Â鶹ԼÅÄ

Anghytundeb yn atal ailgychwyn ffilmio Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Pobol y Cwm

Nid yw ffilmio wedi ailgychwyn ar gyfer cyfres Pobol y Cwm ar ôl i Covid-19 ddod â phopeth i stop, oherwydd anghytundeb ynghylch cyllid, yn ôl ffynonellau.

Deallir nad yw Â鶹ԼÅÄ Studios, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, wedi dod i gytundeb â Â鶹ԼÅÄ Cymru eto ynglÅ·n ag arian.

Dywed Â鶹ԼÅÄ Cymru a Â鶹ԼÅÄ Studios eu bod yn gobeithio ailgychwyn ffilmio cyn gynted â phosib.

Dywed ffynonellau fod costau cynhyrchu'r rhaglen wrth gadw at reoliadau Covid-19 yn golygu bod modd creu llai o gynnwys am yr un faint o arian.

'Trafodaethau'n parhau'

Mae Pobol y Cwm yn opera sebon ddyddiol sy'n cael ei chynhyrchu gan Â鶹ԼÅÄ Studios a'i chomisiynu gan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Mae'n cael ei darlledu ar S4C fel rhan o ymrwymiad statudol Â鶹ԼÅÄ Cymru i ddarparu o leiaf 520 awr o raglenni ar gyfer y sianel. Pobol y Cwm a newyddion yw mwyafrif cynnwys rhaglenni'r Â鶹ԼÅÄ sy'n cael eu darparu.

Roedd y ffilmio i fod i ailgychwyn ddechrau Gorffennaf ond ddeuddydd cyn yr oedd i fod i ddechrau cafodd y cynhyrchu ei ohirio.

Mewn datganiad dywed Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mae'r trafodaethau a'r cynllunio yn parhau a phawb yn gweithio i ailgychwyn y cynhyrchiad cyn gynted â phosib ac mor saff â phosib yn unol â'r canllawiau diweddaraf."

Dywedodd llefarydd ar ran Â鶹ԼÅÄ Studios: "Rydym yn parhau i weithio trwy ein cynllun i gael yr holl ddramâu parhaus ar waith cyn gynted â phosibl. Rydyn ni'n gobeithio gallu darparu eglurder pellach ar hyn yn fuan iawn."

Dywed S4C eu bod yn "edrych ymlaen at gael Pobol y Cwm yn ôl ar yr awyr", ond ychwanegodd mai "mater i'r Â鶹ԼÅÄ yw hwn".