Â鶹ԼÅÄ

Ni fydd pleidlais i ddiarddel AS sydd wedi'i wahardd

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth panel annibynnol argymell atal Mr Roberts o'r senedd am gyfnod o chwe wythnos

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi cael gwybod nad yw gweinidogion y DU yn bwriadu cynnal pleidlais ynghylch diarddel Rob Roberts o DÅ·'r Cyffredin.

Bydd Mr Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, yn dychwelyd i'r senedd yn San Steffan ymhen pythefnos wedi iddo gael ei wahardd am chwe wythnos am aflonyddu'n rhywiol aelod o'i staff.

Mae galwadau wedi bod ar y Ceidwadwyr i weithredu i ddiardddel y gwleidydd o DÅ·'r Cyffredin.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n cael ar ddeall nad yw llywodraeth y DU am "danseilio" penderfyniad y panel a'i cafodd yn euog o'r drosedd.

Gallai'r Panel Arbenigol Annibynnol - a wnaeth argymell atal Mr Roberts am chwe wythnos - fod wedi argymell ei ddiarddel yn llwyr.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae ASau sy'n cael eu hatal o'r senedd am fwy na 10 diwrnod wedi wynebu deiseb adalw, allai wedyn arwain at isetholiad.

Ni ddigwyddodd hynny yn achos Mr Roberts gan mai nid pwyllgor seneddol a wnaeth yr argymhellion.

Er hynny mae gwleidyddion Ceidwadol a Llafur wedi dweud bod angen cau'r "bwlch" yma yn y rheolau.

Er nad yw llywodraeth y DU am gyflwyno cynnig i ddiarddel AS o'r senedd, deellir eu bod yn chwilio am ffordd o newid y rheolau heb orfod creu deddfwriaeth newydd.

Ond cafodd Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd wybod y gallai cynnig i ddiarddel yr AS gael ei wneud gan y gwrthbleidiau yn San Steffan.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Roberts ei ethol yn AS Delyn yn 2019

Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Boris Johnson ei fod e'n cytuno fod ymddygiad Mr Roberts yn "annerbyniol" ond doedd ddim yn fodlon dweud a oedd yn cytuno gyda rhai gweinidogion y dylai Mr Roberts ymddiswyddo.

Mae Rob Roberts wedi colli 'chwip' y Blaid Geidwadol, sy'n golygu y bydd yn y senedd fel AS annibynnol.

Mae Mr Roberts fodd bynnag yn dal yn aelod o'r blaid Geidwadol, ond mae ei aelodaeth "yn cael ei adolygu".