Â鶹ԼÅÄ

'Ai ym Mhort Talbot chi eisiau magu'ch plant bellach?'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymateb un o weithwyr Tata, Shaun Spencer, i'r newidiadau mawr sydd ar y gweill ym Mhort Talbot

"Ni'n poeni, yn enwedig gyda morgais a dau o blant bach - yr ansicrwydd."

Ymateb Emma Parfitt, 33, o glywed y gallai miloedd o weithwyr dur Port Talbot golli eu swyddi, a'i phartner yn un ohonyn nhw.

Er i nifer ddisgwyl newyddion drwg, mae'r dref wedi cael ergyd drom.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ ar ddeall fod cwmni dur Tata yn bwriadu bwrw 'mlaen gyda chynllun i gau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, allai arwain at golli hyd at 3,000 o swyddi.

Daw'r penderfyniad yn dilyn cyfarfod rhwng Tata ac undebau Community, GMB ac Unite ddydd Iau, ac mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol gan Tata ddydd Gwener.

'Pawb â'u stori'

Mae ôl y gwaith dur yn gwbl amlwg wrth droi cornel pob stryd ym Mhort Talbot.

Yn llythrennol, mae mawredd y ffatrïoedd a'r ffwrneisi i'w gweld o bob cyfeiriad.

Ond yn fwy na hynny, dyma fywoliaeth cymaint o deuluoedd yr ardal ers degawdau.

Ffynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o’r llun,

Mae ôl y gwaith dur yn gwbl amlwg wrth droi cornel pob stryd ym Mhort Talbot

Ar ddiwedd ei shifft ddydd Iau, fe ddywedodd Shaun Spencer, 39, ei bod wedi bod yn brynhawn emosiynol yn y gwaith.

"Pan o'dd y newyddion yn torri, o' ti'n gallu gweld agwedd pawb yn newid," meddai.

"Y ddwy awr ddiwetha', mae wedi bod yn drist iawn.

"Pobl hen, sy'n disgwyl am voluntary redundancy, pobl ifanc sy'n meddwl be' ma' nhw'n mynd i 'neud, pobl fel fi - middle of the road.

"Ma' pawb â'u stori."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Parfitt a Rhian Cole yn poeni am effaith y newyddion ar ddyfodol y dref

Mae Emma Parfitt, 33 oed a mam i ddau o blant, yn dweud fod yr ansicrwydd yn "bryder enfawr" gan fod ei phartner yn gweithio yno.

"'Dwi ar gyfnod mamolaeth, felly mae'n codi cwestiynau am orfod mynd 'nôl i'r gwaith yn gynnar, rhan amser. Dwi ddim yn gwybod," meddai.

"Mae hefyd yn 'neud i chi feddwl ai ym Mhort Talbot chi eisiau magu'ch plant?

"Ond pan mai dyma lle chi wedi cael eich magu eich hunan, eich ffrindiau i gyd yma, mae'n ddewis anodd."

'Enfawr i'r ardal'

Mae ei ffrind, Rhian Cole, 33, hefyd o'r ardal ac â theulu'n gweithio yn y gweithfeydd dur.

"Mae'n partneriaid ni i gyd yn ffrindiau, a'r rhan fwyaf o'n nhw'n gweithio yn Tata Steel," meddai.

"Mae'n hollol devastating."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Casey Jones (dde) yn teimlo bod angen edrych ar ddyfodol mwy gwyrdd i Bort Talbot

Yn lle'r ffwrneisi chwyth presennol, bwriad Tata yw gosod ffwrnais drydan fodern.

Maen nhw'n creu llai o lygredd, ond fe fydd yn golygu bod angen llai o weithlu ym Mhort Talbot.

Mae un fam ifanc o Bort Talbot, Casey Jones, 24, yn teimlo bod angen edrych ar ddyfodol mwy gwyrdd i Bort Talbot.

"Yn amlwg mae'n ofnadwy y gallai llawer golli swyddi, ond dwi'n meddwl am fy mab, a meddwl ydw i eisiau ei fagu yn rhywle lle mae'r llygredd mor wael," meddai.

"Ond mae hyn yn enfawr i'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Jones yn poeni y bydd diswyddiadau yn cael effaith ar fusnesau eraill y dref hefyd

Mewn siop goffi yn y dref, dywedodd Richard Jones ei fod yn poeni fod pobl ifanc yr ardal yn colli cyfleoedd.

"Mae 'na bobl sy' 'di gweithio 'na ers blynyddoedd, ond y bobl ifanc hefyd - dyna beth sy'n becso pobl," dywedodd.

"Ond oedd pobl eisiau gwybod beth sy'n digwydd. Mae angen cynllunio ar gyfer y future."

Dywedodd hefyd fod nifer yn poeni am yr effaith ar fusnesau, gyda llai o weithwyr yn galw heibio os oes rhaid chwilio am waith tu allan i'r dref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Margaret Jones fod colli cymaint o swyddi yn lleol yn "dorcalonnus"

Ychwanegodd un o drigolion Port Talbot, Margaret Jones, ar raglen Post Prynhawn fod y newyddion diweddaraf "wedi bod yn gymaint o sioc".

"O'n ni gyd yn meddwl efallai bydde rhywbeth yn gallu cael ei wneud, ond bellach... dim byd," meddai.

"Rydw i wedi siarad â dau o bobl heddiw sy'n colli'u swyddi yno - dy'n nhw ddim yn gwybod beth maen nhw'n mynd i'w wneud - shwd maen nhw'n mynd i aros yn y dre'.

"Maen nhw'n bobl sy'n cefnogi popeth yn y dre' 'ma ac yn rhan o'r gymuned. Mae'n dorcalonnus.

"Fi'n cynrychioli'r banc bwyd yma ym Mhort Talbot. Ry'n ni eisoes wedi dyblu y bobl ni'n helpu. Fi ddim yn gwybod shwd y'n ni'n mynd i barhau i fod yn hollol onest."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Jason Beynon fod y gwaith dur yn "gyflogwr enfawr - nid dim ond i Bort Talbot ond yn ehangach"

Tu hwnt i Bort Talbot, mae 'na gymunedau ledled de Cymru sydd â chysylltiadau â'r gwaith dur.

Dywedodd y Gweinidog Jason Beynon o Bontarddulais: "Mae'n gyflogwr enfawr - nid dim ond i Bort Talbot ond yn ehangach.

"Mor bell â Cross Hands fydden i'n dweud - i'r Bont, yr Hendy, Pontlliw.

"Dwi wedi gweithio gyda theuluoedd a phobl ifanc sydd angen gwaith.

"Mae tynnu cyflogwr enfawr arall allan o'n hardal yn mynd i adael teuluoedd mewn sefyllfa anodd iawn, ar adeg pan fo cymaint yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd."

Pynciau cysylltiedig