Amgueddfa Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Adran 2 o gynghrair Lloegr yn dod i benwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 15 Mai 2020

    Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi cyhoeddi y bydd y gynghrair yn dod i ben ar unwaith wedi trafodaethau gyda'r 24 clwb - gan gynnwys Casnewydd.

    Bydd y tabl terfynol yn defnyddio system o nifer o bwyntiau y mae pob clwb wedi'u cael ar gyfartaledd ymhob gêm.

    Does din penderfyniad terfynol eto am ddyrchafiad neu a fydd clybiau'n disgyn o'r adran.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter