Â鶹ԼÅÄ

Dyn difrifol wael yn sownd yn Ne Affrica heb feddyginiaeth

  • Cyhoeddwyd
Michelle Hall a Phil WalkerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michelle Hall a Phil Walker i fod yn teithio yn ôl i'r DU gyda Virgin Atlantic ddydd Llun

Mae dyn o Abertawe sydd â phroblemau calon difrifol yn dweud ei fod yn sownd yn Ne Affrica, gyda gwerth dyddiau'n unig o feddyginiaeth ar ôl.

Dim ond 60% o galon Phil Walker, 57, sy'n gweithio wedi iddo gael trawiad ar y galon.

Roedd Mr Walker a'i bartner Michelle Hall i fod teithio yn ôl i'r DU gyda Virgin Atlantic ddydd Llun, ond cafodd yr hediad ei ganslo oherwydd coronafeirws.

Mae Virgin Atlantic wedi ymddiheuro, gan ychwanegu eu bod yn gweithio ar gynllun i gael y pâr adref cyn gynted â phosib.

Wedi i lywodraeth De Affrica roi cyfyngiadau llym mewn grym ar deithio i mewn ac allan o'r wlad, fe ohiriodd Virgin Atlantic eu hediadau.

Llwyddodd y cwpl i archebu lle ar awyren British Airways, oedd fod hedfan ddydd Sul, ond cafodd yr hediad hwnnw ei ganslo hefyd.

'Rhedeg mas o feddyginiaeth'

Dywedodd Mr Walker, o'r Mwmbwls, nad yw'n gallu fforddio prynu mwy o feddyginiaeth am nad ydyn nhw wedi derbyn ad-daliad am yr hediadau gafodd eu canslo.

Mae'n gorfod cymryd naw tabled cyn amser brecwast, pedwar amser cinio a saith yn y prynhawn, yn ogystal â morffin yn y bore a nos.

"Os na chaf i hedfan mas o 'ma erbyn y penwythnos fe fydda i'n rhedeg mas o feddyginiaeth," meddai.

"Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud wrtha i am fynd i glinig yma, ond sut alla i wneud hynny a pheryglu fy hun i'r feirws?"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phil Walker yn hyfforddi ceffylau cyn iddo ddioddef trawiad ar y galon

Mae aelod Seneddol Gwyr, Tonia Antoniazzi wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael Mr Walker adref.

"Mae'n wael iawn, yn fregus iawn, ac mae'n rhaid i ni ei gael adref fel blaenoriaeth," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod £75m wedi'i glustnodi ar gyfer helpu dinasyddion Prydeinig i ddychwelyd i'r DU yn ystod yr argyfwng.

"Byddwn yn parhau i weithio ddydd a nos i gludo pobl gartref," meddai.

Mewn datganiad pellach ddiwedd prynhawn Iau, dywedodd y Swyddfa Dramor fod "staff mewn cysylltiad â Mr Walker " ac yn rhoi cymorth "i sicrhau ei fod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol."