鶹Լ

Crynodeb

  • 13 marwolaeth arall a chynnydd sylweddol yn nifer yr achosion newydd o Covid-19

  • Prif sefydliadau'r gogledd yn galw ar i bobl osgoi ymweld â'r ardal

  • Syr Keir Starmer wedi'i benodi yn arweinydd y Blaid Lafur

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    A dyna ni am ddiwrnod arall ar ein tudalen byw. Diolch i chi am ymuno, arhoswch adref os allwch chi a byddwch yn ddiogel.

  2. Ysbryd gymunedol mewn argyfwngwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Elen Wyn
    Gohebydd 鶹Լ Cymru

    Siopau ar gau, dim sgwrs dros baned.

    Fel arfer, mae'r farchnad yn cael ei chynnal yn 'top dre,' y caffis yn llawn, y llyfrgell yn gysur i nifer, ond rŵan mae popeth mor wahanol.

    Mae hi'n dawel yma a phawb sy'n troedio'r stryd fawr i'r fferyllfa neu'r archfarchnad fach yn gwneud eu gorau i osgoi ei gilydd.

    Darllenwch ymlaen drwy glicio yma.

    dinbych
  3. Bygythiad i ysmygwyrwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dywed Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y corff wedi cynnal mwy na 13,000 o brofion ar gyfer Covid-19 ar fwy na 11,000 o bobl erbyn hyn.

    Ond fe rybuddiodd: “Ar ôl cyhoeddi astudiaeth newydd o China sy’n dangos bod ysmygwyr â Covid-19 14 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd difrifol, rydym yn annog pob ysmygwr sydd eisiau stopio i ddefnyddio cyngor cymorth a stopio ffôn ysmygu am ddim GIG Cymru. Chwiliwch ‘Help Me Quit’ neu ffoniwch 0800 085 2219 i ddechrau.

    “Mae Covid-19 bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Y cam pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd wrth ymladd coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG, ac achub bywydau."

  4. Pysgota am feddyginiaethwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    10 allan o 10 am wreiddioldeb!

    Mae'r ferch yma yn helpu ei thad, sy'n gaeth i'w dŷ yn Ninbych, drwy ddosbarthu bwyd a meddyginiaeth gan ddefnyddio gwialen bysgota.

    pysgota
  5. Y ffigyrau yn y DUwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Dangosodd y ffigyrau diweddaraf fod 4,313 o bobl sydd â coronafeirws bellach wedi marw yn y Deyrnas Unedig - i fyny 708 ar ffigwr dydd Gwener.

    Dywedodd GIG Lloegr fod plentyn pump oed ymhlith y cleifion diweddaraf i farw yno.

    Bellach mae 41,903 o achosion wedi’u cadarnhau yn y DU, meddai Adran Iechyd y llywodraeth.

  6. 'Heb weld hi fel yma o'r blaen'wedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae Carla Imbrenda yn dywysydd mynydd ac roedd yn mynd â'i merch, Gabriella allan am dro yn Llanberis heddiw.

    “Fel rhywun sy’n gweithio gyda thwristiaeth ac yn dibynnu ar y diwydiant, dyma'r tawelaf i mi ei weld erioed," meddai Carla.

    "Dydw i ddim wedi gweld unrhyw un sydd ddim yn dod o gwmpas yma. Dwi'n credu bod pobl yn gwneud yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud."

    Llanberis
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Carla a Gabriella Imbrenda yn byw yng nghanol Llanberis

  7. 'Ymwelwyr yn teithio i Gymru gyda'r nos'wedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae perchnogion cartrefi gwyliau wedi bod yn teithio i ogledd Cymru gyda’r nos er mwyn osgoi cael eu canfod gan yr heddlu, yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

    Er gwaethaf rhybuddion gan awdurdodau lleol a'r llywodraeth i gyfyngu ar yr holl deithio nad yw'n fater brys, mae pryderon wedi'u codi heddiw bod rhai twristiaid wedi bod yn teithio i Gymru.

    "Mae ganddon ni dystiolaeth bod perchnogion tai gwyliau yn rhannu cyngor am deithio yn y nos er mwyn osgoi'r heddlu a hyd yn oed o bobl yn poeni dim am gael dirwy am deithio," meddai Ms Saville Roberts.

    “I'r rhai sy'n ystyried gwneud hyn, mae'r rheolau yno am reswm. Nid oes unrhyw eithriadau mewn pandemig."

  8. Ychydig o luniau o amgylch Cymruwedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Maes Cfon
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes Caernarfon amser cinio ddydd Sadwrn

    Port
    Disgrifiad o’r llun,

    Y brif stryd ym Mhorthmadog yn dawel iawn hefyd

    storey arms
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhybuddion yn y Bannau

  9. Y ffigyrau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Diweddariad: 14:00 4 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    ffigyrauFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru

    *gall rhai mân amrywiadau ddigwydd o ddydd i ddydd yn yr achosion a gofnodir yn ôl ardal bwrdd iechyd

  10. Traffig yr A55 'lawr 63%'wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Traffig Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'Dychwelwch adref ar unwaith'wedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 13 wedi marw a 387 achos newydd mewn 24 awrwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoedus Cymru wedi cyhoeddi bod 13 yn rhagor o bobl wedi marw o Covid-19 ers y diweddariad diwethaf 24 awr yn ôl.

    Mae nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl cael yr haint bellach yn 154.

    Cafodd 387 o achosion positif newydd eu cadarnhau hefyd, gyda'r cyfanswm yma bellach yn 2,853 - er mae disgwyl i'r ffigwr fod yn llawer uwch mewn gwirionedd.

    covid-19
  13. Hunan ynysu... a'r ynyswedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Dim ond pump o bobl sy'n byw ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro - ond mae dau o'r rheiny wedi gorfod hunan ynysu rhag ofn eu bod wedi eu heintio â coronafeirws.

    Roedd y wardeiniaid Nathan Wilkie a Sylwia Zbijewska newydd ddychwelyd i'r ynys ar ôl seibiant ar y tir mawr pan wnaeth Nathan ddatblygu peswch, gan eu gorfodi i hunan ynysu.

    Mae'n stori ddigon tebyg i wardeiniaid Ymddiriedolaeth Ynys Enlli - Mari Huws ac Emyr Owen - er nad ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o'r feirws, nac yn gorfod hunan ynysu.

    Darllenwch am stori'r ddau gwpl yma.

    Emyr a MariFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Ynys Enlli
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth Emyr Owen a Mari Huws yn wardeiniaid ar Ynys Enlli ym mis Medi'r llynedd

  14. Marathon yn yr arddwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Llongyfarchiadau i gyn-gapten rygbi Cymru, Ryan Jones am gwblhau marathon - yn ei ardd gefn, mae'n debyg...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Angen i'r fyddin ymyrryd ym Môn'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Mae pennaeth twristiaeth Cyngor Ynys Môn wedi galw am ddod â'r fyddin i mewn i amddiffyn yr ynys rhag pobl sy'n torri rheolau pellhau cymdeithasol.

    Daw'r alwad yn dilyn datganiad ar y cyd gan chwe chyngor y rhanbarth yn annog pobl ar eu gwyliau i gadw draw yn ystod pandemig Covid-19.

    Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cynyddu patrolau sydd â'r nod o sefydlu pwrpas teithiau pobl. Ond mae'r Cynghorydd Carwyn Jones, deiliad portffolio twristiaeth Cyngor Ynys Môn, wedi ysgrifennu at yr AS lleol yn ei hannog i bwyso ar y Llywodraeth i weithredu ymhellach.

    "Mae adroddiadau'n dod yn drwchus ac yn gyflym o bob cornel o Ynys Môn o berchnogion tai gwyliau a thwristiaid yn heidio yma am ychydig o hwyl y Pasg," meddai'r Cynghorydd Jones.

    "Mae'r heddlu'n gwneud gwaith gwych gyda'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, ond mae angen mwy o gefnogaeth a byddwn yn awgrymu rŵan bod angen defnyddio'r fyddin i helpu'r sefyllfa trwy staffio'r ddwy bont a'r 'hotspots' cyn i fwy a mwy ddechrau cyrraedd."

    Cadarnhaodd AC Môn, Rhun ap Iorwerth, ei fod wedi derbyn "sawl adroddiad" o ymwelwyr yn cyrraedd mewn "niferoedd sylweddol", gan ychwanegu nad oedd ganddo "unrhyw syniad beth oedd yn mynd trwy eu pennau".

  16. Yr A55 fel y beddwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Distawrwydd llethol ar yr A55 yn ardal Penrhosgarnedd, ger Bangor, i gyfeiriad y dwyrain am hanner dydd heddiw.

    Cofiwch bod modd i chi anfon eich lluniau atom ni ar cymrufyw@bbc.co.uk - os ydy hi'n briodol ac yn ddiogel i wneud wrth gwrs!

    A55Ffynhonnell y llun, Aled Morgan
  17. 'Dim ffanfer na chymeradwyaeth'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Syr Keir Starmer wedi'i enwi'n arweinydd y Blaid Lafur

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol 鶹Լ Cymru

    Am resymau amlwg doedd yna ddim digwyddiad mawr - dim ffanfer na chymeradwyaeth - i groesawu'r cyhoeddiad yma.

    Fe ddaeth y canlyniad mewn ebost at newyddiadurwyr ac ar wefan Llafur.

    Dywedodd Sir Keir Starmer taw cael ei ethol yn arweinydd ar y blaid oedd anrhydedd fwya'i fywyd.

  18. Elw'r Grand National i fynd i'r GIGwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae golwg360 yn adrodd y bydd ras geffylau y ‘Grand National rithwir (virtual)’ yn cael ei chynnal am 17:15 heno, gyda’r

    Mae disgwyl miliynau o wylwyr ar gyfer y ‘ras’ ar ITV, wrth i gwmnïau betio addo y bydd yr holl arian yn mynd at elusennau GIG wrth iddyn nhw fynd i’r afael â coronafeirws.

    Fe fydd 10,000 o docynnau ar gyfer diwrnod cyntaf wythnos y Grand National y flwyddyn nesaf yn cael eu rhoi i weithwyr y gwasanaeth iechyd.

    Grand NationalFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd y Grand National ei ohirio ar 16 Mawrth

  19. 'Ennill ymddiriedaeth y cyhoedd'wedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    Llongyfarchodd Mr Drakeford Angela Rayner hefyd ar gael ei hethol yn ddirprwy arweinydd.

    "Bydd ei hegni a'i dealltwriaeth yn gaffaeliad i'r blaid ac edrychaf ymlaen at ymgyrchu gyda hi ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod," meddai Mr Drakeford.

    “Nawr bod yr etholiad drosodd, rhaid i’n plaid ddod at ei gilydd i wynebu’r heriau sy'n amlwg iawn o'n blaenau.

    “Yn unedig a gyda ffocws byddwn yn ennill ymddiriedaeth y cyhoedd ac ymhen amser, eu caniatâd i lywodraethu ledled y DU.”

  20. 'Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal'wedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 4 Ebrill 2020

    “Rwy’n anfon llongyfarchiadau cynnes o Gymru i Keir ar ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur," meddai Mr Drakeford.

    “Daw Keir yn arweinydd ar adeg dyngedfennol i’n gwlad.

    "Bydd ei arweinyddiaeth yn y Senedd yn hollbwysig yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni ymateb i coronafeirws ac yna wrth i ni geisio adeiladu'r gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn sy'n gorfod dilyn.

    “Rwy’n gwybod bod gennym ni yn Keir, arweinydd Llafur a fydd yn parhau i sefyll dros fuddiannau Cymru ac a fydd yn cefnogi gwaith Llywodraeth Lafur Cymru dros bobl Cymru."