Â鶹ԼÅÄ

Penodi David TC Davies, AS Mynwy, yn Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David TC Davies ei ethol yn AS Mynwy yn 2005

Mae David TC Davies wedi cael ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru gan Brif Weinidog newydd y DU, Rishi Sunak.

AS Mynwy sy'n olynu Syr Robert Buckland, a ymddiswyddodd yn gynharach ddydd Mawrth wedi pedwar mis yn y swydd, wrth i Mr Sunak ddewis aelodau ei gabinet.

Roedd Mr Davies wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Sunak - a ddaeth yn Brif Weinidog y DU yn swyddogol ddydd Mawrth - yn y ras i olynu Liz Truss fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Mae'r penodiad yn ddyrchafiad i'r Ceidwadwr sydd wedi bod yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru ers Rhagfyr 2019.

Daeth cadarnhad brynhawn Mawrth hefyd fod y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, wedi ei benodi'n Brif Chwip y blaid yn NhÅ·'r Cyffredin.

Yn croesawu'r penodiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod Mr Davies yn "ffrind da" ac y bydd yn "parhau i fod yn bencampwr gwych i Gymru oddi fewn y cabinet".

Ychwanegodd y bydd yn "amhrisiadwy i sicrhau bod Cymru wrth galon Llywodraeth y DU, yn enwedig gan dynnu ar ei brofiad fel aelod cynulliad cyn dod yn AS".

Disgrifiad o’r llun,

Mae David TC Davies wedi bod yn flaenllaw o ran ymgyrchu dros, a gweithredu, Brexit

Cafodd Mr Davies ei eni yn 1970 a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Basaleg, yng Nghasnewydd.

Ar ôl gadael yr ysgol fe weithiodd i gwmni British Steel ac ymuno â'r Fyddin Diriogaethol cyn byw a gweithio dramor am rai blynyddoedd - Awstralia, yn bennaf, ble gweithiodd fel hyrwyddwr clwb nos, casglwr tybaco a gyrrwr ricsio.

Dychwelodd i'r DU a gyrru loris ar hyd y cyfandir cyn rheoli busnes cludo nwyddau ei deulu.

Roedd ymhlith sylfaenwyr ymgyrch yn gwrthwynebu datganoli, gan addo i wrthwynebu grymoedd pellach i Gymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli Mynwy yn y Cynulliad yn 2003.

Roedd yn AC tan 2007, ac mae wedi cynrychioli etholaeth Mynwy yn San Steffan ers 2005.

Mr Davies oedd cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan rhwng 2010 a 2019.

Mae wedi dysgu siarad Cymraeg ac roedd yn Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain am naw mlynedd.

Roedd yn gefnogwr brwd o'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac fe gafodd ei benodi'n Is-Weinidog Cymru gan Boris Johnson wedi etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.