Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Cyfarfod llawn yn dechrau am 1pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf ar Coronavirus (COVID-2019)

  • Dadl: Setliad yr Heddlu

  • Dadl: Maes Awyr Caerdydd

  • Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

  1. Gwybodaeth ddiweddaraf ar y coronfeirws (COVID-2019)wedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Nesaf yn y Siambr, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: y wybodaeth ddiweddaraf ar y coronafeirws (COVID-2019).

    Mae'n dweud y bydd yn rhaid i'r GIG wneud newidiadau i'r modd y mae'n gweithredu, gan gynnwys mwy o ofal a chyngor ar y ffôn a thechnoleg wybodaeth.

    Mae swyddogion y llywodraeth yn ystyried argymell mwy o weithio gartref a pheidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl y gweinidog iechyd.

    Ond dywed Mr Gething fod Llywodraeth Cymru eisiau "sicrhau cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effaith gymdeithasol ac economaidd i'r eithaf.

    "Bydd ein penderfyniadau'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdau dan sylw," meddai.

    "Mae'r camau y byddwn yn eu hystyried yn cynnwys annog mwy o weithio gartref, peidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiad eraill y gall pobl eu cymryd o'u gwirfodd i arafu lledaeniad y clefyd.

    "Byddwn yn ystyried a ddylai'r rhai sydd â symptomau llai hunan-ynysu, ond bydd hyn yn cael ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achosion, ac nid ydym ar y pwynt hwnnw heddiw."

    Vaughan Gething
    coronfeirwsFfynhonnell y llun, Science Photo Library
  2. Datganiad a Chyhoeddiad Busneswedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Rebecca Evans
  3. 'Rhwystr i blannu coed'wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn codi mater llifogydd, ac yn adlewyrchu pryderon y diwydiant coedwigaeth ynghylch canllawiau medden nhw sy'n rhwystr i blannu coed.

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod gan blannu coed ran fawr mewn amddiffynfeydd llifogydd, ond mae'n dweud bod yna gydbwysedd i'w gyflwyno gyda bioamrywiaeth, ond yn awgrymu bod agnen edrych ar bolisi eto.

    Mark Reckless
  4. 'Straen anferth ar ein holl wasanaethau cyhoeddus ni gan gynnwys y gwasanaeth iechyd'wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae Mark Drakeford yn dweud os y bydd senario gwaethaf rhesymol - gydag 80% o bobl yn dal y feirws - yn digwydd, byddai hynny'n rhoi "straen anferth ar ein holl wasanaethau cyhoeddus ni gan gynnwys y gwasanaeth iechyd".

    Mae Adam Price yn gofyn a yw hi wedi cyrraedd y pwynt y byddai llywodraeth Mr Drakeford yn ymyrryd yn y broses bosib o gau Adran Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

    Mae Mr Drakeford yn dweud ei bod hi'n bwysig nad yw gweinidogion yn "rhagfarnu" sefyllfa a allai gael ei herio yn gyfreithiol.

  5. Camau cywir yn cael eu cymryd ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae Adam Price hefyd yn gofyn a yw'r prif weinidog yn cytuno gyda'r feirniadaeth o ymateb llywodraeth y DU i'r coronafeirws.

    Mae Mr Drakeford yn ateb ei fod yn credu bod y camau cywir yn cael eu cymryd ar hyn o bryd.

  6. Dim peirianwaith defnyddiol a allai gael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i ddod o hyd i boblwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn gofyn pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adnabod pobl sydd wedi dychwelyd o'r Eidal.

    Mae Mr Drakeford yn dweudnad yw'n credu bod yna beirianwaith defnyddiol a allai gael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i ddod o hyd i bobl.

    Adam Price
  7. Dylai pobl barhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae Mark Drakeford yn dweud mai'r cyngor gorau presennol gan wyddonwyr a swyddogion meddygol yw y dylai pobl barhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus - ond bod yr afiechyd yn un allai ddatblygu'n gyflym ac y gallai'r cyngor newid.

    Mark Drakeford
  8. Sicrwydd ynghylch yr ymgyrch gwybodaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn tynnu sylw at y ffaith bod yna chwech achos o coronafeirws yng Nghymru hyd yma, ac yn gofyn am sicrwydd ynghylch yr ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus.

    Mae Mark Drakeford yn dweud bod cyfarfod Cobra wedi cytuno y dylai negeseuon fod ar draws y DU.

    Mae Paul Davies yn dweud mai ychydig o wybodaeth sydd yna am y rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus, gyda nifer uchel o bobl yn teithio mewn trenau gorlawn, ac yn gofyn ynghylch ymchwil ynglyn â lefel y bygythiad o'u defnyddio.

    Paul Davies
    coronafeirwsFfynhonnell y llun, Science Photo Library
  9. Michelle Brown ddim yn y siambr i ofyn ei chwestiwnwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru.

    Roedd y cwestiwn cyntaf a i fod gan yr Aelod Annibynnol Michelle Brown, sef pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella ymgysylltiad dinasyddion yng ngwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru?

    Er hynny, doedd y cyn AC UKIP ddim yn y siambr i ofyn ei chwestiwn.

  10. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, sy'n dechrau yn gynharach na'r arfer am 1.00pm.

    Mae'r sesiwn yn dechrau gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

    Y Senedd