Â鶹ԼÅÄ

Cwmni caws yn rhoi dewis anarferol i gwsmeriaid

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Carwyn Adams wedi digalonni nes cynnal ei "arbrawf cymdeithasol"

Mae cynhyrchydd caws o orllewin Cymru wedi cynnal yr hyn mae'n ei alw'n "arbrawf cymdeithasol" mewn ymgais i gadw ei fusnes yn fyw yn wyneb her coronafeirws.

Mae Carwyn Adams, perchennog cwmni Caws Cenarth, wedi rhoi dewis anarferol i gwsmeriaid: talwch am y caws, neu ewch ag ef am ddim.

Wrth i'r rheolau dynhau yn ddiweddar, mae'r rhan fwyaf o fusnes y cwmni wedi diflannu dros nos, gyda siopau a bwytai'n cau a digwyddiadau o bob math yn cael eu gohirio.

Ond mae gan y cwmni stordai'n llawn o gaws, sydd angen cael ei werthu cyn iddo ddifetha.

Pwll anobaith

"Ddeffres i fore Llun mewn anobaith llwyr," meddai Carwyn, sy'n cynnal y busnes o fferm y teulu, Glynarthen ger Castell Newydd Emlyn.

"Roeddwn i'n cerdded yn ôl ac ymlaen yn hollol ddibwrpas - doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud achos roedd gennym lot fawr o stoc ac ro'n i'n teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth.

"Dydi caws, ac yn enwedig cawsiau meddal, ddim yn para'n hir, ac mae angen eu bwyta, felly roeddwn i'n teimlo fel ymestyn allan."

Ateb Carwyn Adams oedd rhoi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gofyn am gymorth ac yn rhoi 3 dewis yn ei arbrawf cymdeithasol: talwch y pris llawn am eich caws os allwch fforddio hynny; talwch hanner y pris amdano os ydych chi mewn trafferthion, neu ewch â'r caws adref am ddim.

"Doeddwn i ddim am roi pwysau ar unrhyw un, ro'n i jest eise nhw weld fy sefyllfa. Doeddwn i ddim eise neb feddwl mai sob story oedd hon - ro'n i jest mo'yn dweud sut ro'n i'n teimlo ar y diwrnod a meddyliais mai'r unig ffordd oedd dweud: 'penderfynwch chi."

Roedd yr ymateb tu hwnt i'w ddisgwyliadau - canodd y ffôn yn syth ac nid yw wedi stopio ers hynny.

Dywedodd Carwyn ei fod wedi mynd o bwll anobaith i orfoledd o fewn 24 awr, wrth sylweddoli fod pobl eisiau helpu.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd stordai'r cwmni yn llawn o gaws oedd angen ei werthu cyn iddo ddifetha

Mae'r archebion wedi llifo i mewn ac mae'r rhan fwyaf wedi talu'r pris llawn am y caws.

Mae'n golygu fod y staff sy'n cael eu cadw ymlaen gan y cwmni yn brysur yn cyflawni archebion ac yn cadw'r busnes i fynd.

Mae'r dyfodol yn dal yn ansicr, er gwaetha'r arbrawf, ond mae Carwyn yn ystyried ail ddechrau cynhyrchu caws a chyflenwi archebion fel bo'r galw, os yw'r staff yn cytuno.

Mae'r arbrawf hefyd wedi agor ei lygaid i fanteision y cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o gyrraedd ei gwsmeriaid.

"Ro'n i'n berson eitha' preifat o'r blaen, yn delio efo fy mhethau fy hun, ond weithiau pan chi'n gallu dweud wrth eraill beth yw'r broblem, maen nhw'n gallu rhoi syniadau i chi.

"Dwi wedi cael llawer o syniadau gan fusnesau eraill, a fydd o help yn y dyfodol. Mae o wedi chwythu fi bant a bod yn onest."