Â鶹ԼÅÄ

Pob plentyn 5-11 oed i gael cynnig brechlyn Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BRechu plant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y byddai plant bregus 5-11 yn cael eu brechu

Bydd pob plentyn pump-11 oed yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn Covid.

Yn y Senedd brynhawn Mawrth fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddweud ei bod yn dilyn argymhelliad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ond nad yw'r argymhellion eto wedi'u cyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn "cydweithio â byrddau iechyd i weithredu'r cynnig," meddai wrth y Senedd.

Yn ôl adroddiadau mae yna oedi cyn cyhoeddiad swyddogol y JCVI oherwydd anghytundeb gyda llywodraeth y DU.

Dyw'r gweinidog ddim wedi gosod amserlen ar gyfer y rhaglen frechu.

Dywedodd wrth Aelodau o'r Senedd: "Nid ydym yn mynd i weithredu hyn fel mater o frys fel ag a wnaethom yn ystod cyfnod y Nadolig.

"Mae hynny'n rhannol gan nad yw'r risg yn fawr i'r garfan yma.

"Ry'n ni hefyd yn disgwyl clywed gan y JCVI a fydd angen brechlyn atgyfnerthu arall ar bobl hÅ·n yn y gwanwyn."