Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 3,499 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru bellach, a 193 wedi marw

  • Nifer y galwadau i elusen trais domestig "25% yn uwch" ers i bobl orfod aros adref

  • Rhybudd i bobl fod yn ofalus rhag iddyn nhw rannu newyddion ffug am coronafeirws ar-lein

  1. Haven yn ymestyn ei gyfnod ynghauwedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Byddai rhai ohonom wedi bod yn mynd i ffwrdd am wyliau dros y Pasg yn ystod y pythefnos nesaf, ond oherwydd y pandemig mae cynlluniau wedi gorfod newid.

    Nawr, mae cwmni gwyliau Haven wedi cyhoeddi y bydd ei holl barciau yn cau nes 14 Mai ar y cynharaf.

    Mae can y cwmni saith o barciau gwyliau yng Nghymru.

  2. Amcangyfrif pryderuswedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Dr Dylan Parry sydd wedi trydar canfyddiadau amcangyfrif gan brifysgol King's yn Llundain am faint o bobl sy'n dangos symptomau tebyg i rhai coronafeirws.

    Dim byd annisgwyl ar y cyfan heblaw nifer cymharol uchel ar Ynys Môn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Rhai'n dal i anwybyddu rheolauwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Er bod llawer wedi aros adre dros y penwythnos, mae'r trydariad yma gan gynghorydd o Gaergybi yn dangos nad pawb sy'n cydymffurfio gyda'r rheolau.

    Fe welodd hysbyseb am dÅ· haf ar un wefan boblogaidd - fe ddylid dweud bod yr hysbyseb arbennig yna wedi cael ei ddileu bellach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Haint yn ergyd newydd i weddw sy'n gohirio ailbriodiwedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Geraint Thomas
    Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Mae'n bwysig bod pobl yn chwilio am gymorth os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi gydag amgylchiadau'r argyfwng coronafeirws, yn ôl menyw gollodd ei gŵr a'i mab yn 2015.

    Roedd Anna-Louise Bates yn paratoi i ailbriodi ym mis Mai, ond mae'r briodas wedi'i gohirio oherwydd y pandemig.

    Bu farw Stuart Bates, 43, a Fraser, saith, ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan gerbyd ar yr A4119 yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf bron i bedair blynedd a hanner yn ôl.

    Mae modd darllen mwy am hanes Anna-Louise ar hafan Cymru Fyw.

    Anna-Louise
  5. Rhybudd am gartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Mae perchennog cartref gofal ar Ynys Môn yn rhybuddio bod angen i'r awdurdodau ddysgu gwersi o Sbaen er mwyn osgoi marwolaethau o coronafeirws.

    Dywedodd Glyn Williams, sy'n rhedeg cartref Gwyddfor ym Modedern, y byddai'n well ganddo gau os nad yw'n medru gwarchod trigolion a staff oherwydd diffyg cyllid ac absenoldeb cyfarpar diogelwch personol.

    glyn williams
  6. Rheolau newydd i ddod i rymwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Am 12:30 heddiw bydd y prif weinidog Mark Drakeford yn siarad yng nghynhadledd newyddion dyddiol coronafeirws.

    Ond mae eisoes wedi trydar i ddweud y bydd rheolau newydd yn cael eu gweithredu o fory ymlaen yng Nghymru er mwyn gwarchod gweithwyr rhag coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Coronafeirws yn fygythiad i glwb Y Rhylwedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Mae clwb pêl-droed Y Rhyl yn dweud eu bod nhw angen dod o hyd i fuddsoddiad o £175,000 erbyn Ebrill 17 i osgoi gorfod dirwyn y clwb i ben.

    Mae swyddogion y clwb yn dweud fod ‘na 3 buddsoddwr posibl wedi bod mewn cysylltiad ers iddyn nhw gyhoeddi fis diwethaf eu bod nhw mewn trafferthion ariannol, ond mai dim ond un ohonynt sy’n edrych fel eu bod o ddifrif.

    Gan fod gemau Cynghrair JD Cymru North wedi eu gohirio oherwydd y pandemig coronafeirws, tydi’r clwb ar y funud ddim yn derbyn incwm rheolaidd.

  8. Rhannu straeon ffug yn 'naturiol'wedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Wrth i nifer fawr o straeon newyddion ffug ymddangos ar wefannau cymdeithasol ers i'r pandemig coronafeirws daro, mae seicolegydd o Brifysgol Caerdydd yn credu bod pobl yn ceisio bod yn rhy gymwynasgar.

    Dywedodd Louise Waddington fod pobl mwy na thebyg yn ceisio helpu oherwydd natur ddynol o amddiffyn ein hunain.

    Dywedodd hefyd ei bod yn bosib fod pobl yn credu straeon ffug gan fod cymaint o bethau aghredadwy eisoes wedi dod yn wir yn ystod y pandemig.

    smFfynhonnell y llun, bbc
  9. Y mwyafrif yn gwrandowedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod y mwyafrif wedi gwrando, ac aros adre dros y penwythnos.

    Roedd ambell eithriad wrth gwrs - roedd dau berson wedi teithio o ganolbarth Lloegr i syrffio ar draeth y Greigddu ger Porthmadog.

    Arhoswch adre!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Ysbytai dros dro ar draws y wlad bellachwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Y gwaethaf 'tua diwedd Mai'?wedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Â鶹ԼÅÄ Radio Wales

    Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi bod yn siarad ar Radio Wales y bore 'ma.

    Dywedodd: "Fel arfer yng Nghymru mae gennym 153 o welyau gofal critigol... ry'n ni wedi mwy na dyblu'r nifer yna ac mae gennym gynlluniau i ddod â 1000 yn ychwanegol i mewn."

    Pan ofynwyd iddo pryd y mae disgwyl i'r coronafeirws fod ar ei waethaf yng Nghymru, atebodd Dr Atherton: "Mae'n anodd rhagweld.

    "Rhaid gwylio Llundain yn ofalus oherwydd dyna ganolbwynt yr haint yn y DU.

    "Yn nhermau'r don yma mwy na thebyg diwedd Mai i ddechrau Mehefin yw pryd y gwelwn ni'r brig, ond fe fyddwn ni'n gwybod mwy o gwmpas y Pasg."

  12. Mwy am Boris Johnson...wedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

    Roedd Guto Harri, cyn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson yn siarad ar y Post Cyntaf y bore 'ma: "'Ryw'n gwybod rhyw wythnos yn ôl ei fod yn teimlo yn bositif iawn, roedd yn gwybod ei fod yn sâl, ond roedd ei ysbryd e'n chwareus iawn ac os yw e'n dod trwy hyn mae ganddo fe lot o egni, maen ddyn o gorff go gryf ac yn ffit ac iach fel rheol.

    "Ond mae wedi bod o dan straen aruthrol. Fydden i'n meddwl nad yw e wedi bod yn cysgu'n dda ar ôl bod dan straen aruthrol pan bod penderfyniadau mor fawr i'w gwneud yn ddyddiol. maen amlwg bod pethau yn reit wael ei fod wedi gorfod mynd i'r ysbyty.

    "Gobeithio na fydd yno'n hir a chyda help meddygon y daw drwyddi ynghynt."

    guto
  13. Dymuno'r gorauwedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Gyda'r newyddion dros y penwythnos fod prif weinidog y DU, Boris Johnson wedi cael ei gynghori i fynd i'r ysbyty am driniaeth wedi iddo yntau brofi'n bositif am coronafeirws 10 diwrnod yn ôl, mae Mr Drakeford hefyd yn manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i ddymuno'r gorau iddo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Diolch gan y prif weinidogwedi ei gyhoeddi 08:38 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Marathon yn yr ardd!wedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Â鶹ԼÅÄ Radio Wales

    Mae cyn gapten rygbi Cymru, Ryan Jones, wedi bod yn siarad ar Radio Wales am redeg marathon yn ei ardd gefn dros y penwythnos.

    "Roedd e'n 700 gwaith hyd yr ardd, felly 350 i lawr a 350 yn ôl. Felly dwi ychydig bach yn 'sore'."

    Llwyddodd i godi dros £7,000 i ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd lleol yn Abertawe.

    ryan
  16. Rhybudd amserolwedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Llawer mwy'n cysylltu ag elusen trais yn y cartrefwedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Mae yna bryderon y bydd yna farwolaethau ymhlith merched sy'n byw gyda chymar treisgar yn sgil y gorchymyn i bobl aros yn eu cartrefi oherwydd y pandemig coronafeirws.

    Mae ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn trais yn y cartref, Rachel Williams, yn credu y bydd niferoedd llofruddiaethau "yn mynd trwy'r to" tra bod angen i bobl hunan ynysu adref.

    Dywedodd elusen Refuge eu bod wedi cofnodi 25% yn fwy o alwadau ffôn a cheisiadau ar-lein am gymorth ers i'r gorchymyn ddod i rym ar draws y DU.

    triwFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Croeso i'r llif byw ar fore Llun, 6 Ebrill.

    Fe gewch chi'r diweddaraf am y frwydr yn erbyn y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt drwy gydol y dydd.

    Bore da i chi.