Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau yn arwyddo cytundeb

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd nifer o chwaraewyr Cymru yn wynebu cyfnod o ansicrwydd dros gytundebau

Mae Undeb Rygbi Cymru a phedwar tîm proffesiynol wedi arwyddo cytundeb chwe blynedd newydd.

Bydd y cytundeb rhwng y corff llywodraethu, Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets yn rhedeg tan 2029.

Dywedodd datganiad fod y Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) "yn rhoi rhagweladwyedd ariannol".

Bydd capiau cyflog yn cael eu gweithredu o ddechrau tymor 2023-24 gyda cytundebau "sefydlog" a "sefydlog ac amrywiol" ar gael i chwaraewyr.

Dywed y datganiad: "Mae'r PRA newydd yn darparu fframwaith ariannol sy'n cynnwys cyllid newydd gan URC a chyfranddalwyr clybiau i greu llwyfan cynaliadwy ar gyfer cynnydd.

"Mae'n darparu rhagweladwyedd ariannol ar gyfer y gêm broffesiynol yng Nghymru ac mae holl aelodau'r PRB yn ei groesawu.

"Bydd datblygu chwaraewyr o Gymru yn amcan allweddol i bawb wrth i'r PRA newydd gael ei gynllunio i hyrwyddo llwyddiant ar gyfer gêm y clybiau proffesiynol a thîm rhyngwladol Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gorffennodd Cymru yn bumed yn y Chwe Gwlad eleni o dan arweinyddiaeth Warren Gatland

Mae'r cytundeb yn cynnwys y mesurau canlynol:

  • System ganolog i graffu ar wariant a benthyg chwaraewyr o un tîm i'r llall;
  • Cyfarwyddwr Perfformiad URC a'r rhanbarthau yn cytuno ar "gytundebau ar gyfer chwaraewyr o ddiddordeb cenedlaethol";
  • Cefnogi'r academïau gydag ymrwymiad i "isafswm o wariant";
  • Archwiliadau rheolaidd o "wariant, cytundebau, cynlluniau busnes a pherfformiad academi";
  • Mae'r Scarlets, y Gweilch, Caerdydd a'r Dreigiau "wedi ymrwymo i ganoli agweddau o'u gweithrediadau masnachol, gyda gwaith eisoes ar y gweill yn y maes hwn".

Cyn i'r cytundeb gael ei gytuno a'i gyhoeddi, cytunodd Undeb Rygbi Cymru a'r chwaraewyr blaenllaw i addasiad sylweddol i'r rheolau ynghylch cymhwysedd i chwarae dros Gymru.

Cyn hynny, os oedd chwaraewr am chwarae i Gymru tra nad oedd wedi'i leoli yno, roedd yn rhaid iddo fod wedi ennill 60 cap - mae hynny bellach yn 25 ymddangosiad prawf.