Cynnydd sylweddol yn nifer y diwaith yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU yng nghyfradd y bobl ddi-waith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae cyfradd diweithdra Cymru wedi codi i 4.6% ar gyfer y cyfnod o Ionawr i Fawrth eleni.

Mae hynny'n 1.1% o gynnydd o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, ac 1.6% o gynnydd ar yr un cyfnod y llynedd.

Dim ond Gorllewin Canolbarth Lloegr (5.1%) a Llundain (4.7%) sydd â chyfraddau diweithdra uwch na Chymru bellach.

Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi gostwng hefyd - i 71.5%.

Cymru hefyd sydd â'r ail gyfradd uchaf o ran y nifer sy'n anweithredol yn economaidd.

Mae hynny'n cynnwys pobl sydd o fewn oedran gweithio, ond sydd ddim yn chwilio am waith - yn bennaf myfyrwyr a phobl sydd â salwch neu anabledd.