Â鶹ԼÅÄ

Cwtogi nifer penodau Pobol y Cwm yn sgil costau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pobol y Cwm

Mae S4C wedi cadarnhau y bydd nifer penodau'r gyfres deledu boblogaidd Pobol y Cwm yn cael ei gwtogi o bedair i dair yr wythnos o fis Tachwedd.

Costau Covid ychwanegol am y flwyddyn ariannol bresennol "yw'r prif reswm" am y penderfyniad, yn ôl y sianel.

Mae trafodaethau'n parhau gyda'r Â鶹ԼÅÄ ynglÅ·n â'r gyfres nesaf o fis Ebrill ymlaen.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod "nifer o bethau i'w hystyried a'u cytuno".

Mae'r materion hynny'n cynnwys "beth yw effaith Covid ar y drefn cynhyrchu o Ionawr ymlaen, costau ychwanegol sy'n deillio o gynhyrchu dan drefniadau Covid [a] deisyfiad S4C i gael cynnwys digidol / ar-lein dan faner Pobol y Cwm."

Mae angen hefyd "ystyried sut mae costau diweddaru offer technegol i gyd yn bwydo mewn i'r broses".

Ychwanegodd y llefarydd: "Gobaith S4C yw dod â'r trafodaethau i fwcl cyn gynted â phosib er mwyn i bawb gael eglurder ynghylch y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig