鶹Լ

Crynodeb

  • 3,499 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru bellach, a 193 wedi marw

  • Nifer y galwadau i elusen trais domestig "25% yn uwch" ers i bobl orfod aros adref

  • Rhybudd i bobl fod yn ofalus rhag iddyn nhw rannu newyddion ffug am coronafeirws ar-lein

  1. Hwyl fawr am heddiw gan bawb o'r tîmwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Dyna ddiwedd ein llif byw arbennig am ddydd Llun, 6 Ebrill.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory wrth gwrs, gyda llif byw newydd yn dechrau oddeutu 08:15. Ymunwch gyda ni bryd hynny.

    Diolch am ddarllen, a hwyl fawr am y tro.

  2. Byddwch yn garedig!wedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Conwy

    Nid mwynhau fydd gweithwyr Cyngor Conwy ar y traethau yr wythnos hon, ond gweithio.

    Fyddan nhw ddim yn torri'r rheolau, felly peidiwch chi chwaith.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cynhyrchu 700 o fygydau PPE i staff bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Rhoddwyd tua 700 o fygydau PPE plastig i helpu i ddiogelu staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod pandemig COVID-19, medd y bwrdd iechyd.

    Dechreuodd y gwaith wythnos yn ôl rhwng North Wales Tech, Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai, ysgolion yng Ngwynedd a Môn a chwmnïau preifat i greu'r cyfarpar diogelu personol.

    O fewn pum niwrnod, anfonwyd y feisorau i Ysbyty Gwynedd i'w dosbarthu i ysbytai'r gogledd.

    Dywedodd Dr Simon Burnell, Anesthetydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd i helpu i ddiogelu ein staff yn ystod y cyfnod hwn.

    “Mae hon wedi bod yn ymdrech anhygoel ac rydym yn falch o weld sut mae ein cymuned glos yn dod at ei gilydd i wneud popeth o fewn eu gallu i’n helpu.”

    Anfonwyd y feisorau gan aelodau o Barc Gwyddoniaeth Menai sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o'u cynhyrchu.

    Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai: "Mae gweld pŵer y bobl yn ymateb i'r mater hwn dros y pum niwrnod diwethaf wedi fy rhyfeddu.

    "Mae'n dangos ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol, rhwng aelodau o'r gymuned, academyddion, aelodau o'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus."

    PPEFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
  4. Neges gan feddyg o Ysbyty Brenhinol Gwentwedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Rhy gynnar i ddweud' os yw'r mesurau'n llwyddowedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Ychwanegodd yr Athro Angela McLean yn ystod y diweddariad dyddiol fod angen "cyfres hir o ddata ar wahanol gyfnodau o'r feirws i fesur llwyddiant y mesurau" o gadw pobl yn eu cartrefi.

    Dywedodd: "Mae'n rhy gynnar i ddweud hyd yn hyn. Rydym angen i bobl barhau i ddilyn y cyfarwyddiadau fel y gallwn ddarganfod dair wythnos yn ddiweddarach beth sydd yn digwydd o fewn yr ysbytai."

  6. Cwymp sylweddol yn nefnydd y rheilffyrddwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Dywedodd yr Athro Angela McLean, sy'n cynghori'r Weinyddiaeth Amddiffyn, fod gostyngiad sylweddol yn y defnydd o'r rheilffyrdd hyd yn hyn - gyda'r lefelau'n is na 20% o'r defnydd ym mis Chwefror.

    Ychwanegodd fod y camau mae pobl y eu dilyn i aros adref "yn gwneud gwahaniaeth".

    Dywedodd fod nifer y bobl oedd yn cael eu cludo i ysbytai o achos y feirws "ddim mor ddrwg ag y byddai wedi bod heb y mesurau" i gadw pobl y eu cartrefi.

    Ond fe ychwanegodd hefyd y byddai'n cymryd amser cyn i'r gostyngiad yn nifer y cleifion ysbytai gael eu hadlewyrchu mewn gostyngiad yn nifer y marwolaethau.

  7. Boris Johnson 'mewn hwyliau da'wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Dywed Dominic Raab fod Boris Johnson "mewn hwyliau da" wedi iddo dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

    Dywedodd fod undod o fewn y llywodraeth o ran y frwydr yn erbyn yr haint.

    Wrth drafod yr ymdrech i gludo Prydeinwyr adref o wledydd tramor, dywedodd fod y llywodraeth wedi llwyddo i gludo 20,000 o bobl o Sbaen, 13,000 o'r Aifft, 8,000 o Indonesia, a 2,000 o bobl o saith o wledydd eraill.

  8. 5373 o bobl wedi marw o achos Covid-19wedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Mae Dominic Raab wedi cadarnhau fod 5,373 o bobl yn y DU wedi marw o achos coronafeirws hyd yn hyn.

    Ychwanegodd fod camau bwriadol llywodraeth San Steffan wedi eu cymryd gan ddilyn y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

    Diweddariad
  9. Diweddariad dyddiol ar fin cychwynwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Fe fydd y Gweinidog Tramor Dominic Raab yn arwain diweddariad dyddiol Llywodraeth y DU mewn ychydig funudau.

    Mae Mr Raab yn arwain y diweddariad dyddiol gan nad yw'r Prif Weinidog Brois Johnson yn ddigon iach i wneud hynny, wedi iddo ddal yr haint coronafeirws.

    Fe fydd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty hefyd yn rhan o'r diweddarad dyddiol, wedi iddo ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o hunan ynysu ar ôl dangos symptomau COVID-19.

  10. Adnodd i gefnogi lles gweithwyr gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cymorth gan gynghorauwedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae nifer o gynghorau Cymru yn cynnig cymorth i drigolion yn y cyfnod anodd yma.

    Un esiampl ydi'r hyn sydd gan Gyngor Sir Ynys Môn i'w gynnig isod, ond mae'n werth chwilio ar wefan eich cyngor lleol chi i weld pa gymorth sydd ar gael i unigolion a busnesau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Digwyddiad arall wedi ei ganslowedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    鶹Լ Radio Cymru

    Mae'r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon sydd wedi eu canslo o achos coronafeirws yn tyfu'n hirach o ddydd i ddydd. Dyma'r diweddaraf i ddodde'r un dynged:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ysgolion Ceredigion yn darparu offer diogelwchwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Mae dros 300 o fygydau diogelwch plastig PPE eisoes wedi eu cynhyrchu gan staff Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Uwchradd Aberteifi, yn yr ymdrech yn erbyn coronafeirws.

    Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion fod y "fisors gwyneb yma yn darparu offer amddiffyn sydd ei angen ar gyfer gweithwyr rheng-flaen yng Ngheredigion. Cynhyrchir y fisor ar argraffwyr 3-D yr ysgolion.

    "Mae cynlluniau ar waith i greu 2,000 yn fwy o’r fisors hanfodol hyn".

    Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyda chyfrifoldeb dros ysgolion: “Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff sy'n defnyddio eu harbenigedd a'u hoffer ysgol i helpu eraill.”

    YsgolionFfynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion
  14. Aelod Seneddol yn ymateb i'w phenodiadwedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Taith haf Cymru yn y fantolwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    鶹Լ Sport Wales

    Mae hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac wedi cyfaddef ei bod hi'n llai a llai tebygol y bydd y tîm yn mynd ar eu taith haf oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.

    Mae'r crysau cochion i fod i wynebu Japan ym mis Mehefin cyn chwarae dwy gêm brawf yn erbyn Seland Newydd ym mis Gorffennaf.

    Ar hyn o bryd mae'r paratoadau'n parhau, ac mae prif weithredwr Rygbi Seland Newydd wedi dweud nad oes penderfyniad am gael ei wneud eto.

    Ond dywedodd Pivac y gallen nhw drefnu gemau yn agosach at adref os na chawn nhw deithio i hemisffer y de erbyn yr haf.

    cymru v seland newyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Ysbyty dros dro yn y Llyfrgell Genedlaethol?wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cytuno gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ynglŷn â’r defnydd posibl o adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth i gefnogi ymateb y Bwrdd i argyfwng COVID-19.

    Bu swyddogion o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymweld â’r Llyfrgell i ystyried opsiynau gan gynnwys storio offer a chofnodion meddygol yn adeilad y Llyfrgell ynghyd â’r posibilrwydd o droi rhan o’r adeilad yn ysbyty dros dro.

    Mae’r maes parcio eisoes yn cael ei ddefnyddio gan staff y gwasanaeth iechyd ac mae’r Llyfrgell yn annog ei staff i wirfoddoli.

    llyfrgellFfynhonnell y llun, Geograph
  17. I bwy hoffech CHI ddiolch?wedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    鶹Լ Cymru Fyw

    Yn gofalu am gleifion, yn gyrru nwyddau, yn casglu sbwriel, yn danfon negeseuon neu'n gweithio mewn siop - mae yna griwiau o bobl ledled Cymru sy'n delio'n ddiflino gyda'r pandemig ar hyn o bryd.

    Mae rhai yn ein helpu ni yn rhinwedd eu swydd; rhai wedi mynd yr ail filltir ac eraill wedi bod wrth law i wneud cymwynas fach sy'n golygu llawer.

    A dyna pam ry'n ni'n gofyn am eich help chi i greu tudalenarbennig fydd yn dathlu'r cymeriadau lleol a'r ysbryd cymunedol sy'n ffynnu ardraws Cymru yn wyneb hunllef coronafeirws.

    Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon neges at cymrufyw@bbc.co.uk yn nodi i bwy hoffech chi ddiolch a pham. Cofiwch atodi llun o'r person hefyd, os yn bosib.

    cigyddFfynhonnell y llun, Iolo Penri
  18. Digon i drafod heno....wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    鶹Լ Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Pwerau i stopio teithwyr yn 'ddigonol'wedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Mae Mark Drakeford wedi dweud fod pwerau'r heddlu i atal pobl rhag teithio'n ddiangen yng Nghymru yn "ddigonol" ar hyn o bryd.

    Daw hynny er gwaethaf "rhai materion" wnaeth godi yng ngogledd a gorllewin Cymru dros y penwythnos gyda phobl yn teithio i ail dai.

    Pwysleisiodd y prif weinidog nad oedd hynny'n cyfrif fel "teithio angenrheidiol" ac na ddylai pobl "fod yn manteisio ar y cyfle i wneud hynny".

    drakeford
  20. Cacennau fel diolchwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Daeth plismyn fu'n patrolio ger Pont y Borth heddiw fodd i fyd wrth ddychwelyd i'r car i weld bod rhywun wedi gadael cacennau iddyn nhw.

    Braf ar rai!