Â鶹ԼÅÄ

Tata Port Talbot: Be' nesaf gyda 2,800 o swyddi i'w colli?

  • Cyhoeddwyd
Tata Steel Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dweud bod "gweithwyr wedi eu bradychu" gan gyhoeddiad Tata Steel y bydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli fel rhan o'u symudiad tuag at gynhyrchu dur gwyrddach.

Dywedodd Doug Parr, cyfarwyddwr polisi Greenpeace, ei fod yn "gyfle wedi'i golli" i ddefnyddio rhai o'r gweithlu yn y ffatri ym Mhort Talbot mewn peilot i archwilio'r potensial o gynhyrchu dur gan ddefnyddio hydrogen.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud nad yw cynhyrchu dur drwy ddefnyddio hydrogen yn "fasnachol hyfyw" ar hyn o bryd.

Dywedodd TV Narendran, rheolwr-gyfarwyddwr Tata Steel, nad oedd yn diystyru buddsoddiad pellach mewn cynhyrchu dur gan un ai ddefnyddio nwy naturiol neu hydrogen ym Mhort Talbot yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd TV Narendran y gellir ystyried defnyddio nwy naturiol neu hydrogen ym Mhort Talbot yn y dyfodol

"Pe bai nwy [naturiol] ar gael yma fe allen ni fod wedi ystyried hynny hyd yn oed nawr," meddai.

"Mae hydrogen hyd yn oed ymhellach i ffwrdd. Nid yw wedi ei dynnu oddi ar y bwrdd - rwy'n meddwl mai dim ond y cam cyntaf yw hwn."

Lleihau allyriadau carbon

Mae'r swyddi'n diflannu gan fod Tata yn cau'r ddwy ffwrnais chwyth ar eu safle ym Mhort Talbot ac yn adeiladu "busnes dur gwyrdd mwy cynaliadwy" gan ddefnyddio ffwrnais arc drydanol.

Mae ffwrneisi chwyth yn cynhyrchu dur newydd o fwyn haearn - fel arfer trwy losgi glo sy'n cynhyrchu llawer o garbon deuocsid, sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does unman trwy'r DU yn gyfrifol am fwy o allyriadau na gwaith dur Port Talbot

Dywedodd Tata y byddai cael gwared â'r ffwrneisi chwyth yn lleihau "allyriadau cyffredinol gwledydd y DU o tua 1.5%".

Ond dywedodd Dr Doug Parr: "Nid y trawsnewidiad yn unig yr ydym am ei weld.

"Dylai gweithwyr mewn diwydiannau carbon-ddwys gael cymorth a'u cefnogi i mewn i fathau eraill o gyflogaeth."

Er bod 8,000 o bobl yn gweithio i Tata ar draws y DU, y ffatri ym Mhort Talbot yw gwaith dur mwyaf y DU, gan gyflogi tua 4,000 o weithwyr.

Dywed undebau eu bod yn disgwyl y bydd y mwyafrif llethol o'r 2,800 o swyddi yn cael eu colli ym Mhort Talbot, ond nid yw Tata wedi cadarnhau hynny.

'Arloesi technoleg werdd'

Mae Tata Steel yn bwriadu adeiladu ffwrnais arc drydanol, sy'n cynhyrchu dur wedi'i ailgylchu o sgrap gan ddefnyddio trydan, erbyn 2027.

Mae systemau trydanol yn fwy awtomatig, ac mae angen gweithlu llawer llai arnynt.

Ond ar hyn o bryd mae rhai cynhyrchion, fel dur ar gyfer cyrff ceir a mathau o ddeunydd pacio, na allant eu gwneud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata eisiau symud i ffwrdd o ddefnyddio ffwrneisi chwyth ar gyfer cynhyrchu dur

Dywedodd Dr Parr fod Llywodraeth y DU yn colli'r cyfle i arloesi technoleg eco-gyfeillgar "ac ateb y cwestiwn strategol a ydyn ni am barhau i fod yn gynhyrchydd dur".

"O amgylch Ewrop mae yna 40 o weithfeydd yn cael eu sefydlu sy'n defnyddio'r dechnoleg yma," meddai.

Nid oes unrhyw seilwaith ar waith ar hyn o bryd i gyflenwi hydrogen neu nwy naturiol i waith Port Talbot.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod Llywodraeth y DU wedi rhoi £500m i Tata adeiladu'r ffwrnais arc drydanol er mwyn sicrhau dyfodol safle Port Talbot a'r rhan fwyaf o'r gweithlu o 8,000 o amgylch y DU.

Dywedodd Mr Davies nad yw dur sy'n cael ei gynhyrchu gyda hydrogen "yn fasnachol hyfyw".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David TC Davies fod Llywodraeth y DU wedi rhoi £500m i Tata er mwyn sicrhau dyfodol safle Port Talbot

"Mae'n 25% yn ddrytach na'r dur a gynhyrchir o ffwrnais chwyth," meddai.

"Ni allwn gynhyrchu dur yn y modd hwnnw mewn unrhyw beth tebyg i'r meintiau y byddai eu hangen i wneud hynny'n hyfyw."

Dywedodd Tata Steel UK eu bod yn bwriadu "gwrthdroi dros ddegawd o golledion" yn ogystal â lleihau allyriadau carbon a "chynnal hunangynhaliaeth y wlad o ran cynhyrchu dur".

Mae undebau wedi condemnio'r penderfyniad i dorri swyddi ac wedi annog Tata i ailystyried cynigion amgen.