David TC Davies: Cymru i gael 'llais cryf' yn y cabinet

Disgrifiad o'r fideo, Bydd gan Gymru 'lais cryf' yn y cabinet newydd, yn ôl David TC Davies

Mae'n bwysig fod Cymru yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn ôl yr Ysgrifennydd Cymru newydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru ers cael ei benodi i'r swydd, dywedodd David TC Davies ei bod hi hefyd yn bwysig i Gymru "chwarae rhan fawr yn yr undeb".

Dywedodd AS Mynwy wrth Dros Ginio ar Radio Cymru fod y ffaith fod "cymaint o bobl o Gymru" wedi eu penodi i'r cabinet yn golygu llais cryf i Gymru.

Cafodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ei enwi yn brif chwip y Torïaid yng nghabinet y Prif Weinidog newydd, Rishi Sunak, ddydd Mawrth.

Allan o 31 Aelod Seneddol yn y cabinet newydd, Mr Hart a Mr Davies ydy'r unig rai sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghymru - cynnydd o ddau o'i gymharu â chabinet rhagflaenydd Mr Sunak, Liz Truss.

'Cysylltiad positif a chryf'

Gyda phleidiau gwahanol yn llywodraethu yng Nghaerdydd a San Steffan, roedd hi'n "anochel" y byddai tensiynau rhwng y ddwy lywodraeth ar brydiau, meddai Mr Davies.

Er bod David TC Davies yn rhagweld y byddai anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o bryd i'w gilydd, dywedodd ei fod wedi siarad â Mark Drakeford yn barod.

Ychwanegodd ei fod yn "edrych ymlaen at adeiladu cysylltiad positif a chryf" rhwng Caerdydd a San Steffan.

Dywedodd hefyd fod Mr Sunak wedi cael trafodaeth "bositif iawn" gyda Phrif Weinidog Cymru.

Roedd Mark Drakeford wedi dweud nad oedd y Prif Weinidog blaenorol, Liz Truss wedi bod mewn cysylltiad ag ef o gwbl ers iddi hi ymgymryd â'r swydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Rishi Sunak am i'w lywodraeth fod yn "sefydlog a phroffesiynol", meddai Ysgrifennydd Cymru

Ar ôl iddo gael sgwrs mae'n ei disgrifio fel "eithaf byr" gyda Rishi Sunak, dywedodd fod y Prif Weinidog newydd "wedi pwysleisio'r pwysigrwydd o gael llywodraeth sefydlog, pwysigrwydd o fod yn broffesiynol yn y ffordd i ni'n gweithio a hefyd i bwysleisio, er bod gyda ni broblemau yn yr economi, mae'n hynod o bwysig i helpu'r rhai gyda'r lleiaf yn ein cymdeithas".

Dywedodd Mr Davies mai un o'i flaenoriaethau fydd "gweithio gyda'r llywodraeth i ddelio gyda phroblemau costau byw".

Ond wrth ymateb i'r ffaith y bydd cyhoeddiad cyllidol y Canghellor yn cael ei oedi am bythefnos, dywedodd: "Beth sy'n bwysig ydy sicrhau bod y Canghellor yn gwneud pethau yn iawn, yn hytrach nag yn gyflym.

"Mae ffigyrau heddiw yn ymddangos bod marchnadoedd wedi tawelu ac yn gwerthfawrogi'r ffaith bod lot fwy o sefydlogrwydd nawr.

"Felly, mae'r Canghellor yn gwybod beth mae'n 'neud, ac mae o'n meddwl bod hi'n bwysig rhoi digon o amser i'r OBR [Office for Budget Responsibility] i fynd trwy'r ffigyrau hefyd i sicrhau bod pob dim yn iawn - a bydd hynny yn creu hyder gyda'r marchnadoedd ariannol."