Â鶹ԼÅÄ

'Cyfnod anodd' yn wynebu'r byd theatr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Peter Doran
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Peter Doran y bydd denu cynulleidfaoedd yn ôl yn waith caled

Mae cyfarwyddwr artistig sydd ar fin ymddeol wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru ei fod e'n rhagweld "cyfnod anodd" i fyd y theatr yng Nghymru.

Yn ôl Peter Doran, o Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, bydd hi'n cymryd "llawer o waith" i ddenu'r cynulleidfaoedd sydd wedi gadael y theatr yn sgil y pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r heriau" a bod Cyngor y Celfyddydau yn trafod y mater yn "rheolaidd" gyda'r sector.

Ychwanegodd llefarydd bod y sector wedi cael cefnogaeth "buddsoddiad digynsail" o £108m yn ystod y pandemig, a bod hynny wedi helpu i ddiogelu 2,700 o swyddi ledled Cymru.

Ffynhonnell y llun, Cwmni Torch
Disgrifiad o’r llun,

Y ddrama Grav oedd un o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus Theatr y Torch

Er gwaethaf ei bryderon, mae Mr Doran yn dweud bod Theatr y Torch wedi bod yn fagwrfa allweddol bwysig i awduron newydd fel Owen Thomas, oedd yn gyfrifol am y dramâu Grav a Carwyn.

"Os nad oes llefydd fel hyn ar gael, dyw pobl ddim yn cael cyfleon. Fe all pobl ddod yma a gwneud camgymeriadau," meddai.

Mae Mr Doran, a gafodd ei eni yn nhref Penfro, yn gyfrifol am rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y Torch fel One Flew Over a Cuckoo's Nest a Grav, drama sydd yn dal i gael ei pherfformio, saith mlynedd ar ôl iddi gael ei llwyfannu am y tro cyntaf.

Wrth iddo baratoi i adael ei swydd, mae Mr Doran yn dweud bod Theatr y Torch, sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 45 oed, yn "allweddol bwysig" mewn "ardal sydd wedi gweld llawer o galedi ar hyd y blynyddoedd".

Ond mae'n bryderus am y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Theatr Torch
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o gynyrchiadau hynod lwyddiannus Peter Doran oedd One Flew Over a Cuckoo's Nest

"Rwy'n falch nad ydw i yn dechrau mas nawr," meddai. "Rwy'n credu bydd hi'n anodd iawn dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae'r pandemig wedi bod yn anodd iawn i ni. Mae mynd i'r theatr yn arferiad.

"Chi angen gweld y bobl unwaith y mis, nid dwywaith y flwyddyn.

"Roedd gyda ni gynulleidfa deyrngar, ond mae'r arferiad wedi cael ei dorri, ac mi fydd hi'n cymryd tipyn o waith i gael y bobl yma nôl yn rheolaidd."

'Dim gwobr ariannol'

Yn ôl Peter Doran, mae diffyg arian yn broblem hefyd.

"Rwy'n teimlo fy mod i wedi bod yn gweithio gydag union yr un faint o arian â phan ddechreuais i.

"Hyd yn oed os ydych chi yn llwyddiannus, does yna ddim gwobr ariannol.

"Mae yna lawer iawn o dalent yng Nghymru. Ry'n ni yn cynhyrchu pobl ardderchog, ond mae ariannu'r celfyddydau yn anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jâms Thomas ei bod yn fraint perfformio yng nghynhyrchiad olaf Peter Doran, Of Mice and Men

Ei gynhyrchiad olaf wrth y llyw yw drama yn seiliedig ar nofel fawr John Steinbeck, Of Mice and Men.

Yn ôl Jâms Thomas, sy'n chwarae'r brif ran, mae'n "anrhydedd" i gael bod yn rhan o ddrama olaf Peter Doran.

"Pan wnaeth Pete ofyn i fi wneud o'n i'n teimlo bach o bwyse. Mae yna lot o gyfrifoldeb.

"Mae 'da fe'r talent 'ma i gael y gorau mas o bobl trwy gael nhw i ymlacio."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Henry Davies: 'Teimlad sbesial i weithio gyda Peter Doran'

Mae Mark Henry Davies wedi bod yn actio'n broffesiynol am flwyddyn, a fe sydd yn chwarae rhan Lennie Small.

"M'ond graddio o coleg wnes i flwyddyn yn ôl, so o'dd Peter ar y bucket list i fi.

"Mae gweithio yn Theatr y Torch a cael bod yna reit ar y diwedd, yn ei ddrama olaf, wel mae hwnna yn deimlad sbesial."

'Rhyfeddol' treulio 46 mlynedd ym myd y theatr

Yn ôl Peter Doran, un o'r heriau mawr wrth lwyfannu cynhyrchiad fel Of Mice and Men yw diffyg staff technegol.

"Mae'n broblem enfawr. Mae'r Coleg Cerdd a Drama yn cynhyrchu staff cefn llwyfan, ond maen nhw i gyd yn mynd i weithio ar gynyrchiadau teledu a ffilm, sydd yn talu yn well.

"Dyw llwyfannu drama fel hon ddim yn rhwydd bellach, ac mae'n rhaid chwilio am dîm."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod nhw wedi yn ddiweddar i hyfforddi pobl yn y diwydiannau creadigol.

Wrth iddo adael ei swydd, mae Mr Doran yn dweud ei fod yn edrych nôl gyda balchder ar y cynllun gwerth £6m i drawsnewid Theatr y Torch yn 2008, ac ar gynyrchiadau llwyddiannus.

"Rwy'n meddwl taw One Flew Over a Cuckoo's Nest oedd y cynhyrchiad mwyaf llwyddiannus. Mae pobl yn dal i siarad amdano.

"Grav sydd wedi para hiraf. Mae'r ddrama wedi bod i Efrog Newydd a Washington, ac ry'n ni mewn trafodaethau i fynd â hi i Adeilaide yn Awstralia. Mae hi wedi bod yn siwrne anhygoel."

Dywed ei fod e'n teimlo'n ffodus iawn i fod wedi treulio ei yrfa gyfan, fwy neu lai, ym myd y theatr.

"Mae'n rhyfeddol fy mod i wedi treulio 46 o flynyddoedd ym myd y theatr, fel bachgen dosbarth gweithiol o Benfro. Rwy'n gobeithio y gall unrhyw un gyflawni'r un peth."

Olynydd Peter Doran yn y swydd fydd Chelsey Gillard. Bydd hi'n dechrau yn ei rôl yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig