Â鶹ԼÅÄ

Diweithdra ar ei lefel isaf yng Nghymru ers 1974

  • Cyhoeddwyd
gwaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae lefel diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers 1974, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd 50,000 o bobl (3.3%) yn ddiwaith rhwng Mehefin ac Awst, sydd 8,000 yn is nag yn y tri mis blaenorol, a 13,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Mae'r raddfa diweithdra o 3.3% yng Nghymru yn cymharu â 3.5% dros weddill y DU.

Ond mae nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru hefyd wedi gostwng.

Cyflogau gweithwyr

Rhwng Mehefin ac Awst roedd 25,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â'r tri mis blaenorol, a 45,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Y rheswm am hyn yw bod yna fwy o bobl sydd un ai ddim ar gael i weithio neu ddim yn gallu gweithio.

Yn ôl ffigyrau'r ONS mae yna wahaniaeth pendant rhwng cyflogau yn y sector cyhoeddus o'i gymharu â'r sector preifat.

Mae cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi codi 2.2% o'i gymharu â 6.2% yn y sector preifat.

Pynciau cysylltiedig