鶹Լ

Crynodeb

  • 886 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru gyda 73 yn rhagor yn cael eu cofnodi dydd Mercher

  • Cymru ddim am ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal

  • Y cyn brif weinidog Gordon Brown i gynorthwyo gydag adferiad economaidd Cymru

  1. Gething 'erioed wedi ystyried' ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    鶹Լ Radio Wales

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wrth 鶹Լ Radio Wales y bore 'ma na wnaeth erioed ystyried ymddiswyddo wedi iddo ddefnyddio iaith anweddus tuag at gyd-aelod Cynulliad Llafur.

    Fe wnaeth ddefnyddio rheg tra'n cyfeirio at Jenny Rathbone a oedd wedi gofyn cwestiwn iddo am berfformiad Llywodraeth Cymru am offer diogelwch i weithwyr iechyd.

    Dywedodd: "Nes i erioed ystyried ymddiswyddo oherwydd rwy'n deall pa mor fawr yw'r her sy'n ein hwynebu a phwysigrwydd digamsyniol ac effaith y dewisiadau yr ydym yn eu gwneud bob un diwrnod."

    gethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Claf cyntaf mewn ysbyty yn mynd adrefwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae claf yn ysbyty Brenhinol Gwent oedd wedi cael y feirws Covid-19 yn cael mynd adref.

    Roedd y claf yn ddifrifol wael ond erbyn hyn mae wedi gwella digon i adael yr ysbyty.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Gyrwyr yn heidio i lecyn harddwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae ymwelwyr wedi bod yn heidio i ardal hardd lle mae yna lagŵn ger Pont-y-pŵl. Yn ôl yr heddlu mae ymwelwyr o hyd at 15 milltir i ffwrdd wedi bod yn gyrru i’r llecyn.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylai pobl fod yn gyrru i wneud eu hymarfer corff dyddiol.

  4. Sut i gadw'n iach wrth aros adrefwedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Pa mor anodd ydy cadw'n iach wrth i ni fod yn gaeth yn y tŷ?

    Read More
  5. Llety i atal digartrefeddwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Bydd naw o gabanau yn cael eu gosod dros dro ar gyrion Llangefni.

    Daw hyn yn sgil medd Cyngor Môn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Barn awdur am effaith y pandemig ar y diwydiant llyfrauwedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Galw aruthrol am brofionwedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Roedd teclynnau i brofi adref ar gyfer y coronafeirws ym Mhrydain wedi eu harchebu i gyd o fewn awr bore yma yn ôl asiantaeth newyddion PA.

    Dyma’r prawf sydd yn cael eu rhoi i weithwyr allweddol.

    Bore 'ma roedd y profion i gyd wedi eu harchebu yn y canolfannau gyrru-drwodd newydd yng Nghymru ond roedden nhw'n dal i fod ar gael yng ngweddill gwledydd Prydain.

  8. Ffoaduriaid Calais: 'Neb yn eu cefnogi'wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    鶹Լ Wales News

    Mae 鶹Լ Wales News yn adrodd bod menyw sydd yn helpu ffoaduriaid yn y gwersylloedd yn Ffrainc yn dweud bod

    Ers 2015 mae Pauline Beckett o Gaerllion ger Casnewydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r elusen Care4Calais, ond roedd hi yn Ffrainc pan ddigwyddodd y cyfyngiadau.

    Nawr dim ond ychydig o wirfoddolwyr sydd ar ôl yn y gwersylloedd a’r gred yw bod mwy a mwy o achosion o’r feirws.

    Mae Llywodraeth Ffrainc wedi dechrau symud rhai i lety ond dyw pawb ddim wedi bod eisiau gadael y gwersylloedd.

    Pauline BeckettFfynhonnell y llun, CARE4CALAIS
  9. Sut i gadw unig blentyn rhag teimlo'n unig?wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae plant yn teimlo'n unig a rhieni eisiau llonydd ond mae 'na gyngor am sut i'w helpu...

    Read More
  10. Mwy am y grŵp ymgynghorolwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Daeth mwy o fanylion am y grŵp yngynghorol fydd yn cynorthwyo adferiad economaidd Cymru ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws.

    Eisoes roedd y cyn brif weinidog Gordon Brown wedi cytuno i fod ar y panel. Mae'r aelodau eraill yn cynnwys Paul Johnson - cyfarwyddwr yr Institute for Fiscal Studies - a Dr Rebecca Heaton o bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.

    Bydd y grŵp yn cynghori gwenidogion Llywodraeth Cymru ar sut y dylai gwasanaethau fel ysgolion, trafnidiaeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol weithredu pan fydd cyfyngiadau ar symudiadau pobl yn cael eu llacio.

  11. Apelio am gadw traethau'n agored i gŵnwedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    鶹Լ Radio Cymru

    Mae'r newidiadau blynyddol ar wahardd cŵn o draethau ar fin cael eu cyflwyno ar 1 Mai, ond mae perchnogion cwn ac elusen RSPCA Cymru yn galw ar y cynghorau i beidio â chyflwyno'r rheolau eleni tan fod y cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol wedi eu codi.

    Mae Dorothy Howarth o Bwllheli yn berchen ar ddau gi: "Does 'na ddim llawer o le yn ardal Pwllheli i bobl allu mynd â'u cŵn am dro a chadw pellter o 2 metr yn ôl y cyfyngiadau. Byddai cadw'r traeth cyfan yn agored yn ystod y pandemig yn gwneud gwahaniaeth.

    "Mae'r traethau'n fwy gwag. Mae pobl yn mynd â'i cŵn allan am dro ar adegau gwahanol. Rydw i'n mynd allan ben bore ac yn hwyr yn nos am na fyddai yn gweld neb a gwybod bod gen i ddigon o le.'

    "Mae rhai sy'n gorfod aros yn eu cartrefi wedi trefnu bod pobl yn mynd â'i cŵn am dro, maen adeg bryderus iddyn nhw i wneud yn siŵr bod eu cŵn yn cael digon o ymarfer."

  12. 'Heb ni i fynd â bwyd, bydden nhw'n gwneud heb'wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Pentref Cwmllynfell yn enghraifft arall o'r ysbryd cymunedol sydd i'w weld yn ystod y pandemig.

    Read More
  13. Effaith y feirws ar y diwydiant llyfrauwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae'n gyfnod pryderus i'r diwydiant llyfrau yn sgil y pandemig.

    Yn ôl y Lolfa maen nhw wedi colli hyd at 90% o'u hincwm am nad ydyn nhw wedi bod yn gallu cyhoeddi llyfrau.

    Ond mae gwerthu ar-lein wedi bod yn help i'r diwydiant.

    Darllenwch fwy yma.

    Llyfrau
  14. 'Angen aros am uchafbwynt ym mhob ardal'wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Apêl gan awdurdodau'r gorllewin, ble mae disgwyl uchafbwynt Covid-19 yn hwyrach na gweddill Cymru.

    Read More
  15. Gething: Dim profion i bawb mewn cartrefiwedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    鶹Լ Radio Wales

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi bod ar Radio Wales y bore 'ma, ac fe'i holwyd a fyddai Cymru'n dilyn y polisi gyhoeddwyd yn Lloegr ddoe, sef fod holl staff a thrigolion cartrefi gofal yn cael profion Covid-19.

    Atebodd: "Na. Ry'n ni eisoes wedi cyhoeddi ein safbwynt ni, sef y byddwn yn rhoi prawf i bawb sy'n dangos symptomau.

    "Mae gen i gyngor clir iawn gan ein Prif Swyddog Meddygol ar hyn, sef mai'r defnydd gorau o brofion yw i beidio profi pawb yn y sector.

    "Meddyliwch y peth drwodd - gallwch chi brofi rhywun yn y bore a chael canlyniad, yna rhoi prawf arall yn ddiweddarach yn y dydd a chael canlyniad gwahanol. Beth yw pwrpas gwneud hynny?"

  16. £10m i helpu adsefydlu pobl sydd wedi gwellawedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £10m i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sydd wedi gwella o Covid-19 ddychwelyd i'w cartrefi ynghynt.

    Bydd y cyllid yn talu am becynnau gofal cartref "newydd ac estynedig er mwyn cefnogi cleifion i adael yr ysbyty wrth iddynt barhau i gael eu hasesu a gwella".

    Fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd y £10m yn helpu i ddarparu'r canlynol:

    • Ehangu'r cynlluniau rhyddhau o'r ysbyty
    • Capasiti ychwanegol o fewn y gymuned i ofalu am bobl sydd wedi eu rhyddhau o'r ysbyty
    • Sicrhau bod cleifion mor annibynnol â phosibl ar ôl gwella o Covid-19, gan gynnwys prynu offer ar gyfer eu cartrefi
    • Gwasanaethau cymunedol estynedig er mwyn lleihau'r pwysau ar ofal sylfaenol a gofal eilaidd.
  17. Adeg pryderus i bobl ag Alzheimerswedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    鶹Լ Radio Cymru

    Mae'n gyfnod pryderus i nifer fawr o gleifion gyda chlefyd Alzheimer a'u teuluoedd ac mae Cymdeithas Alzheimer yn dweud bod yna gynnydd mawr yn nifer y galwadau am help a chyngor dros yr wythnosau diwethaf.

    Ar y Post Cyntaf dywedodd Cheryl Williams o'r Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru: "Dros gyfnod o un penwythnos roedd nifer y galwadau wedi codi 60% ac 80% o'r galwadau hyn yn ymwneud a materion sydd wedi codi yn sgil y coronafirws.

    "Mae'n adeg bryderus i bawb ac efallai i'r rhai sy'n byw efo dementia mae hynny yn golygu ychydig yn fwy o bryder ac angen mwy o strwythur yn eu bywydau.

    "Mae pobl wedi colli rhwydwaith o gefnogaeth, gweithgareddau arferol yn ddisymwth braidd, felly mae hyn yn achosi mwy o bryder. Mae'n bwysig sefydlu rhyw fath o 'routine' mewn gweithgareddau dyddiol, boed hyn yn mynd am dro ar yr un amser, neu un rhywbeth sy'n rhoi strwythur i'r diwrnod.

    "Mae gan y Gymdeithas Alzheimer lot o gynghorion ar y we ar sut i ddelio efo'r cyfnod yma, boed o yn byw ar ben eich hun neu adre efo'r teulu."

  18. Cloch yr ysgol yn canu?wedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Cyfarfod llawn o'r Cynulliad heddiwwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Ffigyrau marwolaethau i'w datgeluwedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Llanelli Star

    Mae tudalen flaen y Llanelli Star yn cyfeirio at newyddion ddoe fod 31 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda heb gael eu hadrodd yn gywir ac felly heb ymddangos yn ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Mae disgwyl y bydd y ffigwr yna yn ymddangos yn yr ystadegau dyddiol a fydd yn cael eu cyhoeddi oddeutu 14:00 y prynhawn yma.