Â鶹ԼÅÄ

Dim angen prawf PCR ar ôl teithio dramor o 31 Hydref

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cyrraedd o wyliauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r newidiadau i rym yng Nghymru wythnos ar ôl Lloegr

Bydd pobl o Gymru sy'n teithio dramor ddim yn gorfod cymryd prawf PCR o ddiwedd y mis.

Yn hytrach bydd pob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cymryd prawf llif unffordd, neu lateral flow.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r newid yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y DU.

Daw'r newidiadau i rym yng Nghymru ddydd Sul, 31 Hydref.

Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r newidiadau yma yn Lloegr ddydd Sul, 24 Hydref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd hi'n bosib i gyflwyno'r newidiadau ar yr un pryd "gan nad ydym wedi cael digon o wybodaeth mewn da bryd gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd y newidiadau hyn yn gweithio'n ymarferol".

"Nid yw hyn yn ddelfrydol," meddai'r gweinidog iechyd, Eluned Morgan.

Beth ydy'r rheolau?

O 31 Hydref ymlaen bydd pob oedolyn yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn Covid a'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc dan 18 oed, sydd wedi teithio o wledydd sydd ddim ar y rhestr goch, yn gallu cymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 2, neu cyn hynny, ar ôl iddyn nhw gyrraedd y DU.

Os bydd pobl yn cael canlyniad prawf llif unffordd positif ar ôl dychwelyd o deithio dramor, bydd gofyn iddyn nhw hunan-ynysu am 10 diwrnod a chymryd prawf PCR dilynol.

Bydd y dewis ar gael o hyd i bobl drefnu a chymryd prawf PCR fel y prawf gofynnol ar ddiwrnod 2, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Llywodraeth Cymru yn 'bryderus'

"Rydym yn dal i fod yn bryderus am ddull gweithredu Llywodraeth y DU - a pha mor gyflym y mae'n mynd ati o ran agor teithio rhyngwladol a'i phenderfyniadau i newid y mesurau iechyd ar y ffin, sy'n amddiffyniadau pwysig i atal y risg y bydd achosion newydd - ac amrywiolion newydd o'r coronafeirws - yn dod i mewn i'r DU," meddai Eluned Morgan.

"Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i ddefnyddio dull rhagofalus o ran ailagor teithio rhyngwladol.

"Fodd bynnag, mae'n anodd inni fabwysiadu trefn brofi wahanol i'r hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr o Gymru yn dod i mewn i'r DU drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr.

"Byddai cael gofynion profi gwahanol yn achosi problemau ymarferol sylweddol, dryswch ymhlith y cyhoedd sy'n teithio, materion logistaidd, trefniadau gorfodi ar ein ffiniau ac anfanteision i fusnesau Cymru."

Ychwanegodd: "Rydym wedi dod i'r penderfyniad hwn drwy gydbwyso anghenion iechyd y cyhoedd â rhai'r sector teithio yn erbyn cefndir o ailagor cynyddol o ran teithio rhyngwladol.

"Ar ôl ystyried y goblygiadau'n fanwl, rwyf wedi penderfynu'n gyndyn am resymau ymarferol mai cyd-fynd yn agos â threfniadau Llywodraeth y DU yw'r opsiwn mwyaf addas.

"Rydym yn parhau i annog pobl i deithio am resymau hanfodol yn unig.

"Rwyf yn pryderu bod Llywodraeth y DU, yn ei brys i gyflwyno'r newidiadau diweddaraf hyn i deithio rhyngwladol, wedi creu system sydd â diffyg goruchwyliaeth a safonau i'r farchnad weithredu ynddi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i "ofyn am sicrwydd y bydd y system ar gyfer profion llif unffordd ar ddiwrnod 2 yn cael ei chryfhau".

"Rhaid i benderfyniadau am deithio rhyngwladol gael eu gwneud yn wirioneddol ar sail pedair gwlad," ychwanegodd.

"Mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl sy'n byw ym mhob rhan o'r DU ac ni allwn eu gwneud ar wahân i'n gilydd."