Â鶹ԼÅÄ

Ble nesa' i dîm rygbi Cymru?

  • Cyhoeddwyd
gatlandFfynhonnell y llun, Getty Images

Doedd dychweliad Warren Gatland i hyfforddi Cymru ddim y stori tylwyth teg roedd llawer yn ei obeithio amdano, gyda'r tîm yn gorffen yn bumed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023.

Colli pedair ac ennill un oedd hanes y Cymry, gyda'r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.

Mae Nicky Robinson yn gyn-chwaraewr rhyngwladol ac yn wyneb cyfarwydd fel sylwebydd ar Y Clwb Rygbi ar S4C, ac yma mae'n rhannu ei farn ar sefyllfa bresennol rygbi Cymru.

"Roedd y gêm yn erbyn Ffrainc yn well na be' o'n i'n ei ddisgwyl. O'n i'n gobeithio bydde Cymru wedi gallu rhoi perfformiad mewn, a gyda'r tîm y dewisodd Warren Gatland roedd lot o aeddfedrwydd a phrofiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Nicky Robinson 13 o gapiau dros Gymru rhwng 2003 a 2009

Yr ymosod yn gwella

"O'n i yn poeni 'chydig ar ôl gweld Ffrainc yn dinistrio Lloegr o 50 pwynt - os bydde Ffrainc yn chwarae yr un fath yn erbyn ni, adref, beth fyddai'r sgôr 'di gallu bod... Ond mae'n anodd ar ôl perfformiad bron perffaith yr wythnos cynt (yn erbyn Lloegr yn Twickenham) i berfformio cystal gyda'r un dwyster y penwythnos ganlynol.

"Y disgwyl oedd bod Ffrainc yn ennill yn hawdd, ond o'n i'n hapus gyda'r ffordd y cychwynodd Cymru - sgorio'n gynnar ac yn edrych i drio chwarae hefyd, gan gicio i'r corneli a trio sgorio ceisiau. Dwi'n meddwl hwnna oedd y perfformiad gorau gan Gymru tra'n ymosod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Rio Dyer yn sgorio yn erbyn Ffrainc gyda symudiad ola'r gêm

Profiad oedd un o'r pethau amlycaf yn y tîm a ddewiswyd ar gyfer Paris, ond mae Nicky Robinson yn credu bod cydbwysedd rhwng y profiadol a'r ifanc wedi bod yn rhywbeth bwriadol gan Gatland.

"Un peth mae'r bois ifanc wedi cael yw profiad o chwarae gemau mawr. 'Nath Mason Grady ddechrau am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr, yn chwarae wrth ochr Joe Hawkins yn y canol - 'nath Hawkins ddechrau pedair o'r pum gêm. Felly maen nhw wedi cael profiadau, nid dim ond dod off y fainc am 'chydig funudau.

"Dwi'n credu fod Warren Gatland yn poeni 'chydig am sut bydde'r bois ifanc yn ymdopi gyda beth fydde Ffrainc yn taflu atyn nhw - Gaël Fickou yn y canol, Ntamack y maswr ac wrth gwrs Antoine Dupont. Felly, roedd Gatland yn hanner amddiffyn nhw (y chwaraewyr ifanc) ac hanner eisiau rhoi cyfle i Tompkins a North ddefnyddio eu profiad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mewnwr Ffrainc a chwaraewr sy'n cael ei gydnabod fel un o'r goreuon yn y byd, Antoine Dupont

Beth yw'r prif ddiffygion?

Beth yn union oedd wrth wraidd methiannau Cymru eleni? Diffyg ffitrwydd? Diffyg sgiliau elfennol? Dim y gallu i reoli gemau?

"Mae'n gymysgedd o bethe," meddai Nicky. "Mae'r mwyafrif o dimau tua'r un lefel ffitrwydd, ond mae Warren wedi sôn fod e ddim yn hapus gyda lefel ffitrwydd carfan presennol Cymru, ac mae angen gweithio'n galed ar hynny cyn Cwpan y Byd. Fel arfer mae timau Warren Gatland ymysg y rhai mwyaf ffit, ond dydyn nhw ddim ar y foment.

"Mae mwyafrif y chwaraewyr tua'r un safon. Yn amlwg mae cwpl o chwaraewyr sydd bach yn well, ond mae nhw i gyd yn gallu gwneud tua'r un pethau. Be' sy'n allweddol yw pa dimau sy'n gallu gwneud y pethau gorau yn gyson?

"Os edrychwch chi ar Yr Eidal, maen nhw'n gallu gwneud pethau da a symudiadau neis, ond falle dydy'r pas olaf ddim yn mynd i'r dwylo.

"I gymharu gyda Ffrainc a'u cais cyntaf nhw yn erbyn Cymru - bylchiad gan Ntamack, dadlwytho i Dupont, a pas hyfryd i Ramos i orffen. Maen nhw'n creu gan bod ganddyn nhw'r chwaraewyr creadigol, ond hefyd yn gallu gorffen symudiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Taulupe Faletau yn croesi am gais yn unig fuddugoliaeth Cymru o'r ymgyrch, yn erbyn Yr Eidal ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth

"Mae Cymru wedi bod yn creu digon, ond heb allu gorffen yn effeithiol. Dyna'r llinell yn aml rhwng mynd mewn i hanner amser ar y blaen neu ar ei hôl hi."

Rhesymau i fod yn bositif

Er ei bod wedi bod yn bencampwriaeth anodd i Gymru, mae Nicky'n credu bod ambell reswm dros bositifrwydd:

"Yr un amlwg yw Joe Hawkins. Yn ymosodol mae e wedi bod yn arbennig o dda. Mae gwaith 'da fe i wneud yn amddiffynnol i fod yn chwaraewr rhyngwladol da, ond mae'r potensial gyda fe a dwi'n credu gwelwn ni lot ohono fe yng nghrys Cymru yn y dyfodol.

"Ry'n ni wedi gweld Rio Dyer wedi dod drwyddo hefyd. Mae Cymru wedi bod yn lwcus gyda safon ein asgellwyr dros y ddegawd d'wetha felly mae'n dda gweld e'n datblygu; mae'n gweithio'n galed ac yn gallu sgorio ceisiau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joe Hawkins; canolwr ifanc y Gweilch sydd wedi creu argraff yn ei dymor cynta â'r garfan genedlaethol

"Er ddim yn chwaraewr ifanc, mae Rhys Webb wedi creu argraff hefyd. 'Nath e chwarae'n dda yn erbyn Yr Alban ac fe oedd seren y gêm mas yn Yr Eidal. Doedd e heb chwarae dros Gymru am rhyw bedair blynedd ond fe ddangosodd e bod y gallu ganddo fe. Rwy'n meddwl y gwnaeth Owen Williams yn dda hefyd yn absenoldeb Anscombe.

"Mae Bradley Roberts wedi dod yn ei flaen 'fyd. Sgoriodd e ar y penwythnos yn erbyn Ffrainc ac ma'n bwysig datblygu dyfnder yn y safle 'na gyda Ken Owens a Dewi Lake, sydd wedi ei anafu. 'Nath Dafydd Jenkins yn dda pan ddaeth oddi ar y fainc, ond bydd rhaid fe ddysgu ei grefft bach mwy a gwella ei ddisgyblaeth dan bwysau.

"Yn y rheng-ôl mae dipyn o ddyfnder gennyn ni gyda Tommy Reffell, Jac Morgan a Christ Tshiunza i gyd yn datblygu. Ond mae'n anodd i'r chwaraewyr ddatblygu wrth fynd fewn i dîm sydd yn colli - mae gymaint haws pan fo chi'n ymuno gyda garfan sy'n ennill gemau a pawb llawn hyder."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Iwerddon yn dathlu ennill y Gamp Lawn gan guro Lloegr yn y rownd olaf yn Stadwim Aviva

Gyda Cwpan y Byd 2023 yn dechrau yn Ffrainc ar 8 Medi mae llai na chwe mis i Warren Gatland geisio newid pethau.

"Rwy'n siŵr bod e'n gwybod pwy fydd e'n dewis yn rhan fwyaf o'r safleoedd. Ond does dim lot o gemau yn weddill o'r tymor; rhyw dair gêm yn y gynghrair a gemau Ewrop, ac yna mae rhaid pigo'r garfan."

'Y dyfodol ddim yn edrych rhy ddisglair'

Gyda'r tîm dan 20 yn cael y llwy bren a cholli pob gêm, y tîm cyntaf yn ailadeiladu, a'r rhanbarthau yn hanner gwaelod tabl yr URC, beth yw'r darlun cenedlaethol?

"Yn anffodus dydy'r dyfodol ddim yn edrych yn rhy ddisglair ar y funud," meddai Nicky. "Doedd y tîm dan 20 ddim yn gystadleuol yn erbyn Ffrainc, ond wedi dweud hynny dim ond colli'n agos yn erbyn Yr Eidal a'r Alban.

"Mae pethau am fod hyd yn oed yn anoddach i'r rhanbarthau y tymor nesaf achos mae lot o chwaraewyr am adael oherwydd diffyg arian. Dydy'r rhanbarthau ddim yn gystadleuol y tymor yma, a dwi'n gweld yr un peth yn digwydd tymor nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar 20 Mawrth daeth y newyddion bod canolwr ifanc Caerdydd, Max Llewellyn, yn gadael y rhanbarth i arwyddo dros Gaerloyw

"Realiti'r sefyllfa yw os chi'n colli chwaraewyr o safon, a chi methu dod â chwaraewyr newydd i fewn, dyw e ddim am fod yn hawdd. Ond dyna'r sefyllfa ry'n ni ynddi. Os yw'r arian ddim 'na does dim posib cadw'r talent.

"Gobeithio y bydd y chwaraewyr sydd yn mynd dramor i chwarae yn dysgu a mwynhau eu rygbi, ac yna bydd cyfleoedd yn codi i'r chwaraewyr ifanc chwarae, achos bod rhaid nhw chwarae.

"Yn yr hir-dymor fe all hyn fod yn ffrwythlon i ni, ond yn y byr-dymor mae e am fod yn gyfnod anodd iawn."

Hefyd o ddiddordeb: