Diswyddiadau'n bosib wrth ailstrwythuro Pobol y Cwm

  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n deall y gallai rhai o staff Pobol y Cwm golli eu swyddi o ganlyniad i ailstrwythuro.

Mae S4C, sy'n comisiynu'r rhaglen, wedi penderfynu parhau gyda'r drefn o dair rhaglen yr wythnos.

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Â鶹ԼÅÄ Studios: "Mae'r ffordd rydym yn cynhyrchu Pobol y Cwm yn newid.

"Rydym yn newid i fodel mwy hyblyg o gyflogi staff cynhyrchu, sy'n unol â nifer o gynyrchiadau eraill o fewn ein diwydiant.

"Rydym yn gwneud y newid hwn gan bod S4C wedi gofyn am lai o benodau yr wythnos ac nid yw'n gynaliadwy i barhau gyda'r model staffio presennol.

"Bydd ein cynulleidfaoedd yn parhau i gael gwylio a mwynhau Pobol y Cwm ar y sgrîn drwy gydol y flwyddyn."

Ymgynghori wedi dechrau

Fe gafodd yr ailstrwythuro ei drafod mewn cyfarfod gyda staff brynhawn Mercher ac mae cyfnod ymgynghori wedi dechrau.

Mae tua 30 o bobl yn gweithio ar y rhaglen yn barhaol.

Tra bydd yr un nifer o bobl yn gweithio ar y rhaglen, y disgwyl yw mai staff llawrydd fyddan nhw, a fydd yn cael eu defnyddio yn ôl y galw yn hytrach na'u cyflogi'n barhaol.

Roedd y rhaglen yn cael ei darlledu pedair gwaith yr wythnos tan fis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd S4C: "Mae Pobol y Cwm yn parhau i fod yn rhan bwysig o amserlen S4C.

"Bydd yn dal i redeg drwy'r flwyddyn (ag eithrio wythnosau'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol) ond ni fydd y cyfnod cynhyrchu'n rhedeg drwy'r flwyddyn."