Â鶹ԼÅÄ

Mark Drakeford wedi cael sgwrs gyda Rishi Sunak

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Drakeford siarad gyda Mr Sunak ar ei ddiwrnod cyntaf fel prif weinidog y DU

Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau ei fod wedi cael sgwrs gyda phrif weinidog newydd y DU, Rishi Sunak.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn gyfle i "longyfarch" Mr Sunak a "mynd i'r afael â'r heriau brys" sy'n wynebu'r DU.

Yn ystod ei chyfnod o 49 diwrnod fel prif weinidog, ni wnaeth Liz Truss godi'r ffôn i siarad gyda Mark Drakeford na phrif weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon,

Dywedodd Mr Sunak, sydd wedi ei benodi yn drydydd prif weinidog y DU o fewn saith wythnos, fod uno'r Blaid Geidwadol a'r DU yn "flaenoriaeth" iddo.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Wrth siarad yn gynharach ddydd Mawrth yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford y byddai'n codi pryderon am yr economi, dyfodol gwaith dur Tata, a dyfodol y DU gyda Mr Sunak.

Fe rybuddiodd mai'r peth diwethaf sydd angen ar y DU yw mwy o "lymder Torïaidd" - neu doriadau i wariant ar wasanaethau cyhoeddus.

Yn hwyr nos Fawrth, fe wnaeth Mr Drakeford rannu neges ar Twitter yn cadarnhau ei fod wedi siarad gyda Mr Sunak, a hynny ar ei ddiwrnod cyntaf fel prif weinidog y DU.

Dywedodd ei fod wedi cael cyfle i "longyfarch y Prif Weinidog a thrafod pwysigrwydd cydweithio fel pedair cenedl i fynd i'r afael â'r heriau brys sy'n ein hwynebu fel Teyrnas Unedig".

Fe wnaeth Mr Sunak rannu neges ar Twitter hefyd yn dweud ei bod wedi bod yn "dda siarad" gyda Mr Drakeford a Ms Sturgeon.

"Fe wnes i bwysleisio ein dyletswydd i gydweithio'n agos ac ymateb i'r heriau ry'n ni'n eu wynebu, fel y gallwn ni, gyda'n gilydd, weithredu ar gyfer pobl y Deyrnas Unedig," dywedodd Mr Sunak.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod siarad â Mr Sunak yn gyfle i fynd i'r afael â heriau brys y DU

Yn gynharach, roedd Mr Drakeford wedi addo dweud "mai'r peth diwethaf sydd angen ar bobl yng Nghymru, ac ar hyd y DU, yw dôs bellach o lymder Torïaidd".

"Dwi am weithio gydag ef i sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig."

Ychwanegodd Mr Drakeford y dylai dyfodol Tata fod yn "uchel ar y rhestr o flaenoriaethau".

Cyn yr alwad rhwng Mr Drakeford a Mr Sunak, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ddydd Mawrth y dylai Llywodraeth Cymru "dorri'r traddodiad a'u ffonio nhw" yn lle aros am alwad gan Downing Street.

Ychwanegodd Adam Price y byddai'n "symbol o hunan hyder ac yn neges ein bod ni'n gweld y berthynas yn gyfartal".

Dywedodd yr AS Ceidwadol Craig Williams fod angen "perthynas barchus ac aeddfed" rhwng y ddwy lywodraeth.

Wrth siarad ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast ddydd Mawrth dywedodd fod angen i wledydd y DU "gydweithio'n agos iawn" gan roi "ideolegau gwleidyddol i'r neilltu".

"Mae Mark Drakeford, yn greiddiol, yn ddyn da a dw i'n gwybod fod Rishi Sunak yn ddyn da. Dwi'n meddwl y bydd y ddau yn gweithio er budd cenedlaethol."