Â鶹ԼÅÄ

'Byddai wedi bod yn bosib osgoi argyfwng URC'

  • Cyhoeddwyd
Amanda Blanc ar Desert Island DiscsFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ/AMANDA MANGO BENSON
Disgrifiad o’r llun,

Amanda Blanc yw prif weithredwr benywaidd cyntaf y cwmni yswiriant Aviva

Mae cyn gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi rhannu mwy o fanylion am achosion o ymddygiad misogynistaidd tuag ati yn ystod ei chyfnod gyda'r undeb.

Fe gamodd Amanda Blanc, prif weithredwr y cwmni yswiriant Aviva, o'i dyletswyddau gyda bwrdd yr undeb a'r PRB yn Nhachwedd 2021, wedi llai na dwy flynedd yn y swydd.

Fe ddatgelodd Ms Blanc y llynedd ei bod wedi gwneud hynny am ei bod yn teimlo fod neb yn gwrando arni o fewn y bwrdd.

Cyfeiriodd at y profiad hynny a rhai o'r "sylwadau misogynistaidd" y bu'n rhaid iddi ei ddioddef wrth edrych yn ôl ar ei bywyd ar raglen Desert Island Discs Â鶹ԼÅÄ Radio 4.

"Roedd yna un, sef 'be wyddoch chi am lywodraethu?'. Wel, cryn dipyn mewn gwirionedd. Mae gen i 32 mlynedd o brofiad a rwy'n gweithio mewn busnes rheoledig.

"Chafodd neb arall y cwestiwn yna... Mi ges i ymddiheuriad dros hynny, ymddiheuriad ysgrifenedig."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd rhaglen Wales Investigates sawl cwestiwn am y diwylliant o fewn URC

Mae'r PRB yn cynnwys cynrychiolwyr URC a'r pedwar tîm rhanbarthol.

Mae rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates wedi taflu goleuni ar gyhuddiadau o anffafriaeth a chasineb at fenywod o fewn URC a gofyn pam na gyhoeddwyd adroddiad beirniadol o 2021 i gêm y menywod.

Dywed URC nad oes ganddyn nhw ganiatâd yr awdur na'r cyfranwyr i gyhoeddi'r adolygiad.

Fe wnaeth yr honiadau arwain at ymddiswyddiad y cyn-brif weithredwr, Steve Phillips.

Mae'r cadeirydd, Ieuan Evans a'r prif weithredwr dros dro, Nigel Walker wedi trefnu tasglu annibynnol - dan gadeiryddiaeth Y Fonesig Anne Rafferty - i asesu'r diwylliant o fewn URC.

Bydd cyfarfod cyffredinol arbennig hefyd yn cael ei gynnal ar 26 March i geisio sbarduno newid yn y ffordd mae'r undeb yn cael ei redeg.

'Rhwystredig a thrist'

Dywedodd Ms Blanc ei bod yn credu y gellid fod wedi osgoi'r fath argyfwng.

"Rwy'n dal yn wir yn teimlo... pe tasen nhw wedi gwrando arna'i, yna fydden ni heb gael y sefyllfa a gododd yn yr wythnosau diwethaf, yn arbennig yng nghyd-destun gêm y menywod,"meddai.

"Roedd yna adolygiad [gêm y] menywod i'r ffordd yr oedd menywod yn cael eu trin yn wahanol iawn i'r dynion.

"Fe alwais i am gyhoeddi'r adolygiad ac fe alwais i am foderneiddio llywodraethiant y bwrdd. Ni ddigwyddodd yr un o'r ddau beth yna a ry'n ni'n cael ein hunain nawr mewn sefyllfa ble mae llawer o fenywod wedi dod ymlaen i ddweud eu bod wedi cael eu trin yn wael.

"Fe wnaeth i mi deimlo'n rhwystredig iawn - yn drist iawn mewn gwirionedd.

"Ond rwy'n obeithiol gyda'r adolygiad sy'n cael ei gynnal nawr, ac rwy'n gobeithio y byddai'n cael cais i gyfrannu i'r adolygiad yna, ac y bydd yna newid, ond mae angen newid."

Pynciau cysylltiedig