Â鶹ԼÅÄ

Clybiau'n pleidleisio o blaid newidiadau i fwrdd rheoli URC

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cadeirydd URC: 'Nawr mae'r gwaith caled yn dechrau'

Mae newidiadau mawr i'r ffordd y bydd Undeb Rygbi Cymru'n cael ei reoli wedi eu cymeradwyo mewn cyfarfod arbennig ddydd Sul.

Roedd cynrychiolwyr o glybiau o bob cwr o Gymru yn pleidleisio ar y cynnig - ac fe wnaeth y mwyafrif helaeth bleidleisio o blaid y newidiadau.

Cafodd y cyfarfod cyffredinol eithriadol ym Mhort Talbot ei gynnal yn dilyn ymchwiliad gan Â鶹ԼÅÄ Cymru wnaeth ddatgelu honiadau o ddiwylliant gwenwynig a chasineb tuag at ferched o fewn yr undeb.

Fe ddywedodd Nigel Walker, prif weithredwr dros dro URC fod "angen moderneiddio" a'i bod yn "rhyddhad" fod mwyafrif y clybiau wedi pleidleisio o blaid hynny.

Mae'r newidiadau'n golygu y bydd o leiaf pump allan o 12 aelod y bwrdd rheoli yn fenywod, gan gynnwys naill ai'r cadeirydd neu'r prif weithredwr.

Fe fydd nifer yr aelodau annibynnol yn dyblu o dri i chwech - yn ogystal â chadeirydd annibynnol - a nifer yr aelodau sy'n cael eu hethol gan y clybiau yn gostwng o wyth i bedwar.

Fe bleidleisiodd 97.2% - sef 245 o glybiau - o blaid y newidiadau, gyda 7 yn erbyn a 30 heb gofrestru.

'Newidiadau erbyn diwedd y flwyddyn'

Dywedodd Nigel Walker mai "nawr mae'r gwaith caled yn dechrau".

Fe ddywedodd Mr Walker a chadeirydd URC, Ieuan Evans, mai'r nod yw sicrhau amrywiaeth ehangach o ran sgiliau busnes, meddylfryd, rhywedd a chynrychiolaeth ddiwylliannol ar y bwrdd rheoli.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y cyfarfod ei gynnal ym Mhort Talbot ddydd Sul

Dywedodd y ddau eu bod yn ffyddiog y bydd modd denu'r bobl gywir i ymuno â'r bwrdd rheoli newydd.

Mae'r undeb yn dweud y bydd na gyfnod trosglwyddo wrth i aelodau newydd y bwrdd rheoli gael eu penodi.

Dywedodd Nigel Walker ei fod yn "hyderus" bydd y newidiadau yn eu lle erbyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-farnwr Uchel Lys, Anne Rafferty sydd yn cadeirio tasglu yn edrych ar ddiwylliant o fewn URC

Fe gafodd tasglu annibynnol ei sefydlu dan gadeiryddiaeth y cyn-farnwr Uchel Lys, y Fonesig Anne Rafferty, i asesu'r diwylliant o fewn URC ddechrau Chwefror.

Mae'r ymchwiliad hwnnw'n parhau.

'Cam cyntaf pwysig'

Dywedodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Diwylliant a Chwaraeon y Senedd, Delyth Jewell, fod y bleidlais yn "gam ymlaen" gan fod clybiau a'r Undeb yn "cydnabod fod angen newid".

"Cam cyntaf pwysig o'dd heddi," dywedodd.

"Mae tîm Anne Rafferty yn cynnal adolygiad arbennig mewn i'r cyhuddiadau yma, mae hyn nawr yn dangos bod momentwm tu ôl i'r broses yna, yn dangos bod y clybiau yn cydnabod bod problem.

"Fi'n meddwl ar gyfer y menywod oedd wedi bod mor ddewr yn siarad am eu profiadau - ddylsen nhw byth wedi gorfod gwneud hwnna yn gyfforddus wrth gwrs.

"Ond nawr bod y menywod yna wedi bod mor ddewr, o'dd hyn yn signal pwysig iddyn nhw i weld bod y clybiau yn credu'r hyn maen nhw'n dweud."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, Tom Giffard, ei fod "wrth ei fodd" â'r canlyniad.

"Mae'r newidiadau trawsnewidiol hyn, a fydd yn cael eu rhoi ar waith nawr, yn gam hynod gadarnhaol a gobeithio y bydd yn dod â chysur mawr i fenywod ledled Cymru gan ddangos bod URC wedi gwrando.

"Mae angen i URC nawr fwrw ymlaen â'r gwaith o wasanaethu anghenion gêm ein cenedl a sicrhau nad oes neb byth yn teimlo'n anniogel nac yn cael ei glywed byth eto."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth rhaglen Wales Investigates ddatgelu honiadau am ddiwylliant gwenwynig o fewn URC

Roedd yna awgrym y gallai rhai o noddwyr yr undeb dynnu eu cefnogaeth yn ôl pe na fyddai'r clybiau wedi cefnogi'r newidiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran un o brif noddwyr URC, cwmni Admiral eu bod "yn falch gyda chanlyniad y bleidlais."

"Rydym yn gweld hyn fel arwydd amlwg o barodrwydd a gallu URC i newid i fod yn sefydliad modern, yn fwy unol â'n gwerthoedd a'n diwylliant.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y newidiadau yn cael eu cyflwyno."

Pynciau cysylltiedig