Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 1,044 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19, wrth i 21 yn rhagor gael eu cofnodi heddiw

  • 10,764 o bobl wedi profi'n bositif am y feirws yma bellach

  • Cyn-AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio ynysu'r henoed wrth lacio cyfyngiadau

  1. Grantiau busnes i elusennauwedi ei gyhoeddi 08:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae disgwyl i Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans gyhoeddi y bydd elusennau bychain yng Nghymru yn derbyn grantiau busnes o £10,000 i'w cynorthwyo gyda heriau Covid-19.

    Mae'r pecyn cymorth £26m - estyniad i gynllun grantiau a gyhoeddwyd fis diwethaf - hefyd yn cefnogi 2,600 o ddarnau eiddo yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch.

    Byddai hynny'n cynnwys siopau elusen, sefydliadau chwaraeon a chanolfannau cymunedol. Tan nawr dydyn nhw heb fod yn gymwys i dderbyn grant.

  2. Neges cyn Gŵyl y Bancwedi ei gyhoeddi 08:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cyn-AS: Pobl dros 70 wedi cael eu 'cyfyngu ddigon'wedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Y cyn-AS Ann Clwyd yn dweud na ddylai Llywodraeth Cymru orfodi'r henoed yn unig i hunan ynysu.

    Read More
  4. Bore da i chiwedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae'n fore Mercher, 6 Mai, a chroeso i'n llif byw dyddiol am yr argyfwng coronafeirws.

    Tan ddiwedd y prynhawn, dyma'r lle i gael yr holl bytiau newyddion am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Bore da iawn i chi.