Â鶹ԼÅÄ

Dim angen pàs Covid ar gyfer digwyddiadau dan do

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tu allan clwb nos
Disgrifiad o’r llun,

Mae pasys Covid wedi hollti barn

Mae'r cynllun pàs Covid ar gyfer digwyddiadau mawr, sinemâu, theatrau a chlybiau nos yng Nghymru yn dod i ben am hanner nos ddydd Gwener.

Ni fydd yn rhaid i leoliadau ofyn i ymwelwyr am y pàs, a all ddangos a yw rhywun wedi cael dau bigiad Covid, neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ddiweddar.

Dywedodd gweinidogion y byddai'n helpu busnesau i aros ar agor, ond roedd beirniaid wedi codi pryderon moesegol.

Roedd yn un o'r ychydig gyfyngiadau coronafeirws sydd ar ôl yng Nghymru.

'Dim arwydd o lwyddiant'

Mae gwrthwynebwyr wedi cwestiynu effeithiolrwydd y cynllun - mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud nad ydyn nhw "erioed wedi dangos unrhyw arwydd o lwyddiant".

Os bydd y lleoliad neu'r digwyddiad ei hun am fynnu pàs, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, meddai Llywodraeth Cymru.

Dylai teithwyr rhyngwladol edrych beth yw rheolau'r wlad y maen nhw am fynd iddi o ran y pàs Covid rhyngwladol, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd angen y pàs Covid i fynd i glybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd

Mae grŵp hawliau sifil yn awgrymu bod gweinidogion Cymru wedi derbyn mai effaith gyfyngedig fyddai'r pasys yn ei chael ar Covid.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru, yn ôl y grŵp rhyddid sifil Big Brother Watch, y gallai'r cynllun "wneud cyfraniad bach yn unig, ac mae'n debyg yn anfesuradwy, at leihau (neu arafu'r twf mewn) achosion difrifol o Covid-19, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau".

Fe wnaeth y sylwadau, meddai'r grŵp, mewn llythyr yn ymateb i'w camau cyfreithiol arfaethedig yn erbyn y pasys.

'Cadw busnesau'n agored'

Ond dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y pàs Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau'n agored ac i ddiogelu Cymru.

"Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a'u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni'n hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o'r diwedd ar fin dod ar fryn."

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at un o'r Eidal, yr Almaen a Ffrainc, a gyflwynodd dystysgrifau Covid - roedd yr astudiaeth yn awgrymu bod pasys yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn, yn atal colledion economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar ofal dwys.

Beth yw'r cynllun i gael gwared ar reolau Covid Cymru?

Cael gwared ar basys Covid yw'r cam cyntaf mewn cynllun tair wythnos i lacio rheolau coronafeirws Cymru.

Ar 28 Chwefror, bydd rheoliadau mygydau wyneb yn cael eu llacio fel mai dim ond mewn siopau, gan gynnwys siopau trin gwallt a salonau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd eu hangen.

Ni fydd eu hangen mwyach mewn lleoliadau eraill - gan gynnwys amgueddfeydd a sinemâu - o'r dyddiad hwnnw.

Gallai gweinidogion Cymru gael gwared ar y rheoliadau sy'n weddill, gan gynnwys cyfyngiadau hunan-ynysu a'r rheolau mygydau, erbyn diwedd y mis nesaf.

Nid oes dyddiad penodol wedi'i bennu, er bod disgwyl i weinidogion wneud eu penderfyniad ar neu o gwmpas 3 Mawrth.

Mae rheolau mygydau eisoes wedi'u diddymu yn Lloegr a gallai cyfyngiadau hunan-ynysu ddod i ben yno y mis hwn.