Â鶹ԼÅÄ

Diweithdra'n parhau'n isel er gwaethaf sefyllfa'r economi

  • Cyhoeddwyd
gwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae lefel diweithdra yn parhau'n isel yng Nghymru er gwaetha'r ffaith fod dirwasgiad ar y gweill a'r costau o redeg busnesau'n cynyddu.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu cynnydd bychan yn nifer y bobl sydd mewn gwaith, a chynnydd bychan yn nifer y di-waith.

Gall hynny ddigwydd pan fo mwy o bobl yn gwneud eu hunain "ar gael i weithio".

Yn y tri mis hyd at Hydref roedd cyfradd y bobl mewn gwaith yng Nghymru yn 72.2%.

Mae hynny 0.2% yn uwch na'r chwarter blaenorol, ond 1.7% yn is na'r un adeg y llynedd.

O'i gymharu â rhannau eraill o'r DU, Cymru welodd y gostyngiad mwyaf yn y gyfradd oedd mewn gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y gyfradd diweithdra yng Nghymru ar gyfer y tri mis at Hydref oedd 3.6%.

Mae hynny 0.4% yn uwch na'r chwarter blaenorol, ond 0.1% yn is na'r adeg yma yn 2021.

Mae nifer y bobl sy'n "anweithredol yn economaidd" wedi cynyddu i 25.1% yng Nghymru bellach - cynnydd o 1.8% o'i gymharu â'r un adeg y llynedd.

Pynciau cysylltiedig