Gobeithion pobl ifanc o weithio ym maes dur ar ben?

Disgrifiad o'r llun, Bu Â鶹ԼÅÄ Cymru yn holi barn disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur am effaith colli swyddi Tata
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae enw eu hysgol yn adlewyrchu dylanwad gwaith dur Tata ym Mhort Talbot ar brofiadau rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

Mae'n rhan o hanes teulu Daniel, 17, a'i dad-cu wedi ail-hyfforddi fel athro ar ôl colli ei swydd yn y gwaith dur ddegawdau yn ôl.

Fe wnaeth y cwmni gadarnhau ddydd Gwener y byddai 2,800 o swyddi'n cael eu torri ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl i'r mwyafrif helaeth o'r rheiny fod ym Mhort Talbot.

Yn sgil pryder am gyfleoedd i bobl ifanc yn y dyfodol, fe alwodd cadeirydd Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar y to iau i "lynu gyda ni" wrth iddyn nhw ddatblygu gyrfaoedd eraill yn yr ardal.

Mae Rylee, 17, sy'n aelod o chweched Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, yn poeni y bydd rhai pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal.

"Yn lle cael rhywle yn lleol yn yr ardal gallan nhw fynd," meddai.

"Mae'n rhaid i bobl nawr, o fewn y meysydd mae Tata'n cyflogi - mae'n rhaid i nhw fynd rhywle arall, falle i Loegr, llefydd arall yng Nghymru.

"Mae'n cael effaith fawr ar eu dyfodol nhw."

Disgrifiad o'r llun, Mae Rylee a Daniel yn poeni y gallai torri swyddi arwain at fwy yn gadael yr ardal

Mae'r safle yn "eiconig" meddai Daniel, a gafodd ei fagu yn Llansawel - dafliad carreg o Bort Talbot.

Mae'r gymuned wedi wynebu sawl ergyd dros y blynyddoedd, a'r gweithlu wedi crebachu'n sylweddol ers i 20,000 weithio yno ar ei anterth.

Roedd sawl ewythr a diweddar dad-cu Daniel wedi gweithio yno.

"Mae nain dal yn cofio yr effaith huge wnaeth e gael ar y gymdeithas ar y pryd," meddai.

I'r rheiny oedd yn obeithiol am yrfa yn y diwydiant, mae'n credu y bydd yna nawr fwy o gystadleuaeth am swyddi tebyg.

Disgrifiad o'r llun, Mae Nia a Gwenan yn poeni am yr effaith ar y rheiny sydd eisiau mynd i faes STEM

Mae Gwenan, 17, yn dweud bod yna brinder cyfleoedd ar gyfer gwaith ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), ac yn poeni bydd pobl "ddim yn gallu mynd mewn i'r swyddi yna'n hawdd nawr".

Wrth gau dwy ffwrnais yn Tata, mae yna gynllun i adeiladu un newydd drydan i wneud dur mewn ffordd llai llygredig, ond gyda llai o weithwyr.

Mae Mali, 18, yn cytuno bod colli cymaint o swyddi yn glec sylweddol i'r ardal, ond mae'n gobeithio bydd yna gyfle am "fwy o swyddi gwyrdd".

"Fi'n credu bydd e'n gwella ein hamgylchedd yn yr hir dymor," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mali yn gobeithio bydd yna gyfle am "fwy o swyddi gwyrdd"

Ond yn y tymor byr mae Rob Stewart, cadeirydd Dinas-rhanbarth Bae Abertawe ac arweinydd Cyngor Abertawe, yn ei gweld hi'n gyfnod anodd iawn.

Dywedodd bod y newyddion gan Tata yn ergyd drom iawn ac yn tanseilio'r gwaith sydd yn cael ei wneud i ddatblygu'r economi, a'r diwydiant dur yn gonglfaen i'r rheiny.

Pwysleisiodd bod cyfraniad pobl ifanc talentog yr ardal yn bwysig wrth ddatblygu sectorau eraill fel diwydiannau creadigol, digidol a gwyddorau bywyd.

"Wrth i'r cyfleoedd hynny ddod, sticiwch gyda ni, edrychwch ar y gyrfaoedd y gallech chi o bosib eu cael yn yr ardal a byddwn ni'n eich cefnogi i ddilyn y gyrfaoedd hynny yn y rhanbarth hwn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, "Mae yna lot o newidiadau ar y gweill o ran sgiliau gwyrdd," meddai Geraint Jones

Yng ngholegau'r ardal mae prentisiaethau'n cael eu cynnig yn Tata, a nifer o fyfyrwyr yn anelu at gael swydd yno.

Yn ôl Geraint Jones, pennaeth cynorthwyol grŵp colegau NPTC, mae angen i lywodraeth a'r sector addysg a hyfforddiant sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o gyfleoedd eraill.

"Mae yna lot o newidiadau ar y gweill o ran sgiliau gwyrdd," meddai.

"Mae buddsoddiad yn mynd mewn i'r freeport yn yr ardal yma, buddsoddiad yn mynd mewn i ddatblygu ynni gwynt… so gobeithio ni'n gallu helpu'r bobl ifanc i 'neud yn siŵr bod y sgilie 'da nhw i helpu yn y swyddi 'na yn y dyfodol."