Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 1,837 o achosion coronafeirws yng Nghymru gyda 98 o farwolaethau

  • Arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn derbyn gwahoddiad Mark Drakeford i fod ar grŵp craidd Covid-19

  • Rhai ysgolion yn aros ar agor dros y Pasg, a phlant sy'n derbyn cinio ysgol am ddim yn parhau i gael eu bwydo

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Dyna'r cyfan o'n llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory oddeutu 08:15 gyda'r holl newyddion diweddaraf i chi am y pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Diolch o galon am ddarllen gyda ni - cymrwch ofal, a hwyl fawr am heddiw.

  2. Nifer y marwolaethau yn Yr Eidal yn gostwngwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae'r Eidal wedi cyhoeddi ei fod wedi gweld gostyngiad yn nifer y marwolaethau cleifion Covid-19, gan godi gobeithion y bydd hynny'n dechrau tuedd am i lawr.

    727 o bobl fu farw yno ddydd Mawrth, o'i gymharu â 812 ddydd Llun.

    Mae cyfanswm o 13,155 o bobl â coronafeirws wedi marw yn Yr Eidal hyd yn hyn - mwy nag unrhyw wlad arall.

    Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Clwb Pêl-droed Abertawe'n rhoi staff ar gennadwedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gofyn i fwyafrif eu staff, oni bai am chwaraewyr, i gael eu rhoi ar gennad o ganlyniad i argyfwng coronafeirws.

    Y clwb yn y Bencampwriaeth yw'r diweddaraf i gymryd mantais o gynllun Llywodraeth y DU i amddiffyn swyddi.

    Bydd y staff felly'n gallu derbyn 80% i'u cyflog tra bod cynghreiriau wedi'u gwahardd.

    Mae Abertawe yn dweud y byddan nhw'n talu'r 20% arall fel y bydd y staff yn derbyn eu cyflog llawn.

    LibertyFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. £18m i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol a chwaraeonwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod dros £18m ar gael i gefnogi sectorau y diwydiannau creadigol, diwylliant a chwaraeon sy’n teimlo effaith Covid-19.

    Fe wnaethon ni sôn yn gynharach am y £7m fydd yn cael ei ddosbarthu gan y Cyngor Celfyddydau, ond bydd nifer o feysydd eraill yn elwa hefyd, sef:

    • £8m i Gronfa Cydnerthedd Chwaraeon
    • £1m i Gronfa Cymru Greadigol
    • £1m i Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol
    • Cronfa Cymorth Brys gwerth £750,000
    • Adnoddau Llyfrgell Digidol gwerth £250,000

    Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael .

  5. Cwmni caws yn rhoi dewis anarferol i gwsmeriaidwedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae cynhyrchydd caws o orllewin Cymru wedi cynnal yr hyn mae'n ei alw'n "arbrawf cymdeithasol" mewn ymgais i gadw ei fusnes yn fyw yn wyneb her coronafeirws.

    Mae Carwyn Adams, perchennog cwmni Caws Cenarth, wedi rhoi dewis anarferol i gwsmeriaid: talwch am y caws, neu ewch ag ef am ddim.

    Wrth i'r rheolau dynhau yn ddiweddar, mae'r rhan fwyaf o fusnes y cwmni wedi diflannu dros nos, gyda siopau a bwytai'n cau a digwyddiadau o bob math yn cael eu gohirio.

    Ond mae gan y cwmni stordai'n llawn o gaws, sydd angen cael ei werthu cyn iddo ddifetha.

    Mae rhagor ar y stori yma ar ein hafan.

    Caws
  6. Troi cyfleusterau Prifysgol Bangor yn ysbyty dros drowedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Bydd cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol Bangor yn cael eu troi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion yn ystod argyfwng coronafeirws.

    Fe fydd tua 250 o welyau ychwanegol ar gael i'r GIG yng Nghanolfan Brailsford fel rhan o'r bartneriaeth rhwng y brifysgol a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Paul Davies i ymuno â grŵp Covid Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies wedi ymuno â grŵp Covid Llywodraeth Cymru.

    Daw yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach fod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, hefyd wedi derbyn cynnig i ymuno â'r grŵp.

    Mae'r grŵp yn cwrdd unwaith yr wythnos i glywed y datblygiadau diweddaraf gan Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

    "Yn yr un ffordd y mae asiantaethau yn cydweithio i atal lledaeniad coronafeirws, mae hefyd yn amser i'r pleidiau yng Nghymru gydweithio," meddai Mr Davies.

    Paul DaviesFfynhonnell y llun, Y Ceidwadwyr Cymreig
  8. Cyngor y celfyddydau yn lansio cronfa gwerth £7mwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi cronfa ddycnwch gwerth £7m i ddiogelu celfyddydau Cymru rhag effaith argyfwng coronafeirws.

    Dywedodd y cyngor y byddai'r manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth, 7 Ebrill.

    Dywedodd cadeirydd y cyngor, Phil George:"Mae'r celfyddydau bob amser yn rhoi mwynhad a chysur, yn enwedig mewn argyfwng. Mewn byd sy’n hunan ynysu, mae colled fawr ar eu hôl.

    "Mae'n hanfodol felly ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn goroesi ac yn ailennill eu lle wrth wraidd diwylliant a lles Cymru."

  9. Apêl i beidio celu gwybodaeth rhag parafeddygonwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Nifer gwelyau GIG Cymru yn cael 'ei ddyblu'wedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae nifer y gwelyau sydd ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael "ei ddyblu i bob pwrpas" yn ôl y gweinidog iechyd.

    Dywedodd Vaughan Gething wrth ACau bod y gwaith, sy'n cynnwys sefydlu ysbytai dros dro mewn lleoliadau fel Stadiwm Principality a Venue Cymru, yn "arbennig".

    "Bydd ein byrddau iechyd, i bob pwrpas, wedi creu hyd at 7,000 o welyau ychwanegol," meddai.

    Dywedodd hefyd bod nifer y gwelyau gofal critigol wedi cynyddu i 313.

    Ar hyn o bryd mae'r gwelyau hynny tua 40% yn llawn, gyda 69% o'r cleifion hynny yn rhai sydd â Covid-19, neu sy'n cael ei hamau o fod â'r feirws.

    Parc y ScarletsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Parc y Scarlets yn un o'r lleoliadau sy'n cael eu troi'n ysbytai dros dro

  11. Canslo Wimbledon oherwydd coronafeirwswedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Ym myd y campau, mae pencampwriaeth tenis Wimbledon wedi cael ei chanslo, a hynny am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd.

    Roedd y twrnament i fod i gael ei gynnal rhwng 29 Mehefin a 12 Gorffennaf, ond ni fydd tenis proffesiynol yn ailddechrau nes 13 Gorffennaf ar y cynharaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ysbyty mwyaf Cymru'n disgwyl 'ton enfawr' o achosionwedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae uwch-gyfarwyddwr yn ysbyty mwyaf Cymru'n dweud eu bod mewn "tir newydd" wrth i'r safle baratoi i wynebu "ton enfawr" o achosion Covid-19.

    Ond dywedodd Richard Skone, sy'n gweithio yn Ysbyty Athroafol Cymru yng Nghaerdydd, bod ymdrechion gan staff wedi bod yn "aruthrol".

    Mae dros 800 o glinigwyr o wahanol adrannau wedi mynychu hyfforddiant arbenigol ar sut i ddelio gyda chleifion sydd â coronafeirws.

    Hyd yn hyn, 14 o gleifion sydd wedi cael triniaeth yn uned gofal dwys yr ysbyty gyda'r feirws.

    YsbytyFfynhonnell y llun, Geograph
  13. Ai chi fydd sylwebydd Radio Cymru'r dyfodol?wedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Cadarnhau'r cwmni wnaeth fethu â darparu profionwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Yn dilyn y newyddion gan Blaid Cymru yn gynharach mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford bellach wedi cadarnhau mai gyda chwmni Roche y gwnaeth cytundeb i ddarparu profion Covid-19 ddymchwel.

    Daeth i'r amlwg ddydd Sadwrn bod cytundeb i ddarparu 5,000 o brofion y dydd wedi dymchwel, gyda Llywodraeth Cymru'n dweud bod hynny wedi cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau.

    Tan heddiw roedd y llywodraeth wedi gwrthod cadarnhau enw'r cwmni dan sylw.

    Mae Roche wedi mynnu nad ydyn nhw erioed wedi cael cytundeb uniongyrchol gyda Chymru i ddarparu profion am Covid-19.

    Drakeford
  15. Gohirio Cymru v Iseldiroeddwedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Cadarnhad gan UEFA fod y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a'r Iseldioredd ar 6 Mehefin yn Rotterdam - fel y disgwyl - wedi'i gohirio.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cadarnhau cwmni'r profion?wedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae Plaid Cymru'n dweud eu bod wedi cael cadarnhad gan y prif weinidog mai Roche oedd y cwmni a dorrodd gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu profion coronafeirws i'r GIG yng Nghymru.

    Fe gyfaddefodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething y byddai cael y profion ychwanegol "wedi gwneud gwahaniaeth" i'r frwydr yn erbyn y feirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Creu hanes yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Bydd y Cynulliad yn cwrdd yn adeilad y Senedd y prynhawn yma, ond fe fydd yn gyfarfod tra gwahanol i'r arfer.

    Mwy o fanylion yma .....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Y diwrnod gwaethafwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Gyda 29 o farwolaethau'n cael eu cadarnhau yng Nghymru ers ddoe, mae'r graph yn dangos yn glir mai dyma'r diwrnod gwaethaf o bell ffordd ers i'r pandemig coronafeirws daro.

    marwolaethau
  19. Arweinydd Plaid Cymru i gydweithio gyda'r llywodraethwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Achosion coronafeirws Cymruwedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    map