Â鶹ԼÅÄ

Pobl fregus a'r rhai dros 75 i gael pedwerydd pigiad Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl fregus ac oedolion dros 75 yn cael cynnig pedwerydd pigiad Covid-19 yn y gwanwyn.

Yn ôl y corff sy'n rhoi cyngor ar frechu, bydd y brechlyn ychwanegol yn rhoi amddiffyniad pellach ar ben y tri brechlyn sydd eisoes wedi eu cynnig.

Mae'n bosib y bydd y pedwerydd brechiad yn cael ei gynnig i grwpiau eraill yn yr hydref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI).

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd y cynllun yn cael ei ehangu i grwpiau eraill yn yr hydref

Hyd yma, dim ond pobl sydd â systemau imiwnedd gwan iawn oedd yn gymwys ar gyfer pedwerydd brechlyn.

Ond, yn y gwanwyn, y grŵp o bobl fydd yn gallu cael brechlyn ychwanegol yw:

  • pob oedolyn dros 75 oed;

  • pobl mewn cartrefi gofal i oedolion hÅ·n;

  • plant 12 oed ac yn hÅ·n sydd â system imiwnedd gwannach.

Bydd oedolion yn cael cynnig brechlyn Pfizer neu Moderna a phlant 12-18 oed yn derbyn Pfizer.

Yn ôl cyngor y JCVI, bydd gofyn bod bwlch o chwe mis rhwng eu dos diwethaf a'r pedwerydd brechlyn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan bod 70% o'r bobl sy'n gymwys wedi cael brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru.

"Mae pob brechiad a roddir yn helpu i ddiogelu Cymru. Heddiw, fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i'n hunigolion mwyaf agored i niwed.

"Mae'r data hyn yn awgrymu bod imiwnedd pobl hÅ·n yn fwy tebygol o ostwng o ganlyniad i leihad yng ngallu'r system imiwnedd i ymateb yn effeithiol i heintiau neu frechlynnau, a'u bod yn llawer mwy tebygol o gael salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio," dywedodd.

Ychwanegodd y Gweinidog ei bod hi'n bosib y bydd pobl sy'n wynebu "mwy o berygl o gael salwch difrifol os byddant yn dal COVID-19, fel y rheini sy'n hÅ·n a'r rheini sy'n perthyn i grwpiau risg clinigol" yn derbyn cynnig am y pedwerydd brechlyn yn yr hydref.

Dywedodd y bydd manylion y JCVI am y cynllun hwnnw yn cael ei rannu yn ddiweddarach.

Ychwanegodd hefyd "nad yw'n rhy hwyr" i bobl sydd heb dderbyn un o'r brechlynnau sydd wedi eu cynnig gan y byrddau iechyd i fynd am eu pigiad.