Â鶹ԼÅÄ

Adfer y theatr yn dilyn 'effaith ysgytwol' Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Steffan Donnelly a'r Cyfarwyddwr Gweithredol Angharad Jones LeefeFfynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Angharad Jones Leefe a Steffan Donnelly yn gyd-brif weithredwyr o fis Mehefin 2022

Mae Cyfarwyddwr Artistig newydd y Theatr Genedlaethol yn wynebu'r her o adfer perfformio byw yn dilyn "effaith ysgytwol" y pandemig ar y diwydiant.

Yn olynu Arwel Gruffydd, bydd Steffan Donnelly hefyd yn cymryd rôl cyd-brif weithredwr y Theatr o fis Mehefin 2022.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn, mae wedi bod yn rhan o'r grŵp fu'n gyfrifol am sefydlu Llawryddion Celfyddydol Cymru yn ogystal â Cwmni Theatr Invertigo, sydd wedi teithio ledled Cymru a thu hwnt.

Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd Mr Donnelly ei fod yn gobeithio adeiladu ar waith ymchwil y mae eisoes wedi'i gwblhau, sy'n cynnwys dau adroddiad ar gyflwr y theatr yn dilyn dwy flynedd o'r pandemig.

Mae ei gyd-brif weithredwr, Angharad Jones Leefe, y Cyfarwyddwr Gweithredol presennol, o Sir Gaerfyrddin ac wedi gweithio i'r cwmni ers 2015.

'Does na ddim blueprint nagoes?'

"Mae theatr yn fforwm byw lle 'dan ni'n cyd-chwerthin, lle 'dan ni'n teimlo efo'n gilydd yn gwylio dramâu a phrofi digwyddiadau byw," meddai Mr Donnelly.

"Ond yn amlwg 'dan ni mewn amser rhyfedd iawn yn dod allan o rannau gwaetha'r pandemig a'r cyfyngiadau, felly mae 'na gwestiwn mawr ar gyfer rôl theatr mewn byd ôl-pandemig, gan ystyried bob dim 'dan ni di mynd drwyddi fel gwlad, ond hefyd ar ben ein hunain."

Ffynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn, mae Steffan Donnelly wedi helpu sefydlu Llawryddion Celfyddydol Cymru

Ychwanegodd: "Does 'na ddim blueprint nagoes? 'Dan ni 'rioed 'di profi rhywbeth fel hyn o'r blaen.

"Ond yn sicr 'dan ni di dysgu gymaint ers yr adeg yma ddwy flynedd yn ôl, o ran hygyrchedd, o ran sut i greu gwaith mewn ffyrdd gwahanol, yn nhermau digidol a trawsgyfrwng."

Yn ystod ei gyfnod yn cynrychioli gweithwyr llawrydd Cymru, darganfyddiad un o adroddiadau Mr Donnelly oedd fod un o bob pedwar o weithwyr llawrydd y sector ddim yn siŵr a oes ganddyn nhw ddyfodol yn y maes, a hynny wedi i'r ddwy flynedd ddiwethaf gael effaith sylweddol ar swyddi a chyflogau.

Gyda hynny mewn golwg, ychwanegodd mai un o'i flaenoriaethau yw i "ddatblygu ecosystemau o dalent creadigol a thechnegol", gyda'r canlyniad o gyfnod mwy llewyrchus i lawryddion.

"Mae 'na egni creadigol arbennig yma," ychwanegodd.

"Mae'r pandemig 'di cael effaith ysgytwol ar y diwydiant. Yn sicr mae'n rhaid blaenoriaethu adfer a chreu gwaith sy'n berthnasol ac am annog pobl yn ôl i'r theatrau a rhoi gwaith i lawryddion o ran sicrhau fod gwaith o ansawdd uchel, yn y Gymraeg, yn teithio.

"Mae hefyd rhaid sicrhau fod o ddim jyst yn digwydd mewn rhai ardaloedd, pan mae'n dod i'r Theatr Genedlaethol mae'n rhaid i bob gair yn y teitl gael yr un chwarae teg."

Denu pobl 'nôl i'r theatr

Mae gwaith Mr Donnelly fel actor yn cynnwys cyfnodau yn y Barbican a Theatr Clwyd, a sawl tymor yn Shakespeare's Globe.

Fel dramodydd mae hefyd wedi cyhoeddi dwy ddrama a rhedeg y llyfrgell ddigidol, dramau.cymru.

Ond gydag un o'r prif sialensiau nawr yn un o ddenu pobl yn ôl i'r theatrau, ychwanegodd yr angen i hefyd fod yn radical.

"Dwi'n awyddus i gynnal ysbryd artistig o fewn y cwmni, lle mae clasuron yn teimlo'n ffres a chyfoes a lle ma' ysgrifennu newydd yn teimlo fel clasuron y dyfodol.

"Mae angen apelio i ystod eang o oedrannau, cefndiroedd a byd olygon," dywedodd.

"Hefyd ella fod 'na chwant i ddadansoddi a dehongli cwestiynau mawr ein byd, sydd o gonsyrn yng Nghymru heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y prif weithredwyr newydd yn olynu Arwel Gruffydd

Ychwanegodd: "Dros y ddwy flynedd dwi'n sicr, fel unigolyn, dal i brosesu andros o lot a dwi'n tybio os oes gan theatr, fel fforwm byw, rhywbeth i gynnig yna.

"Mae hefyd angen edrych at y dyfodol a bod yn hyderus a chroesawgar fel iaith, pan yn ystyried dysgwyr ond hefyd y gallu 'sgynnon ni fel gwlad amlieithog i adrodd ein stori i weddill y byd.

"'Dan ni'n wlad fechan, ddeinamig. Mae gynnon ni iaith fywiog a chyffrous a 'dan ni'n rhan o draddodiad Ewropeaidd felly dwi'n edrych 'mlaen i wneud hynny ac adeiladu ar y gwaith anhygoel mae Arwel Gruffydd 'di gyflawni dros ddegawd.

"Dwi'n edrych ymlaen i weithio gydag Angharad a'r tîm i ddarparu rhaglen ysbrydoledig yn 2023."

'O nerth i nerth'

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, cadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru: "Rydym fel Bwrdd wedi'n cyffroi gan weledigaeth artistig a brwdfrydedd Steffan, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gefnogi Steffan ac Angharad yn eu rolau newydd.

"Hoffem gofnodi ein diolch hefyd i Arwel Gruffydd am ddatblygu Theatr Genedlaethol Cymru dros y cyfnod diwethaf ac am sicrhau bod seiliau cryf i adeiladu arnynt.

"Ry'n ni am weld Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd o nerth i nerth wrth greu theatr gyfoes ac ardderchog trwy gyfrwng y Gymraeg."

Pynciau cysylltiedig