鶹Լ

Crynodeb

  • 13 marwolaeth arall a chynnydd sylweddol yn nifer yr achosion newydd o Covid-19

  • Prif sefydliadau'r gogledd yn galw ar i bobl osgoi ymweld â'r ardal

  • Syr Keir Starmer wedi'i benodi yn arweinydd y Blaid Lafur

  1. Ymateb i benodiad Syr Keirwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Bydd arweinydd newydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer “yn sefyll dros fuddiannau Cymru," yn ôl arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

    Enillodd Syr Keir y ras i olynu Jeremy Corbyn gyda 56.2% o’r bleidlais, gan guro ei gyd-ymgeiswyr Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd arweinyddiaeth Syr Keir "yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf".

    Galwodd hefyd ar y blaid i "ddod at ei gilydd" i wynebu'r "heriau o'n blaenau".

    Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Cymorth i'r rhai sydd ei angenwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Enwi arweinydd newydd y Blaid Lafurwedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Keir Starmer yw arweinydd newydd y Blaid Lafur.

    Fe enillodd y ras i olynu Jeremy Corbyn. Lisa Nandy a Rebecca Long-Bailey oedd yr ymgeiswyr eraill.

    Wrth ymateb i’r canlyniad fe wnaeth arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru longyfarch Syr Keir, ac ychwanegodd bod angen i’r blaid ddod ynghyd nawr i wynebu’r heriau sydd i ddod.

    “Yn unedig a gyda ffocws byddwn ni’n ennill ymddiriedaeth y cyhoedd a gydag amser, eu caniatâd nhw i lywodraethu ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Mr Drakeford.

  4. Teyrnged mab i'w dadwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae mab dyn 81 oed a fu farw ar ôl cael coronafeirws yn yr ysbyty wedi beio marwolaeth ei dad am ddiffyg profion ac offer amddiffynnol ar gyfer staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd.

    Daliodd Jeff Lavington o Dde Cymru'r feirws wrth wella yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar ôl cael strôc. Roedd wedi mynd yno ar 13 Chwefror.

    Dywedodd Mark Lavington, ei fab 54 oed o Gaerfyrddin: "O siarad â dau aelod o staff ar y ward, rwy'n casglu bod un o'r aelodau staff wedi bod yn arddangos symptomau (coronafeirws)."

    Ychwanegodd fod staff sy'n gofalu amdano yn gwneud "gwaith anhygoel", ond honnodd fod rhai o'r gweithwyr oedd yn ei drin yn cael eu gwarchod gan fenig tafladwy, ffedogau polythen tafladwy, a masgiau llawfeddygol yn unig.

    Talodd Mr Lavington deyrnged i'w "dad a'i ffrind gorau", gan ddisgrifio ei farwolaeth "dorcalonnus" ddydd Iau fel "canlyniad uniongyrchol difrifol o fethiant y Torïaid" i brofi staff y GIG.

    Wrth gydymdeimlo â'r teulu, dywedodd bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda fod y staff wedi bod yn gwisgo'r cyfarpar diogel "yn unol â chanllawiau ac rydym wedi bod yn profi staff rheng flaen y GIG yng Nghymru ers sawl wythnos".

  5. Cwis newydd i chiwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Gyda coronafeirws yn ein hatal rhag gadael y tŷ rhyw lawer, mae nifer ohonom bellach wedi ceisio creu swyddfa bach i ni'n hunain yn ein cartrefi er mwyn cael gweithio.

    Mae hyn hefyd yn wir o nifer o gyflwynwyr radio ein gorsafoedd cenedlaethol, sydd yn darlledu o'u tai, ond tybed fyddwch chi'n gallu dyfalu pwy sydd yn darlledu o ba stiwdio hôm-mêd?

    stiwidio
  6. Yr her sy'n wynebu milfeddygonwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae milfeddygon fferm a gweithwyr cadwyn fwyd yn cael eu hystyried fel gweithwyr allweddol yn argyfwng coronafeirws, meddai Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

    Ond dywed milfeddygon y gall cynnal pellter dau fetr fod yn anodd i rai tasgau - yn enwedig gydag anifeiliaid mwy. Ac mae gweithwyr gofal anifeiliaid eraill hefyd yn cael trafferth gyda'r cyfyngiadau newydd.

    Dywedodd Nichola Rolinson, o Lawfeddygon Milfeddygol Derw, yn Llanfair-ym-Muallt: "Dwi angen i'r ffermwr ffrwyno dafad, buwch neu geffyl yn ystod gweithdrefnau brys fel genedigaethau Cesaraidd (caesarian).

    "Y cyfan y gallwn ei wneud yw ceisio wynebu i ffwrdd oddi wrth ein gilydd, peidio â chysylltu a gwisgo masgiau. Ond mae'n rhaid i ni ofalu am ein diogelwch corfforol wrth drin anifeiliaid mawr.

    "Gallai defnyddio rhaffau a bagiau tywod fod yn ffyrdd defnyddiol o ffrwyno anifeiliaid, yn enwedig rhai llai fel defaid, a chynnal pellter cymdeithasol."

    Mae milfeddygon gwledig yn gorfod cymryd camau rhyfeddol i gynnal pellter cymdeithasolFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae milfeddygon gwledig yn gorfod cymryd camau rhyfeddol i gynnal pellter cymdeithasol

  7. Cerdd i godi calonwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    S4C

    Mae S4C wedi rhannu cerdd arbennig iawn gan Mererid Hopwood ar eu cyfryngau cymdeithasol.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.
    Dyw'r 鶹Լ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  8. Stopio ceir ar Bont Menaiwedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae'r heddlu wedi bod yn stopio ceir cyn iddyn nhw fynd dros Bont Menai, er mwyn rhybuddio ymwelwyr i gadw draw.

    Mae rhai o brif sefydliadau gogledd Cymru eisoes wedi gofyn i bobl beidio gwneud teithiau diangen ac i ymwelwyr gadw draw dros gyfnod y Pasg er mwyn atal lledaenu coronafeirws.

    pont menai
    pont menai
  9. Tafarn yn troi'n siop dros drowedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae pentrefwyr yng nghefn gwlad Caerffili yn dweud bod y dafarn leol wedi tynnu pawb at ei gilydd i wynebu argyfwng y coronafeirws.

    Does dim modd i bentrefwyr Groeswen gwrdd am ddiod yn nhafarn y White Cross bellach, ond mae'r dafarnwraig nawr wedi agor siop yn gwerthu angenrheidiau bob dydd.

    "Ni'n gwerthu bara, wyau, llaeth bob pnawn Mawrth a phnawn Gwener," medd Mair Arthur.

    "Dwi ddim fel arfer yn cynnig bwyd 'ma. Ond mae pobl yn dod i 'nôl cwrw i gludo bant gyda nhw pan maen nhw'n mynd heibio am eu tro dyddiol."

    Mair ArthurFfynhonnell y llun, Mair Arthur
  10. Dyfeisgarwch ysgol uwchraddwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'Cadwch draw dros y Pasg'wedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae rhai o brif sefydliadau gogledd Cymru yn erfyn o'r newydd ar bobl i beidio gwneud teithiau diangen ac i ymwelwyr gadw draw dros gyfnod y Pasg er mwyn atal lledaenu coronafeirws.

    Daw'r apêl mewn datganiad ar ran chwe chyngor sir y gogledd yn cefnogi galwad tebyg gan arweinwyr twristiaeth y rhanbarth.

    Dywed y cynghorau fod angen i bawb barchu'r cyngor swyddogol "er mwyn diogelu a chefnogi ein gwasanaethau iechyd yn lleol".

    gogleddFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Helo a chroeso i'r llif byw heddiw.

    Arhoswch efo ni i gael y diweddaraf wrth i'r pandemig barhau i effeithio Cymru a thu hwnt. Diolch am ddilyn.