Â鶹ԼÅÄ

Adolygiad Undeb Rygbi Cymru yn barod i dderbyn sylwadau yn ddienw

  • Cyhoeddwyd
cyn-chwaraewr Lloegr, Maggie AlphonsiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyn-chwaraewr Lloegr, Maggie Alphonsi yn rhan o'r panel adolygu

Bydd modd i bobl gyfrannu sylwadau yn ddienw i'r adolygiad i "ddiwylliant gwenwynig" o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Daeth yr honiadau i'r amlwg yn y rhaglen Â鶹ԼÅÄ Wales Investigates gan arwain at ymddiswyddiad prif weithredwr URC, Steve Phillips.

Sefydlwyd y tasglu annibynnol dan gadeiryddiaeth y cyn-farnwr Uchel Lys, y Fonesig Anne Rafferty, i asesu'r diwylliant o fewn URC.

Bellach, mae enwau gweddill y panel wedi cael eu cyhoeddi hefyd.

Ymhlith y rhai fydd yn ymgymryd â'r adolygiad mae cyn-chwaraewr Lloegr, Maggie Alphonsi, a Quentin Smith, cyn-gadeirydd clwb Sale Sharks a chadeirydd presennol Pwyllgor Eithriadau Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

'Poeni am siarad allan'

Yn gynharach yn y mis dywedodd AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, bod nifer o bobl wedi dweud wrthi y byddan nhw'n hoffi cymryd rhan yn yr adolygiad, ond yn poeni am ganlyniad siarad yn gyhoeddus.

Wrth gadarnhau y bydd modd cyfrannu'n ddienw, dywedodd llefarydd ar ran Sport Resolutions, y cwmni sy'n gweinyddu'r adolygiad, fod y panel "yn ddiolchgar i'r rhai sydd eisoes wedi anfon cyfraniadau".

"Mae'r panel eisiau annog cyfraniadau i'r adolygiad, ac rydym am wneud y broses mor hawdd â phosib i bob unigolyn," meddai.

"Bydd y panel hefyd yn croesawu cysylltiad a chyfraniadau gan rai sy'n dymuno aros yn ddienw."

Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-farnwr Uchel Lys, Anne Rafferty fydd yn cadeirio'r tasglu

Cadarnhaodd y bydd yr adolygiad "yn ymchwilio i honiadau o "rywiaeth, casineb at fenywod, homoffobia a hiliaeth, ac yn archwilio diwylliant yr URC ac ymddygiad yr arweinyddiaeth ar bob lefel".

Bydd y panel yn edrych yn benodol ar y cyfnod o 2017 i'r presennol, ond gallai hynny newid, yn ddibynnol ar y dystiolaeth, meddai.

Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach am y panel yn ystod y dyddiau nesaf, gan gynnwys diweddariad o unrhyw gynnydd a wneir gan y corff.  

Mae grŵp arall wedi cael ei sefydlu i gefnogi'r adolygiad a monitro ei gynnydd, sy'n cynnwys Henry Englehardt, aelod o fwrdd URC, ac Emma Wilkins o Chwaraeon Cymru.

Pynciau cysylltiedig