Â鶹ԼÅÄ

Covid: Ailgyflwyno profion PCR i deithwyr o dramor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cyrraedd maes awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rheolau ar brofion PCR i deithwyr o dramor eu llacio lai na mis yn ôl

Bydd Cymru'n dilyn gweddill y DU wrth ailgyflwyno profion PCR gorfodol i unrhyw un sy'n teithio i'r wlad o dramor.

Daw hynny yn sgil pryderon am amrywiolyn Covid newydd - sydd bellach wedi cael yr enw Omicron - wrth i'r ddau achos cyntaf gael eu cadarnhau yng nghanolbarth Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hyn yn "ddatblygiad difrifol yn y pandemig", ac y byddan nhw'n cyfarfod dros y penwythnos i drafod camau pellach.

Mae Boris Johnson wedi dweud bellach y dylai pobl yn Lloegr wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto - rheol sydd wedi parhau i fod mewn grym yng Nghymru.

'Llacio'n rhy gyflym'

Cafodd De Affrica, Namibia, Zimbabwe, Botswana, Lesotho ac Eswatini eu hychwanegu at restr deithio goch y DU ddydd Gwener, yn dilyn pryderon fod yr amrywiolyn newydd wedi ei ganfod mewn sawl gwlad yn ne cyfandir Affrica.

Mae disgwyl i Gymru hefyd ddilyn y DU wrth ychwanegu Angola, Mozambique, Malawi a Zambia i'r rhestr goch o 04:00 ddydd Sul.

Bellach mae achosion o amrywiolyn Omicron wedi'u cadarnhau mewn gwledydd fel Hong Kong, Israel a Gwlad Belg hefyd, yn ogystal â Phrydain.

Mae'r cyfyngiadau newydd eisoes wedi cael effaith sylweddol ar deithwyr, yn ogystal â dau o ranbarthau rygbi Cymru sy'n parhau i fod yn sownd yn Ne Affrica ble roedden nhw i fod i chwarae dros y penwythnos.

Roedd Caerdydd a'r Scarlets wedi sicrhau awyren i'w hedfan adref, ond doedd dim modd cael caniatâd i'r awyren hwnnw hedfan - ac felly fyddan nhw ddim yn dychwelyd yn ôl cyn 04:00 ddydd Sul.

Mae'n rhaid i unrhyw deithwyr sy'n cyrraedd o wlad 'goch' ar ôl hynny dreulio 10 diwrnod o gwarantin mewn gwesty, yn hytrach nag adref.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y datblygiadau diweddar yn profi pa mor fyrbwyll oedd Llywodraeth y DU wedi bod wrth lacio rheolau teithio fis diwethaf, gan gynnwys yr angen i gymryd prawf PCR ar ôl dychwelyd.

"Mae ymddangosiad yr amrywiad Omicron newydd yn ddatblygiad difrifol yn y pandemig," meddai llefarydd.

"Mae'n atgyfnerthu'r angen i bawb yng Nghymru gael eu brechlyn neu bigiad atgyfnerthu, i wisgo masgiau pan fo angen, ac i archebu prawf os ydyn nhw'n datblygu symptomau.

"Rydym wedi codi ein pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU ynghylch eu penderfyniad i lacio rheolau teithio rhyngwladol yn gyflym, yn benodol oherwydd y risg o gyflwyno amrywiadau newydd i'r DU.

"Rhybuddiwyd hefyd rhag cael gwared â phrofion PCR ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd i'r wlad.

"Byddwn yn cyflwyno'r un mesurau ar deithio rhyngwladol â'r rhai a gyhoeddwyd y prynhawn yma gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill.

"Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i gwrdd heno a thros y penwythnos i fonitro'r sefyllfa yng Nghymru a phenderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach i amddiffyn iechyd y cyhoedd."