鶹Լ

Crynodeb

  • 117 o bobl wedi marw o Covid-19 yng Nghymru

  • Galw i roi mwy o gymorth Credyd Cynhwysol ar frys

  • Cynllun llety i weithwyr allweddol

  • Pryder am ddyfodol canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd

  1. Mae rhai yn mynnu mentrowedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid pawb sydd wedi derbyn y neges am aros adref yn ystod y cyfnod yma - mae rhai'n mynnu mynd allan i wersylla hyd yn oed.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Nifer y marwolaethau Covid-19 hyd yn hynwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Map
  3. Achosion newydd Covid-19 - fesul ardal bwrdd iechydwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Map
  4. Addasu maes parcio stadiwm ar gyfer profion Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Mae'r gwaith wedi dechrau o sefydlu gorsaf brofi Covid-19 ym maes parcio Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Dyma'r olygfa ddiweddaraf o'r stadiwm heddiw.

    Caerdydd
  5. Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru - rhagor:wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    2/2

    Ychwanegodd Dr Robin Howe:

    “Rydyn ni'n gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, ac rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am chwarae eu rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”

    “Rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ynghylch aros gartref, ac i ffwrdd oddi wrth eraill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r rheolau hyn ar gael ar wefan .

    “Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).

    “Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty. Dim ond os yw'n teimlo na all ymdopi â'i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

    “Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn. Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.

    “Mae'r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn wrth arafu lledaeniad yr haint. Wrth ddilyn y mesurau diweddaraf yn llym, byddwch yn amddiffyn eich hun a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”

  6. Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymruwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    1/2

    Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

    “Mae 284 o achosion newydd wedi profi’n bositif am Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 1,837 “ er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch.

    “Mae 29 person arall a gafodd brawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi marw, sy’n dod â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 117.

    “Mae’r cynnydd heddiw yn adlewyrchu cyfuniad o gynnydd gwirioneddol yn y niferoedd, ynghyd ag achosion ychwanegol a gofnodwyd o’r cyfnod adrodd blaenorol.

    “Estynnwn ein cydymdeimlad i’r teuluoedd a'r ffrindiau sydd wedi'u heffeithio, a gofynnwn i'r rhai sy'n adrodd ar y sefyllfa barchu cyfrinachedd cleifion.

    “Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu cymryd wrth ymladd Coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

  7. 284 achos a 19 marwolaeth Covid-19 newyddwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau'r ffigyrau diweddaraf - rhagor o fanylion i ddilyn.

  8. Cwmni bysiau yn oedi gwasanaethwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Dywed cwmni National Express eu bod yn rhoi'r gorau i'w gwasanaethau bws o hanner nos nos Sul 5 Ebrill.

    Dywedodd prif weithredwr y cwmni Chris Hardy eu bod wedi bod yn cynnal gwasanaeth cyfyngedig yn ddiweddar er mwyn helpu unigolion mewn achosion lle'r oedd teithio yn angenrheidiol.

    "Ond bellach dyw hi ddim yn bosib i ni barhau'r a'r gwasanaeth," meddai.

    bws
  9. Dirwyo tafarnwr yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dirwyo tafarnwr yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, am barhau ar agor.

    Yn ôl y llu, roedd y tafarnwr eisoes wedi cael rhybudd ond heb ufuddhau.

    Yn ogystal â'r ddirwy bydd yr heddlu yn anfon adroddiad am y digwyddiad at bwyllgor trwyddedu'r awdurdod lleol.

  10. Cadwch draw!wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Mae Owen Williams wedi bod yn cael ychydig o hwyl yn addasu hen bosteri twristiaeth oedd yn hysbysebu atyniadau Cymru, er mwyn tanlinellu'r neges na ddylai neb ymweld ar hyn o bryd o achos y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Addasu canolfan ymarfer y Gweilch i ysbytywedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    鶹Լ Camp Lawn

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Gobaith o gynyddu profion Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Dywed Andrew Goodall fod y Gwasanaeth Iechyd yn gobeithio gallu cynnal hyd at 5,000 o brofion Covid-19 y dydd ymhen yr wythnosau nesaf.

    Yn y gynhadledd i'r wasg ddyddiol dywedodd eu bod yn gobeithio cyrraedd targed o 1,100 y dydd erbyn diwedd yr wythnos hon.

  13. 55% o wlâu gofal critigol yn wagwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Dywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Andrew Goodall wrth newyddiadurwyr yn ystod diweddariad dyddiol y llywodraeth fod 55% o wlâu gofal critigol Cymru yn wag ar hyn o bryd.

    Ychwanegodd fod 331 o wlâu gofal critigol yn y wlad - gydag un o bob pump o'r rhain yn cael eu defnyddio gan gleifion coronafeirws.

    Roedd mwy o bwysau ar yr unedau critigol yn y de ddwyrain meddai.

  14. 1500 o staff wedi derbyn profion Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Yn ôl Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd, Andrew Goodall, mae 1500 o staff y Gwasanaeth Iechyd wedi derbyn profion am Covid-19 hyd yn hyn.

    Dywedodd fod lefel absenoldeb salwch staff y gwasanaeth ar hyn o bryd yn 10% - sydd ddwywaith yn uwch na'r ffigwr arferol.

  15. Datganiad dyddiol y llywodraeth ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Covid-19: Myfyrdodau myfyrwraigwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Gyda phrifysgolion ar gau oherwydd yr haint coronafeirws, mae Magi Tudur wedi gorfod gadael y brifddinas ar ôl dau dymor yn unig o'i blwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth.

    Nawr mae hi'n cyfuno astudio ar-lein gyda gweithio mewn meddygfa ger ei chartref yn ardal Caernarfon yn ystod yr argyfwng iechyd. Mae hi wedi sgwennu erthygl i 鶹Լ Cymru Fyw am y newidiadau sydyn i'w bywyd.

    Magi TudurFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
    Disgrifiad o’r llun,

    Magi Tudur yn y feddygfa

  17. Cynhadledd i'r wasg yn fuanwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd cynhadledd i'r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru'n cael ei chynnal am 12:30 heddiw - gyda'r manylion diweddaraf am sefyllfa'r pandemig yng Nghymru.

    Mae modd i chi ddilyn y gynhadledd ar S4C a 鶹Լ One Wales.

  18. Cymro yn sownd yn Ne Affricawedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Mae dyn o Abertawe sydd â phroblemau calon difrifol, yn dweud ei fod yn sownd yn Ne Affrica, gyda gwerth dyddiau'n unig o feddyginiaeth ar ôl.

    Dim ond 60% o galon Phil Walker, 57, sy'n gweithio wedi iddo gael trawiad ar y galon.

    Roedd Mr Walker a'i bartner Michelle Hall i fod i deithio yn ôl i'r DU gyda Virgin Atlantic ddydd Llun, ond cafodd yr hediad ei ganslo oherwydd coronafeirws.

    Phil WalkerFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
  19. Yr Elyrch hefyd yn tocio cyflogauwedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cwtogi cyflogau staff Clwb Pêl-droed Caerdyddwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Ebrill 2020

    Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

    Bydd rheolwr a phrif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn derbyn gostyngiad o 20% i'w cyflogau mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws.

    Dywedodd y clwb y bydd Neil Harris a Ken Choo yn gwneud hyn yn wirfoddol.

    Mae cadeirydd y clwb, Mehmet Dalman wedi galw ar yr awdurdodau pêl-droed i sicrhau fod chwaraewyr hefyd yn derbyn toriadau i'w cyflogau.

    Bydd mwyafrif o staff y clwb yn derbyn gostyngiad i'w cyflog, heblaw am y rhai sydd ar y cyflog isaf.

    Bwriad y clwb ydi rhoi canran o'r staff ar gynllun 'furlough''r llywodraeth, gyda'r llywodraeth yn talu 80% o gyflogau unigolion am y tro.

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
    Disgrifiad o’r llun,

    Neil Haris o Glwb Caerdydd