Â鶹ԼÅÄ

Cynulleidfaoedd theatr yn ôl, ond 'her yn parhau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
St David's HallFfynhonnell y llun, Gregg Normal/Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Neuadd Dewi Sant system awyru newydd ers dechrau'r pandemig

Fe fydd cynulleidfa lawn yn gwylio sioe mewn theatr yng Nghymru yn ddiweddarach, a hynny am y tro cyntaf ers y pandemig.

Wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio, ac yn benodol rheolau ffurfiol ar gadw pellter cymdeithasol, mae theatrau'n paratoi i groesawu cynulleidfaoedd eto.

Wedi 18 mis anodd i'r sector, mae 'na gydnabyddiaeth o'r her sy'n wynebu'r diwydiant wrth geisio cynyddu maint cynulleidfaoedd a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

Y comedïwr Jimmy Carr fydd yn theatr Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Fawrth, a hynny o flaen cynulleidfa lawn.

'Hyder y cyhoedd yn hollbwysig'

Mae Creu Cymru yn cynrychioli theatrau, canolfannau celfyddydau a chwmnïau cynhyrchu.

Mae'n dweud bod "hybu hyder y cyhoedd yn hollbwysig" i'r diwydiant.

Dywedodd Louise Miles-Payne o'r grŵp bod "lleoliadau o bob maint yn pryderu am y pwysau ariannol i agor gyda chynulleidfaoedd llawn".

"Mae 'na lawer sy'n teimlo mai parhau gyda phellter cymdeithasol ac felly cynulleidfaoedd llai fydd yr unig ffordd ymlaen i sicrhau hyder gan y cyhoedd."

Wrth i drefnwyr sioeau geisio ail-drefnu digwyddiadau gafodd eu canslo, ychwanegodd Ms Miles-Payne bod angen gofal.

"Fe fydd rheoli disgwyliadau trefnwyr a'r cyhoedd yn her newydd i lawer o leoliadau.

"Fe fydd rhai yn disgwyl i bopeth weithio fel yr arfer, ac eraill efallai'n cael sioc pan nad yw perfformiadau'n digwydd, a ddim yn deall pam bod pethau'n cael eu hail-drefnu."

Disgrifiad o’r llun,

Perfformiadau awyr agored ydy'r "cam cyntaf" i gynulleidfaoedd meddai Paul Kaynes

Cynnal perfformiadau yn yr awyr agored a chynyddu nifer y perfformiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn yw rhai o'r mesurau mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eu cymryd.

"Mae'n glir bod angen i ni barhau i fod yn hyblyg yn y cyfnod yma", meddai'r prif weithredwr Paul Kaynes.

"Roedd llawer o leoliadau'n adeiladu llwyfannau yn y meysydd parcio a mannau gwyrdd ac roedd gyda ni raglen gyffrous i'w gynnig i gynulleidfaoedd tu allan..."

"Dyma'r cam cyntaf i lawer o gynulleidfaoedd tuag at berfformio byw eto, cyn i ni ofyn wrthyn nhw gymryd naid yn ôl dan do."

Mae cynulleidfaoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio profion cyflym Covid-19 cyn mynd i ddigwyddiadau.

Pynciau cysylltiedig