鶹Լ

Crynodeb

  • Cyfarfod llawn yn dechrau am 1pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf ar Coronavirus (COVID-2019)

  • Dadl: Setliad yr Heddlu

  • Dadl: Maes Awyr Caerdydd

  • Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 21:48 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Senedd
  2. Pasio cyfnod olaf ond un y mesurwedi ei gyhoeddi 21:48 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 - yr un olaf ond un - o'r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

  3. Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoedduswedi ei gyhoeddi 19:48 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

    Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

  4. 'Newid diwylliant'wedi ei gyhoeddi 19:07 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Os y daw'r mesur yn ddeddf, bydd yn rhaid i fyrddau iechyd adrodd yn flynyddol ynglŷn â phroblemau a heriau maen nhw wedi'u hwynebu a nodi pa mor aml y cafodd y ddyletswydd newydd ei gweithredu a pham, ac esbonio'r camau gafodd eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

    Y nod yw sicrhau fod byrddau iechyd mor dryloyw â phosib ynglŷn â sefyllfaoedd lle aeth rhywbeth o'i le.

    Y gobaith yw newid diwylliant a chreu awyrgylch sy'n arwain at sefyllfa lle mae staff a chleifion yn gyfforddus i godi pryderon.

    Byddai'n golygu fod gwella ansawdd a safon gwasanaethau yn flaenoriaeth mewn unrhyw drafodaethau am ad-drefnu gwasanaethau ac nid ystyriaethau fel cyllid a staffio yn unig.

  5. Effeithiolrwydd Cynghorau Iechyd Cymunedolwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae Cynghorau Iechyd Cymunedol wedi bodoli ers 46 mlynedd - ond mae 'na gwestiynau wedi codi ynglŷn â'u heffeithiolrwydd.

    Saith o Gynghorau Iechyd Cymunedol sydd yna bellach, i lawr o 19.

    Ar hyn o bryd mae'r cynghorau yn ymweld â wardiau ysbyty ac yn gallu cyfeirio penderfyniadau mawr ar newidiadau yn y gwasanaeth at y gweinidog os oes yna anghytuno amdanynt.

    Bydd cynghorau iechyd cymunedol - sy'n siarad dros gleifion ar hyn o bryd - yn cael eu disodliFfynhonnell y llun, STURTI/GETTY IMAGES
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd cynghorau iechyd cymunedol - sy'n siarad dros gleifion ar hyn o bryd - yn cael eu disodli

  6. Llais y clafwedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Angela Burns a Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru, ill dau yn dweud bod ganddyn nhw bryderon difrifol ynghylch y cynllun i gael gwared ar gynghorau iechyd cymunedol a'r effaith ar lais y claf.

    Angela Burns
    Rhun ap Iorwerth
  7. Cryfhau llais dinasyddionwedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r Mesur hefyd yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:

     cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan greu cysylltiad cryfach rhwng pobl a'r sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iddynt;

     cryfhau'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG.

  8. Gosod dyletswydd gonestrwydd ar bob corff GIG ar lefel sefydliadolwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r Mesur yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:

     gosod ystyriaethau ansawdd wrth galon popeth y mae cyrff GIG yng Nghymru a Gweinidogion Cymru (mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd) yn ei wneud drwy ddyletswydd benodol, gan adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

     gosod dyletswydd gonestrwydd ar bob corff GIG ar lefel sefydliadol, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau'n mynd o'i le.

  9. Egwyddorion cyffredinolwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Ar Dachwedd 26 fe wnaeth ACau gytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

  10. Y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)wedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, dadl ar Gyfnod 3 y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Pasio cynnig ar Faes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd yn cael ei basio heb welliant.

    Roedd 39 o blaid, neb yn ymatal, a 12 yn erbyn.

  12. Pa mor dda y mae Maes Awyr Caerdydd yn perfformio'n ariannol?wedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Costau cyllidwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae David Rowlands o Blaid Brexit yn ceisio ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig;

    Yn edrych ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i wneud elw blynyddol o leiaf ar y lefel weithredu, h.y. cyn costau cyllid.

    Mae e hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod partner sector preifat i helpu i weithredu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a chymryd cyfran leiafrifol ynddo o fewn 5 mlynedd.

    David Rowlands
  14. Galw am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae Russell George ar ran y Ceidwadwyr yn ceisio dileu popeth yng nghynnig Llywodraeth Cymru a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r newyddion bod Flybe wedi galw'r gweinyddwyr ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith andwyol bosibl a gaiff hyn ar ddyfodol Maes Awyr Caerdydd.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd gyda'r nod o'i dychwelyd i'r sector masnachol ar y cyfle cyntaf ac ar elw i drethdalwyr Cymru, ac y dylai'r strategaeth gynnwys cynlluniau i:

    a) buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd;

    b) cefnogi'r broses o ddatblygu llwybrau, gan flaenoriaethu cyswllt hedfan uniongyrchol ag UDA ac un i Fanceinion o ystyried ei statws fel prif ganolfan yng ngogledd Lloegr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru;

    c) datblygu strategaeth farchnata newydd ar gyfer y maes awyr;

    d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli a dileu'r doll teithwyr awyr;

    e) gwella cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr er mwyn gwneud y maes awyr yn fwy hygyrch drwy fuddsoddi mewn cysylltiadau gwell o ran ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

    Russell George
  15. Maes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae’r aelodau nawr yn cael dadl ar Faes Awyr Caerdydd.

    Mae cynnig Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gyflwyno gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i Gymru.

    2. Yn croesawu’r ffaith bod Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd bellach yn gyfrifol am weithredu cyfleuster terfynfa Maes Awyr Ynys Môn ac yn cydnabod y cyswllt awyr rhanbarthol pwysig rhwng gogledd a de Cymru.

    3. Yn cydnabod bod dros 1700 o bobl yn cael eu cyflogi ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd a’r £250m o werth ychwanegol gros y mae’n ei gyfrannu at economi Cymru.

    4. Yn cytuno ei bod yn allweddol cefnogi Maes Awyr Caerdydd er budd economi fasnach Cymru ar ôl Brexit, a hynny fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, integredig ac o’r radd flaenaf yng Nghymru.

    5. Yn nodi dull Llywodraeth y DU o ymyrryd er mwyn achub cwmni Flybe ond yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd gam ymhellach er mwyn gwella cystadleurwydd, drwy gefnogi cost rheoleiddio ym meysydd awyr llai y DU, fel sy’n digwydd ar draws Ewrop.

    6. Yn galw ar Lywodraeth newydd y DU i gytuno o’r diwedd i ddatganoli’n llawn y Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

    Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
    Ken Skates
  16. Cymeradwyo Setliad Terfynol Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedduwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae ACau yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 ().

  17. Setliad yr Heddluwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Ymlaen nawr at ddadl gynta’r prynhawn. Mae’n ddadl ar

    £86.6 miliwn yw swm y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2020-21.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cofrestr o unigolionwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020.

    Mae’r gwelliannau yn “darparu bod yn rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o unigolion sy’n cael eu cyflogi neu eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau darparu gofal a chefnogaeth mewn cysylltiad â:

    i(i) Gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;

    ii(ii) Gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant;

    iii(iii) Gwasanaeth llety diogel,

    iv(iv) Gwasanaethau cymorth cartref; neu

    v(v) Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

    Ar hyn o bryd, mae gofyniad i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o unigolion mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, a gwasanaeth llety diogel. Caiff y gofyniad hwn ei estyn gan y Rheoliadau hyn i’w gwneud yn ofynnol cofrestru unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, yn ychwanegol at unigolion sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth”.

  19. Camymddwyn neu gamreoliwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020.

    Mae'r diwygiad yn Rhan 2 yn caniatáu i Weinidogion Cymru “ystyried tystiolaeth bod unrhyw berson syʼn gysylltiedig â pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig â pherson perthnasol wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig yng Nghymru neu wasanaeth cyfatebol y tu allan i Gymru, wrth asesu a yw person yn addas ac yn briodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu’n unigolyn rheoleiddiedig”.

    Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan

  20. Digon o orffwys, dŵr i'w yfed a meddyginiaeth ar gyfer poenwedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter