鶹Լ

Crynodeb

  • 886 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru gyda 73 yn rhagor yn cael eu cofnodi dydd Mercher

  • Cymru ddim am ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal

  • Y cyn brif weinidog Gordon Brown i gynorthwyo gydag adferiad economaidd Cymru

  1. Cymru ddim am ehangu profion mewn cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Cyhoeddiad na fydd Cymru'n dilyn Lloegr trwy brofi staff a phreswylwyr ym mhob cartref gofal.

    Read More
  2. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    鶹Լ Cymru Fyw

    Dyna ni ar y llif byw am heddiw - fe fyddwn ni 'nôl eto fory gyda rhagor o'r newyddion diweddaraf i chi am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Ond am y tro, noswaith dda i chi.

  3. Creu drama am y feirws mewn dyddiau!wedi ei gyhoeddi 18:29 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae cyfres ddrama wedi ei chreu o'r dechrau i'r diwedd mewn ychydig o ddyddiau.

    Edrych ar effaith Coronafeirws ar bobl mae Cyswllt ac mae'r cyfan yn cael ei ffilmio gan yr actorion ar ffonau symudol a gliniaduron.

    Daeth y syniad i Pip Broughton wedi iddi orfod gohirio gorffen ffilmio cyfres newydd o Un Bore Mercher/Keeping Faith ar fyr rybudd, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

    Darllenwch y stori yn llawn yma.

    Actor yn ffilmio gyda ei ffonFfynhonnell y llun, S4C
  4. 'Teimlo fel dod i Orsedd Iolo Morganwg'wedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae Newyddion S4C wedi bod yn holi'r Athro Tegid Wyn Jones am ei brofiad o wella o Covid-19, a'r hyn mae'n cofio o'i gyfnod yn yr ysbyty.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Mwy o geir ar y ffyrdd eto?wedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae corff moduro'r RAC wedi awgrymu bod pobl yn dechrau "ffeindio rhesymau" i deithio unwaith eto er gwaethaf y cyfyngiadau coronafeirws.

    Daw hynny yn dilyn data o focsys du yswiriant yn awgrymu bod nifer y cerbydau ar y ffordd wedi codi 10% yr wythnos diwethaf, a hynny wedi cwymp o 40% ar ôl i'r mesurau ddod i rym.

    Mae nifer y siwrneau hefyd wedi cynyddu 14% ers dechrau Ebrill.

    "Dylai'r ffaith bod y cyfyngiadau mewn lle ers sawl wythnos nawr ddim gael ei ddefnyddio fel esgus i newid ein hymddygiad a mynd allan heb fod angen," meddai Simon Williams o RAC Insurance.

    lonydd gwagFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Wfftio cyhuddiad o ddiffyg cyfathrebuwedi ei gyhoeddi 18:08 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi dweud ei fod wedi "synnu" i ddarllen sylwadau gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn awgrymu diffyg cyfathrebu am Covid-19 gan weinidogion yn San Steffan.

    Dywedodd Mr Hart wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ei fod yn credu bod "y berthynas ar bob lefel yn gyson a thrylwyr".

    Yn gynharach roedd Mr Drakeford wedi awgrymu ei bod hi'n 10 diwrnod ers iddo gael sgwrs gyda gweinidog cabinet Llywodraeth y DU, Michael Gove.

  7. Y tîm rygbi methu defnyddio Stadiwm y Mileniwm?wedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Undeb Rygbi Cymru

    Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi dweud ei bod hi'n bosib na fydd y tîm yn gallu dychwelyd i chwarae y Stadiwm Principality yn syth pan fydd rygbi'n ailddechrau.

    Ar hyn o bryd mae'r stadiwm yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes i drin cleifion gyda Covid-19.

    Dywedodd fod y garfan yn parhau i baratoi ar gyfer eu taith i Seland Newydd ym mis Gorffennaf, er iddo gyfaddef ei bod hi'n debygol y bydd yn rhaid gohirio'r gemau hynny.

    Ond fe allai'r ddwy ornest gael eu haildrefnu ar gyfer yr hydref, meddai, er bod gemau eraill fel diwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad hefyd angen eu cwblhau.

    wayne pivacFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  8. Rhybudd i fusnesau tecawê yn y gogledd ddwyrainwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Cyngor Sir y Fflint

    Mae Cyngor Sir y Fflint wedi rhybuddio busnesau yn yr ardal am bobl yn ceisio'u twyllo dros y ffôn.

    Mae'n debyg fod y twyllwyr yn cysylltu gyda busnesau tecawê yn dweud bod yn rhaid iddynt gymryd taliadau ar gerdyn yn unig o hyn ymlaen - ac yn gofyn am eu manylion banc er mwyn anfon peiriant cerdyn atyn nhw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Atafaelu cwrw yn Llambedwedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae swyddogion heddlu yn Llanbedr Pont Steffan yn dweud eu bod wedi atafaelu cwrw gan rywun oedd allan yn gwneud eu hymarfer corff dyddiol.

    Maen nhw wedi atgoffa pobl i fod ymwybodol o gyfyngiadau sy'n gwarchod mannau cyhoeddus.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Dros 26,000 o farwolaethau ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth y DU mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab wedi dweud bod "cefnogaeth gref" gan y cyhoedd o blaid parhau â'r cyfyngiadau coronafeirws.

    Ychwanegodd na fyddai Llywodraeth y DU yn llacio'r mesurau nes eu bod nhw'n hyderus bod modd osgoi "ail dwf" yn nifer yr achosion.

    Yn y cyfamser mae cadarnhad wedi dod fod 26,097 o bobl bellach wedi marw o Covid-19 ym Mhrydain rhwng 2 Mawrth a 28 Ebrill.

    Mae'r ffigyrau diweddaraf hynny'n cynnwys marwolaethau mewn cartrefl gofal ac yn y gymuned, yn ogystal ag ysbytai, am y tro cyntaf.

    Mae'r cyfanswm newydd ond yn cynnwys pobl a fu farw ar ôl cael prawf Covid-19 positif.

  11. Y manylion diweddaraf gan y Prif Swyddog Meddygolwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. PPE: Cynllunio am brinder rhagofnwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe gynlluniau yn eu lle i ail ddefnyddio offer PPE os oes yna “brinder enbyd yn y dyfodol”.

    Dywedodd Gareth Howells, cyfarwyddwr nyrsio'r bwrdd, bod ganddyn nhw gyflenwad digonol ar hyn o bryd ac nad ydyn nhw'n gorfod ail ddefnyddio offer.

    Ond maen nhw'n dweud eu bod yn dilyn canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ynglŷn â sut i ail ddefnyddio PPE os oes angen mewn “ffordd saff” rhag ofn y bydd y sefyllfa'n codi.

  13. Dim tâl i Brownwedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fydd Gordon Brown ddim yn cael ei dalu am helpu Llywodraeth Cymru i geisio adfer y wlad wedi argyfwng Covid-19.

    Mae’r cyn brif weinidog Llafur wedi cytuno i fod yn rhan o grŵp o ymgynghorwyr tu allan i Gymru.

    Mae disgwyl i'r ymgynghorwyr rannu eu harbenigedd mewn gwahanol feysydd er mwyn adfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.

    Gordon BrownFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Gall Prifysgol 'golli £110m o incwm' yn ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mae e-bost gan Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd at staff wedi taflu goleuni ynghylch effaith Covid-19 ar y sector addysg uwch.

    Yn ôl yr Athro Colin Riordan, mae adroddiad yn awgrymu y gallai nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ostwng 24% mewn prifysgolion o'r un maint â Phrifysgol Caerdydd.

    Byddai colli 20% o'i incwm, sef £110m, yn "realistig", meddai.

    "O ran Cymru, mae'r adroddiad yn amcangyfrif yn y flwyddyn academaidd nesaf, fe allai'r wyth prifysgol yng Nghymru golli 13,250 o fyfyrwyr, gyda thros hanner rheiny'n fyfyrwyr rhyngwladol," ychwanegodd.

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi dechrau trafod yr heriau gydag undebau a chymryd nifer o fesurau i warchod staff.

    University 'may lose £110m income' during pandemicFfynhonnell y llun, Colin Smith/Geograph
  15. Mwy o bobl yn defnyddio adnodd Hwbwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Wrth siarad yng nghyfarfod rhithwir o'r Senedd dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bod gan Gymru "y llwyfan perffaith i gadw plant a phobl yn ddiogel yn ystod cyfnod clo coronafeirws".

    Dywedodd bod y defnydd o adnodd addysgol ar-lein wedi cynyddu'n fawr wrth i "2.8 miliwn o bobl" fewngofnodi,

    Dywedodd bod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 150,000 o fewngofnodiion y diwrnod

    kirsty williamsFfynhonnell y llun, bbc
  16. Cerddi o obaith yn ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae dyn sydd yn hyfforddi i fod yn ficer wedi bod yn cyhoeddi cerdd y dydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Y bwriad yw codi hwyliau pobl yn ystod cyfnod y pandemig.

    Mae Ben Lines yn cyfansoddi ac yn ffilmio cerddi munud o hyd gyda neges o obaith a ffydd. Maent yn adlewyrchu ei fywyd o gyda’i deulu a’i ffydd bersonol.

    Ben Lines a'i blantFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Ben Lines gyda'i ddau fab Gwilym (chwith) ac Eben

  17. 12 claf yn Ysbyty Calon y Ddraigwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae 12 o gleifion erbyn hyn yn Ysbyty Calon y Ddraig.

    Ysbyty dros dro yw hwn yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

    Bydd yr ysbyty yn parhau i dderbyn cleifion trwy'r wythnos.

    Y stadiwm yn cael ei newid yn ysbyty
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae lle ar gyfer hyd at 2,000 o wlâu yn yr hen stadiwm Principality sydd erbyn hyn yn ysbyty dros dro

  18. Cyngor amserolwedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried iechyd meddwl yn ogystal â iechyd corfforol pobl, ac mae eu cyngor diweddaraf yn un allai fod o gymorth i rai.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Her delio gyda Brexit â'r feirwswedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Dros Ginio
    鶹Լ Radio Cymru

    Mae’r sialens o ddelio gyda Brexit a phandemic Covid-19 ar yr un pryd “y tu hwnt i’r dychymyg” yn ôl y Cwnsler Cyffredinol. #

    Esboniodd Jeremy Miles AC, wrth siarad ar Dros Ginio, taw'r hyn sydd wrth wraidd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddweud y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi saib ar y trafodaethau Brexit yw bod angen “sicrhau bod pawb yn gallu rhoi eu hegni mewn i ddelio gyda hwn".

    Jeremy Miles
  20. Twyll meddalwedd maleisuswedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae rhybudd gan Fwrdd Iechyd y gogledd am dwyll ar-lein - byddwch yn ofalus os yn ceisio cael mynediad i wefan y GIG.